Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio logisteg profion llif unffordd Covid-19 newydd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru (11 Tachwedd).
Sicrhau y gall ein myfyrwyr deithio gartref yn ddiogel ar gyfer y Nadolig yw ein blaenoriaeth ac felly rydym yn eich annog i drefnu i deithio gartref ar ôl eich gweithgaredd olaf ar y campws er mwyn i chi adael yn ddiogel. Hefyd, bydd myfyrwyr sy'n bwriadu aros yn eu llety Prifysgol dros gyfnod y Nadolig yn dal i allu gwneud hynny.
Er mwyn lleihau’r posibilirwydd o gludo’r haint adref, mae Llywodraeth Cymru’n gofyn i fyfyfwyr leihau cysylltiadau cymdeithasol cyn diwedd y tymor.
Bydd y Brifysgol yn eich hysbysu o gynlluniau dod ag addysgu ar y safle i ben y tymor hwn a hefyd drefniadau ar gyfer y rhai hynny mewn llety i adael y campws yn ddiogel. Rydym yn bwriadu parhau i gyflwyno addysgu cyfunol ym mis Ionawr yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch ac arweiniad y Llywodraeth.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn y Nadolig i gefnogi ein myfyrwyr a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ran y cynlluniau profi.