Arall Rhamantaidd LLoegr - Dr Simon Brooks

O ran Brexit, mae diwedd y daith mewn golwg. Mae’r sefydliad yn apocalyptaidd yn ei gylch, ac yn rhagweld chwalfa economaidd. Yn ddiwylliannol, cymerir yn ganiataol y bydd Brexit yn arwain at Gymru fwy Prydeinig a fydd hefyd yn llai Cymreig.

Mae’r dadansoddiad economaidd yn gywir. Mae Cymru’n ddibynnol iawn ar gymhorthdal strwythurol Ewropeaidd, a bydd gadael y Farchnad Sengl yn cael effaith ddinistriol ar allforwyr o Gymru, sy’n bobl go-iawn mewn cymunedau go-iawn (ffermwyr, er enghraifft). ‘Glaw asid’ fydd hwn i ddyfynnu’r hanesydd Gwyn Alf Williams mewn cyd-destun cyfalafol arall.

Bydd yr effaith ar ddiwylliant a hunaniaeth Cymru’n bellgyrhaeddol. Os yw Cymru wledig a chymoedd y de yn dod yn dlotach eto fyth, mae’n bosib y bydd y Gymraeg yn cael ei chwalu fel iaith gymunedol yn y Gymru wledig. A gallai symudiad go-iawn i’r Dde wrth-ddatganoli gychwyn yn y cymoedd diwydiannol. Dyma’r ddwy ranbarth bleidleisiodd dros ddatganoli yn 1997. Ond mae datganoli wedi methu yn y ddwy ardal hon, a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd i gyfansoddiad Cymru mewn storom mor arw â’r un a wynebwn wedi Brexit.

Fodd bynnag, mae’n annhebygol y caiff Cymreictod ei ddisodli gan Brydeindod yn sgil Brexit yn llwyr.

Mae pob gwlad angen ei ‘Harall’, ei mangre tywyll, ei bol tywyll rhamantaidd sydd dan y dŵr o olwg y byd, ac uwchben hwnnw mae bywyd rhesymolaidd yn mynd yn ei flaen. Mae pob teyrnas angen rhyw boblach na fydd yn eu difa, ond yn hytrach yn eu rhamantu. Mae pob gwladwriaeth angen llefydd i enaid gael llonydd.

Wedi Brexit, Cymru fydd y lle hwn.

Yn hanesyddol, cafodd anghenion o’r fath eu boddhau gan yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae Brexit yn freuddwyd Freudaidd, sy’n hiraethu am drefedigaethau coll gyda’u Harall dwyreiniedig, diogel. Yn ddiweddar, cynigiodd yr Undeb Ewropeiaidd i’r dosbarth canol lefydd i ymweld â nhw a mwynhau bywyd.

Nid tynged gweithwyr ceir yn Sunderland, neu weithwyr ffatri ym Merthyr, sy’n cadw dinasyddion gwâr y Lloegr Ryddfrydol yn effro gyda’r nos. Colli’r hawl i symudoledd sy’n eu pryderu; yr awydd i gyrchu Avignon a Barcelona a Berlin a llynnoedd yr Eidal ar benwythnosau rhydd gydag Easyjet. Gallant fynd o hyd, ond llefydd estron byddant.

Mae Lloegr wedi bod yma o’r blaen wrth gwrs. Yn dilyn y Chwyldro Ffrengig, cedwid y Saeson allan o Loegr. Nid oedd modd mwynhau’r ‘Daith Fawreddog’ fel yn y ddeunawfed ganrif mwyach, pan aeth y bendefigaeth i’r cyfandir i astudio celf yr Eidal, a gwella’u Ffrangeg, a chyfeillachu. Mae diflaniad y daith honno’n dynodi un o drobwyntiau hanes diwylliannol Lloegr.

Ni chafodd y gobaith am yr aruchel a’r Rhamantaidd ei golli’n llwyr fodd bynnag. Ail-ymddangosodd yn Ucheldiroedd yr Alban, yn Ardal y Llynnoedd, ac yng Nghymru. Roedd y cyrion Celtaidd wedi eu rhamantu eisoes – dengys llyfr taith Samuel Johnson o 1775, A Journal to the Western Islands of Scotland, hynny’n glir.

Ond cafodd hwb gan y Brexit Gweriniaethol a Napoleonaidd. A fyddai Wordsworth wedi cyfansoddi llinellau ‘a few miles above Tintern Abbey, on revisiting the Banks of the Wye’ ym mis Gorffennaf 1798 pe buasai yn Naples? Go brin. Roedd y toriad yn seicolegol yn bennaf oll, oherwydd medrai Rhamantwyr ymweld â’r Cyfandir o hyd.

Ni wnaeth ailddarganfod Prydain orthrymu’r boblogaeth leol ychwaith. Yn wir, y cyfnod rhwng y Chwyldro Ffrengig a chyhoeddi’r Llyfrau Gleision yn 1847 yw uchafbwynt cenedlaetholdeb diwylliannol Cymreig, pan gâi gwirioneddau am enaid dragwyddol yr iaith Gymraeg a’r genedl Gymreig eu datgan, gan y brodorion yn ogystal. Dim ond yn awr gogoniant yr Ymerodraeth Fictoraidd y dechreuai’r breuddwydion Rhamantaidd hyn ddiflannu. Diflannant dros y gorwel, i’r India a Hong Kong a Kenya.

Dyma wirionedd pwysig. Bydd cynnydd mewn gwlatgarwch Prydeinig yn mynd law-yn-llaw â chynnydd mewn gwlatgarwch Cymreig, a hynny am eu bod yn rhan o’r un peth.

Ni fydd cau ffiniau, sydd yr un mor seicolegol â real, ar ôl Brexit yn gwneud Cymru’n rhan o Loegr. Yn hytrach, caiff Cymru ei hailddyfeisio fel lle ar gyfer ffantasïau Seisnig. Cymru fydd Arall Lloegr – yr Arall sydd newydd ei ailddarganfod.

Bydd Lloegr yn gweld Cymru fel ‘nid Lloegr’; lle sy’n ecsotig ond yn ddiogel, yn hygyrch ond yn wahanol, yn swynol ond yn debyg. Fwy na thebyg, bydd y weledigaeth hon yn neo-drefedigaethol ac yn fychanus, ac yn ddiflas braidd. Ond mi dalith y bils. Ac hwyrach caiff y Cymry eu hannog i hyrwyddo eu treftadaeth eu hunain.

Beth yw ystyr hyn mewn termau polisi? Mae daearyddiaeth Rhamantiaeth ar ei chliriaf yn y Gymru wledig. Bydd mwy o dwristiaeth, mwy o ddychmygu Cymru o’r tu allan, mwy o fewnfudo. Bydd mwy o gerdded ar bryniau na’u hamaethu. Bydd llai o waithgynhyrchu a diwydiant.

Dylai fod ymateb o ran polisi cyhoeddus wrth i economi a chymdeithas Cymru gael eu hail-lunio fel hyn. Dylai codi arian trwy dreth twristiaeth, datblygu polisïau tai cymwys, a chreu strategaeth iawn ar gyfer goroesiad y Gymraeg fel iaith gymunedol, fod wedi eu cymeradwyo eisoes. Dylid amddiffyn y fferm deulu am resymau cymdeithasol yn hytrach nag economaidd. Yn y dyfodol, ynni yw’r ffordd orau i’r Gymru wledig wneud arian. 

Ond a fydd hyn yn ddigon i rwystro Rhamanteiddio Cymru? Go brin.