Huw Edwards yn arwain noson fawreddog i godi arian i Gronfa Goffa Hywel Teifi

Ar nos Wener Ionawr 29ain, cynhaliodd Academi Hywel Teifi ginio mawreddog yn Neuadd Fawr Campws y Bae, i godi arian i Gronfa Goffa Hywel Teifi, gyda’r darlledwr Huw Edwards yn siaradwr gwadd.

Codwyd dros £12,000 i’r Gronfa, a sefydlwyd er mwyn sicrhau bod gwaith a gweledigaeth Hywel Teifi, cyn-Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn parhau i ddylanwadu ar genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Gronfa yn cefnogi prosiectau ac yn darparu cyfleoedd ac adnoddau sy’n newid bywyd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac sy'n datblygu ac yn cyfoethogi ein cenedl. 

Mynychodd dros 120 o bobl y cinio, gan gynnwys ffigyrau blaenllaw o fyd darlledu a’r cyfryngau, y byd addysg uwch a threftadaeth, y byd chwaraeon a gwleidyddiaeth a’r sector fusnes. Cawsant eu diddanu gan y soprano fyd-enwog o Abertawe, Elin Manahan Thomas, Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr Ian Rutt, a roddodd y datganiad cyhoeddus cyntaf erioed ar organ newydd y Neuadd Fawr, a pherfformiad gan Bedwarawd Llinynnol Banks o Goleg Cerdd Brenhinol Llundain. Wedi hynny, cafwyd araith ysbrydoledig gan Huw Edwards, y darlledwr llwyddiannus a mab Hywel Teifi, lle bu’n dwyn i gof syniadaeth ei dad am le’r Gymraeg mewn addysg a bywyd cyhoeddus. Cynhaliwyd yn dilyn hynny, arwerthiant llwyddiannus a gododd £9,000 dan arweiniad Glynog Davies.

Meddai Huw Edwards: “Rydym ni fel teulu yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Abertawe am gynnal enw Dad drwy sefydlu Academi Hywel Teifi yn ganolfan o ragoriaeth sy’n hybu ac arloesi mewn addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, ac yn weithredol dros dwf a ffyniant yr iaith Gymraeg. Roedd yn hyfryd bod cymaint o gyfeillion o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi ymuno gyda ni ar gyfer y noson arbennig iawn hon yn Neuadd Fawr odidog campws newydd y Brifysgol. Roedd yn dda gen i ddathlu a chefnogi gwaith a gweledigaeth y ganolfan flaengar hon.”

Ychwanegodd Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Roedd hi'n fraint gallu cynnal y digwyddiad arbennig hwn yn Neuadd Fawr ysblennydd Campws y Bae. Cafwyd noson i'w chofio wrth i ni ddathlu cyfraniad a gwaith yr Athro Hywel Teifi, gyda chyfeillion a chefnogwyr i'r Academi. Rydym wrth ein bodd gyda'r swm rydym wedi ei godi ar gyfer Cronfa Goffa Hywel Teifi a fydd yn sicrhau twf pellach ar waith yr Academi wrth gefnogi prosiectau a darparu cyfleoedd i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae Academi Hywel Teifi yn croesawu rhoddion i Gronfa Goffa Hywel Teifi. Gallwch ddarllen mwy am y Gronfa drwy lawrlwytho Ffurflen Cronfa Goffa Hywel Teifi

Huw Edwards fel siaradwr gwadd y noson