Coronafeirws: y diweddaraf
Ergyd ongl uchel o gymdogaeth maestrefol

Yr Her
Mae perchenogaeth ail gartrefi yn nodwedd amlwg mewn nifer o gymunedau cefn gwlad ac yn enwedig mewn cymunedau arfordirol yng Nghymru. Gall eiddo fod yn llawer drutach yn y lleoliadau hyn nac mewn ardaloedd cyfagos ac fel arfer maent yn wag am gyfnodau hir o’r flwyddyn. Yn aml ceir canfyddiad gan bobl leol y gall hyn danseilio bywyd cymunedol. Mae’r rhai sy’n beirniadu perchenogaeth ail gartrefi’n dadlau bod ail gartrefi’n gyrru pobl ifanc o’u cymunedau ac yn tanseilio’r iaith Gymraeg.

Y Dull
Rhan graidd y prosiect yw astudiaeth gymharol ar bolisi perchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru ac yng Nghernyw. Yng Nghymru mae cynghorau lleol yn meddu ar bwerau i godi ‘premiwm’ treth y cyngor ar ail gartrefi. Yng Nghernyw gall cynghorau cymuned ddefnyddio darn o ddeddfwriaeth Seisnig, y Ddeddf Frogarwch, er mwyn ceisio rheoli’r twf mewn perchenogaeth ail gartrefi trwy’r system gynllunio. Trwy edrych ar Gymru a Chernyw mewn cyd-destun cymharol bydd modd i’r prosiect gymharu dulliau cyllidol a chynllunio ar gyfer y mater hwn. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio cwestiynu a yw ail-gartrefi’n niweidio’r iaith Gymraeg. Cymerwyd y rhagdybiaeth hon yn ganiataol yng Nghymru ond nid yw hyn erioed wedi’i brofi.

Yr Effaith
Bydd y prosiect yn llunio adroddiad byr a fydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Bydd hwn hefyd yn gynsail i erthygl yng nghyfnodolyn Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon, sef noddwyr y prosiect hwn. Gobeithir bydd y canfyddiadau’n helpu i ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus yn y maes.