Dysgwch fwy am Academi Hywel Teifi

Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae'r Academi yn sefydliad unigryw ac y gorff sydd yn fwy na swm ei rhannau sef tair uned benodol:

  • Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol
  • Uned Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe
  • Yr Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith

 

Yn ogystal â grymuso statws a defnydd y Gymraeg, gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n gweithio hefyd i hybu cyfleoedd a buddiannau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyflwyno a dathlu ei diwylliant. Mae darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i waith a strategaeth Prifysgol Abertawe oherwydd rôl arweiniol y sefydliad yn y Gymru gyfoes, ei chyfrifoldeb yn rhanbarthol a chenedlaethol, a’i chyfrifoldeb statudol.

Mae'r Academi hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Y nod yw sicrhau y bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael y gorau o ddau fyd - profiad Cymreig a Chymraeg mewn prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol.

Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol

Mae'r Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol yn cynnwys Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Thŷ'r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe. Mae'r tîm ynghlwm wrth y gwaith o ysgogi a datblygu’r ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a’i hyrwyddo i fyfyrwyr. Mae’r tîm hefyd yng ngofal trefnu digwyddiadau allymestyn cyfrwng Cymraeg, o gydlynu gweithgareddau Canolfan Gymraeg Cwm Tawe, Tŷ’r Gwrhyd, o reoli perthynas y Brifysgol a’i chyn-fyfyrwyr, ei chymrodyr a’i chyfeillion Cymraeg, ac o sicrhau presenoldeb Prifysgol Abertawe mewn gwyliau a digwyddiadau cyhoeddus fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.

Uned Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe

Mae Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau Cymraeg o’r ansawdd uchaf ar draws ystod o lefelau a hyfedredd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

Mae canolfan weinyddu Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe yn Adeilad Talbot ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe, lle ceir ystod o adnoddau i gefnogi ein dysgwyr. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau mewn sawl lleoliad a gweithle ar draws y rhanbarth, gan anelu at sicrhau bod darpariaeth ar gael i ddysgwyr sydd mor lleol a chyfleus â phosib.

Mae gennym hefyd ddwy ganolfan gysylltiol sy’n cefnogi ein hamcanion i hyrwyddo manteision dysgu Cymraeg, sef canolfannau Tŷ Tawe yng nghanol dinas Abertawe (ar Heol Christina oddi ar y Kingsway), a Tŷ'r Gwrhyd yng nghanol Pontardawe (o fewn yr un adeilad â’r Llyfrgell). ‘Rydym yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith lleol i sefydlu y canolfannau hyn yn ganolbwynt i ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg ac yn leoliadau cefnogaeth i ddysgwyr, ac maent yn leoliadau cyfleus hefyd i gael gafael ar adnoddau a nwyddau dysgu yn ogystal.

Yr Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith

Dan arweiniad Sarah Gray, mae dwy swyddogaeth i’r tîm hwn: 

Mae gwaith yr Academi wedi'i rannu'n dair thema - Dysgu, Datblygu a Dathlu. Cliciwch ar y themâu isod er mwyn dysgu fwy am waith yr Academi.