The Opposition to the Great War in Wales 1914 - 1918, Gwasg Prifysgol Cymru

Llyfr diweddar Dr Aled Eirug yw’r dyma'r astudiaeth gyntaf o'r gwrthwynebiad i'r Rhyfel Mawr yng Nghymru, a'r dadansoddiad mwyaf manwl o'r gwrthwynebiad mewn rhan o Brydain. Datblygodd y gwrthwynebiad yn gyflym a dadansoddir y ddau ffrwd o'r gwrthwynebiad - ymateb yr heddychwyr Cristnogol, Cymdeithas y Cymod a phapur Y Deyrnas, a'r chwith radical yn y Blaid Lafur Annibynnol a Ffederasiwn Glowyr De Cymru a ysbrydolwyd gan Chwyldro Rwsia. Am y tro cyntaf, dadansoddir y 900 o wrthwynebwyr cydwybodol o Gymru - pwy oedden nhw, beth ysbrydolodd nhw i wneud safiad yn erbyn grym y wladwriaeth ynghanol rhyfel dychrynllyd.      

Clawr blaen