Mae'r Brifysgol yn falch o weithio gyda busnesau lleol a chenedlaethol, yn ogystal ag Ysbyty Undeb Wuhan, i ddod o hyd i atebion er mwyn helpu'r frwydr yn erbyn Covid-19.

Mae Ysbyty Undeb Wuhan yn gartref i ganolfan feddygol ar y cyd, a agorwyd ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cydweithrediad hirsefydlog a llwyddiannus rhwng y Brifysgol a'r ysbyty. O ganlyniad i hyn, gwnaeth y Brifysgol chwarae rôl allweddol wrth drefnu cynhadledd fideo y mis diwethaf rhwng cynrychiolwyr o fyrddau iechyd yng Nghymru ac uwch-feddygon yn Ysbyty Undeb Wuhan er mwyn rhannu profiadau a dysgu oddi wrth staff a aeth i'r afael â Covid-19 ar y cychwyn cyntaf.

Yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn rhan o gonsortiwm newydd ei sefydlu, sef SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru), sy'n cydlynu gallu diwydiant, gweithgynhyrchu a dylunio i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol allweddol yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen.

Er mwyn ateb y galw cynyddol am hylif diheintio dwylo, yn y wlad hon a thramor, mae busnes un o ddarlithwyr Prifysgol Abertawe ym mhenrhyn Gŵyr bellach yn gwneud hylif diheintio dwylo yn hytrach na jin. Yn yr un modd, mae labordy technoleg solar yn y Brifysgol wedi troi at gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos. Defnyddir yr hylif gan y GIG yn lleol eisoes ac mae'r tîm yn y Brifysgol sy'n gyfrifol am y fenter yn gweithio gyda Chartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, a Gofal a Thrwsio Cymru ar hyn o bryd, gan gyflenwi 2,000 o boteli pum litr i 35 o sefydliadau tai ledled Cymru.

Mae Abertawe'n chwarae rôl ganolog mewn menter gwerth £4.85m a fydd yn cefnogi ymchwil o safon ryngwladol ar raddfa fawr yng Nghanolfan Prime Cymru. Dyma Ganolfan Cymru Gyfan a arweinir ar y cyd gan brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor, a Phrifysgol De Cymru. Mae'r Ganolfan wedi addasu pwyslais ei gwaith ymchwil er mwyn helpu i fynd i'r afael â heriau digynsail Covid-19, gan fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil sy'n ymwneud â gofal cyn mynd i'r ysbyty, gofal brys a gofal sylfaenol. Bydd cyfle i Abertawe feithrin partneriaethau presennol a newydd â phrifysgolion, y GIG, maes gofal cymdeithasol, y trydydd sector, cleifion a'r cyhoedd yn gyffredinol. Bydd Abertawe’n edrych yn benodol ar effaith ‘llythyrau gwarchod’ fel dull o ymyrryd er iechyd y cyhoedd.

Cynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio yr wythnos ar gyfer y GIG

Cynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio yr wythnos ar gyfer y GIG

Helpwch ni yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a chefnogwch y rhai mewn angen

Rhowch rodd

Two hands holding a black heart