Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!
Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon
Caniateir parcio rhwng 4pm ac 8am o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 4pm ddydd Gwener ac 8am ddydd Llun. Caniateir rhoi un car yn unig ar yr hawlen hon. Yn ddilys ar y ddau gampws. Tu allan i'r oriau hyn, nid oes darpariaeth parcio a byddwch yn derbyn rhybudd talu.
Myfyrwyr sy'n byw mewn cyfeiriad y tu allan i Barth Teithio Dinas Abertawe First Cymru yn ystod y tymor ac nid oes ganddynt fynediad at gludiant cyhoeddus lle byddai taith sengl i'r campws o fewn 45 munud yn bosib. Mae'r hawlen hon yn ddilys ar gyfer y Rec ger Campws Parc Singleton yn unig ar hyn o bryd.
Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Gwasanaethau Myfyrwyr. Bydd angen i chi ddarparu: • tystiolaeth ategol ar ffurf bathodyn glas neu ohebiaeth feddygol yn egluro'r gofyniad am le parcio ceir. E-bostiwch eich tystiolaeth i estates-carparking@swansea.ac.uk, gan roi eich enw fel teitl yr e-bost • datganiad ategol yn y blwch testun isod Mae'r drwydded hon am ddim os oes gennych fathodyn glas.
Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd angen i chi ddarparu:. • Llythyr cefnogi gan weithiwr proffesiynol priodol, er enghraifft eich meddyg teulu, gweithiwr meddygol proffesiynol arall neu reolwr Canolfan Gofalwyr yn cadarnhau eich statws gofalwr. • Dogfen yn dangos eich bod yn derbyn Lwfans Gofalwr. • Llythyr ategol gan eich ysgol neu goleg yn egluro ac yn cadarnhau eich statws fel gofalwr ar gyfer rhywun â salwch hirdymor, problemau iechyd meddwl neu anabledd ar bapur pennawd neu drwy e-bost. • Cadarnhad eich bod yn ofalwr yn Abertawe neu'r ardaloedd cyfagos yn ddyddiol (gofynnol). E-bostiwch eich tystiolaeth i estates-carparking@swansea.ac.uk, gan roi eich enw fel teitl yr e-bost
Myfyrwyr â phlant dibynnol sydd wedi'u cofrestru ym Meithrinfa'r Brifysgol (yn amodol ar gymeradwyaeth Rheolwr y Feithrinfa).
Drwy gyflwyno eich ymholiad, bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i greu cofnod o fewn ein system ymholiadau. Darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd Ymgeiswyr sy’n rhoi mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y byddwn yn prosesu eich data personol.