Cyhoeddi cyfrol i nodi carreg filltir arbennig

Cyhoeddi cyfrol i nodi carreg filltir arbennig

Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed eleni, mae'r Athro Brifardd Alan Llwyd wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi sy'n nodi'r garreg filltir arbennig.

Yn brifardd y 'dwbwl dwbwl' - enillydd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973, cyn cyflawni’r un gamp yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976 - mae Alan Llwyd yn un o feirdd amlycaf Cymru ac fe'i benodwyd yn Athro'r Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn 2011.  

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru i'r Athro Alan Llwyd y llynedd a'i gynorthwyodd i gwblhau Cyrraedd a Cherddi Eraill. Mae adran gyntaf y gyfrol yn archwilio teimladau'r bardd wrth iddo gyrraedd oed yr addewid a’r ail adran yn cynnwys cerddi sy’n lleisio ymateb y bardd i amrywiol bethau ynghyd â cherddi cyfarch a cherddi comisiwn, y mwyafrif ohonynt yn gerddi sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen.

Cyhoeddir Cyrraedd a Cherddi Eraill gan Barddas trwy gymorth nawdd Prifysgol Abertawe. Dywedodd y Prifardd Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Dyma gyfrol fawr gan fardd mawr. Mae ynddi gerddi a fu’n pwyso ar feddwl y bardd ers degawdau, eraill sy’n ymateb ar frys i ddigwyddiadau yn y fan a’r lle. Fe’m cyffrowyd dro ar  ôl tro gan y cyfuniad o grefft gain a myfyrdod dwys. Llongyfarchiadau i Alan ar gyrraedd ysblander y gyfrol hon. Mae’n ysgogiad i nifer ohonom ym myd llên, nid yn unig yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ond ym mhob cwr o’n gwlad, a da gweld eraill yn cydnabod ei gyfraniad creadigol i’n diwylliant.”

Cynhelir lansiad Cyrraedd a Cherddi Eraill am 12.30 brynhawn Sadwrn, 12 Mai yng ngŵyl lyfrau Bedwen Lyfrau sy'n cael ei chynnal eleni yng Nghaerfyrddin. Yn ystod yr wŷl, bydd yr Athro Alan Llwyd, a oedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Gerdd Dafod Barddas yn 1976, ac yn olygydd ar gylchgrawn chwarterol Barddas  tan 2011, yn derbyn gwobr arbennig am gyfraniad oes i’r diwydiant cyhoeddi Cymraeg. Un o fyfyrwyr ymchwil yr Athro Alan Llwyd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, y Prifardd Aneirin Karadog, fydd yn cyflwyno’r seremoni yn Yr Atom, am 1.15yp brynhawn Sadwrn, 12 Mai.  

Dywedodd Aneirin Karadog: "Fy mraint i dros y tair blynedd ddiwethaf fu cael astudio a myfyrio ar y grefft o farddoni dan diwtoriaeth yr Athro Alan Llwyd fel rhan o fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fel Cadeirydd Barddas, rwy'n falch iawn ein bod ni fel cymdeithas a chyhoeddwr yn dal i allu rhoi llwyfan i waith newydd cyffrous o eiddo Alan.  Nid yw cyrraedd oed yr addewid wedi pallu dim ar ei awen na'i egni, ac mae hynny'n arweiniad gwych i ni oll o ran y grefft o farddoni.  Mae ei gyfraniad, wrth gwrs, yn mynd tu hwnt i farddoni, ac mae ein diolch iddo yn enfawr, fel y Gymdeithas Gerdd Dafod, am ei waith diflino a chaboledig ym maes llenyddiaeth Gymraeg. Y peth mwyaf i'w ddathlu yw fod gan Alan gymaint yn fwy i'w gyfrannu. Ymlaen â'r gwaith!"

 

Clawr Cyrraedd gan Alan Llwyd