Caiff y cwestiynau hyn eu diweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu'r canllawiau swyddogol diweddaraf.
Ymholiadau i'r Brifysgol a chwestiynau cyffredinol
Y Brifysgol
A yw'r Brifysgol ar agor?
Cyfleusterau Campws
Mae'r staff sy'n gallu gweithio o bell yn parhau i wneud hynny wrth i'r broses o ddychwelyd yn raddol i weithio ar ein campysau fynd rhagddi. Mae dychwelyd i'r campysau'n broses gymhleth iawn a chaiff ei rheoli'n ofalus. Bydd myfyrwyr ac aelodau o staff yn cael gwybodaeth fanylach gan eu Cyfarwyddiaeth, eu Coleg neu eu Hysgol.
Ni chaniateir mynediad heb awdurdod i unrhyw adeilad ar ein campysau, nac unrhyw safle na chyfleuster arall sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, gan gynnwys pob labordy ymchwil. Rhaid i fynediad barhau i gael ei awdurdodi'n briodol. Gweler yr wybodaeth am fynediad i adeiladau ar y tudalennau i Staff a Rheolwyr Staff a Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer y broses a'r ffurflen awdurdodi.
- Mae ein neuaddau preswyl ar agor.
- Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Llyfrgell a TG ar gael ar eu tudalennau gwe neu drwy e-bostio gwasanaethau cwsmeriaid. Mae ein llyfrgelloedd ar gau i'r cyhoedd.
- Ceir gwybodaeth am oriau agor a mesurau diogelwch yn ein lleoliadau drwy fynd i dudalennau'r gwasanaethau arlwyo.
- Mae Taliesin, y Neuadd Fawr a'r Ganolfan Eifftaidd ar gau nes y cyhoeddir yn wahanol.
Dysgu ac Addysgu yn y flwyddyn academaidd i ddod – 2021/22
Rydym yn llunio ein dulliau cyflwyno er mwyn sicrhau y bydd pob myfyriwr a fydd yn ymuno â ni yn 2021/22 yn cael eu haddysgu, yn cael astudio ac yn mwynhau bywyd myfyriwr mewn amgylchedd diogel a chroesawgar. Byddwch yn gwerthfawrogi ei bod hi'n amhosib darparu gwybodaeth fanwl gywir fisoedd ymlaen llaw mewn sefyllfa newidiol, ond gellir tawelu eich meddwl ynghylch y canlynol:
- Cyflwynir pob rhaglen astudio'n ddiogel. Os bydd yn briodol, bydd hyn yn cynnwys cyfuniad o addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb.
- Os bydd angen er diogelwch, cyflwynir addysgu wyneb yn wyneb mewn fformat cymysg gan osgoi darlithoedd mawr.
- Byddwn yn cofrestru ac yn ymsefydlu myfyrwyr ar-lein yn ogystal â chynnal wythnos groeso ym mis Medi.
- Bydd llety'r Brifysgol ar gael fel arfer gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith. Am ragor o wybodaeth am lety yn Abertawe, ewch i'r tudalennau gwe ynghylch Llety.
- Byddwn yn cynorthwyo ac yn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol, os bydd rheolaethau cwarantin ar waith ar yr adeg pan fyddant yn cyrraedd.
Byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd i staff, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
Diwrnodau Agored
Mwy o wybodaeth am ein Diwrnodau Agored – Israddedig ac Ôl-raddedig
A yw cyfleusterau cyhoeddus y Brifysgol ar agor?
Cyfleusterau Campws
Mae'r staff sy'n gallu gweithio o bell yn parhau i wneud hynny wrth i'r broses o ddychwelyd yn raddol i weithio ar ein campysau fynd rhagddi. Mae dychwelyd i'r campysau'n broses gymhleth iawn a chaiff ei rheoli'n ofalus. Bydd myfyrwyr ac aelodau o staff yn cael gwybodaeth fanylach gan eu Cyfarwyddiaeth, eu Coleg neu eu Hysgol.
Ni chaniateir mynediad heb awdurdod i unrhyw adeilad ar ein campysau, nac unrhyw safle na chyfleuster arall sy'n eiddo i Brifysgol Abertawe, gan gynnwys pob labordy ymchwil. Rhaid i fynediad barhau i gael ei awdurdodi'n briodol. Gweler yr wybodaeth am fynediad i adeiladau ar y tudalennau i Staff a Rheolwyr Staff a Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer y broses a'r ffurflen awdurdodi.
- Mae ein neuaddau preswyl ar agor.
- Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Llyfrgell a TG ar gael ar eu tudalennau gwe neu drwy e-bostio gwasanaethau cwsmeriaid. Mae ein llyfrgelloedd ar gau i'r cyhoedd.
- Ceir gwybodaeth am oriau agor a mesurau diogelwch yn ein lleoliadau drwy fynd i dudalennau'r gwasanaethau arlwyo.
- Mae Taliesin, y Neuadd Fawr a'r Ganolfan Eifftaidd ar gau nes y cyhoeddir yn wahanol.
A yw digwyddiadau'r Brifysgol wedi'u canslo?
Mae Taliesin, y Neuadd Fawr a'r Ganolfan Eifftaidd ar gau nes y cyhoeddir yn wahanol ac mae eu holl ddigwyddiadau wyneb yn wyneb wedi'u canslo neu eu gohirio. Rhestrir ein digwyddiadau ar-lein ar Galendr Digwyddiadau'r Brifysgol.
Yn dilyn y cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar 23 Mawrth 2020, dylai trefnwyr ganslo digwyddiadau wyneb yn wyneb.