Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 5-12 Awst 2017

Mae cyfraniad yr Athro Hywel Teifi Edwards i fywyd Cymru yn cael ei ddathlu ar blât unigryw fydd yn cael ei dadoruchddio yn Nerbyniad Prifysgol Abertawe ar ddydd Iau’r Eisteddfod.

Cafodd Lowri Davies, enillydd y Fedal Aur mewn Crefft a Dylunio yn 2009, ei chomisiynu i greu’r platiau i godi arian at Gronfa Goffa Hywel Teifi.

Mae Lowri wedi cyfuno geiriau, tirwedd a delwedd er mwyn cyfleu ei theyrnged i’r diweddar Hywel Teifi ac yn cynnwys englyn gan yr Athro Brifardd Alan Llwyd i Academi Hywel Teifi:

Athrofa ein gwrthryfel, mae’r Gymraeg

     mor wâr, mor ddiogel

ynddi hi, hyd oni ddêl

drwy’r wlad ddyhead Hywel.

Meddai Lowri Davies am ei dyluniad, “Braint yw cael fy ngwahodd i gynllunio a chreu plât ar gyfer y gronfa.  Mae'r englyn yn amgylchynu portread o Hywel Teifi, sydd ei hun wedi ei fframio gan batrwm llinell aber afon Arth, ac aber afon Tawe. Mae'r lliw yn adlewyrchu y lliw a ddefnyddir gan yr Academi.”

Cynhyrchwyd 150 yn unig o’r platiau, ac fe fyddant yn gwerthu am £75 yr un gyda’r elw yn mynd i Gronfa Goffa Hywel Teifi sy’n cefnogi myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg gan sicrhau cyfleoedd iddynt gyfoethogi eu profiadau a’u gyrfaoedd.

“Pleser arbennig i ni oedd comisiynu Lowri Davies,” meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi. “Yn ogystal â’r ffaith ei bod yn enillydd Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol, mae hen lestri traddodiadol Abertawe wedi bod yn ysbrydoliaeth i’w gwaith.” 

Cynhelir y derbyniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion Prifysgol Abertawe ym mwyty Platiad am 12pm, yn dilyn Darlith Goffa Hywel Teifi fydd yn cael ei thraddodi gan Dr Simon Brooks o Academi Morgan y Brifysgol. Testun y ddarlith eleni yw ‘Chwilio am Dir Newydd: Gwrthsafiad yn Oes Hiliaeth a Ffasgaeth' ac fe’i cynhelir yn y Babell Lên ddydd Iau 10 Awst am 10.45am.

Yn ystod yr wythnos, bydd cyfle i ymwelwyr i stondin y Brifysgol gymryd rhan mewn gweithdy barddoni arbennig dan arweiniad y Prifardd a’r Cyn-fardd Plant Cenedlaethol, Aneirin Karadog, sydd hefyd yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi. Bydd Aneirin ar breswyliad ar stondin Prifysgol Abertawe gan lunio cerddi wedi eu hysbrydoli gan Abertawe, y ddinas, y bae, y tirlun a’r bobl, a fydd yn cael eu trydar yn ystod yr wythnos. Bydd hefyd yn cynnal gweithdai barddoniaeth i ysbrydoli pobl ifanc i greu a pherfformio cerddi dan ei arweiniad hwyliog. Noddir y gweithdai barddoni gan Lenyddiaeth Cymru.

Bydd aelodau o dîm ymgysylltu y Brifysgol wrth law drwy’r wythnos i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan bobl ifanc am eu dewisiadau ar ôl arholiadau, a  bydd cyngor ar gael am y broses o ymgeisio i’r brifysgol, ac am y broses glirio ac addasu. Bydd gwybodaeth am holl ddarpariaeth addysgol a chefnogol cyfrwng Cymraeg y Brifysgol hefyd ar gael i ddarpar-fyfyrwyr.  

Bydd yr Athro M. Wynn Thomas o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn traddodi beirniadaeth y Goron brynhawn Llun, ac yn edrych ar fywyd , gwaith a chyfraniad y llenor Emyr Humphreys yn y Babell Lên am 10.45am ddydd Llun, 7 Awst.

Ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 4pm ddydd Llun, 7 Awst, yr Athro Gwynedd Parry o Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi fydd yn traddodi Darlith Barn, a hynny ar y teitl ‘Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Deddf Iaith 1967, a’r gwaddol heddiw’.

Ddydd Mercher, byddwn yn dathlu llwyddiant ein myfyriwr ôl-radd, Lauren Evans, ar gipio Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfraniad i fywyd a diwylliant Cymraeg prifysgol sydd y tu hwnt i astudiaethau academaidd. Cynhelir y dathliad ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 4pm.

Mi fydd ein stondin wedi’i lleoli rhwng Caffi Maes B a’r Pentref Bwyd rhwng 5-12 Awst 2017, felly cofiwch alw heibio i’n gweld!