Cyfle Dan Sylw

Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad a arweinir gan ymchwil sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod. Rydym yn cynnig cydbwysedd atyniadol rhwng addysgu ac ymchwil ragorol, ynghyd ag ansawdd bywyd dymunol ar ein dau gampws ar lan y môr. A ninnau wedi dathlu ein canmlwyddiant yn 2020, rydym yn hynod falch o sut mae ein Prifysgol wedi cyfrannu at drawsnewid Abertawe'n ddinas rhagoriaeth. Gyda thros 20,000 o fyfyrwyr, rydym wedi mwynhau cyfnod o dwf aruthrol. Ni yw'r Brifysgol Orau yng Nghymru ac ymysg y 30 Prifysgol Orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2023.

Nododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 fod 86% o'n hymchwil o safon tair neu bedair seren, a bod gan fwy na 90% o'n heffaith gyrhaeddiad ac arwyddocâd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol. Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o gydweithredu â byd diwydiant ac mae ein dau gampws yn cynnig cyfleusterau i oddeutu 40 o gwmnïau, gan gynnwys Tata, Airbus a Pfizer. Mae gan y Brifysgol uchelgeisiau i ddatblygu ei phroffil ymchwil ymhellach drwy gydweithredu â'n partneriaid lleol, rhyngwladol a diwydiannol, ochr yn ochr â buddsoddi yn ein hisadeiledd a'n staff ymchwil. Er mwyn hwyluso a chefnogi'r broses o gyflawni'r uchelgeisiau hyn, mae Abertawe wedi datblygu uwch-swydd newydd, sef y Prif Swyddog Ymchwil a Menter.

Ac yntau’n atebol i'r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Arloesi), bydd y Prif Swyddog Ymchwil a Menter yn goruchwylio'r gwaith o drawsnewid y gwasanaethau cymorth ymchwil a menter ym mhob rhan o'r Brifysgol, ochr yn ochr â chyfrannu at ddatblygu ymchwil a menter yn gyffredinol mewn modd strategol. Bydd deiliad y rôl ddylanwadol iawn hon yn arwain ar bedwar maes allweddol, gan gynnwys ansawdd ymchwil, ymchwil ôl-raddedig a datblygu menter ac ymchwil, a bydd yn aelod o dîm arweinyddiaeth y gwasanaethau proffesiynol. Bydd deiliad y rôl yn rhyngweithio ag uwch-weithwyr academaidd ac uwch-weithwyr y gwasanaethau proffesiynol yn y cyfadrannau yn ogystal ag yn y swyddfa ganolog, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredu a'r Is-ganghellor.

Bydd gan ymgeiswyr cryf am y rôl hanes o arwain gweithgarwch ymchwil a/neu fenter. Bydd yn meddu ar brofiad o feithrin diwylliant deinamig a llwyddiannus iawn wrth helpu i ddarparu gwasanaethau allweddol. Bydd yn arddangos profiad o drawsnewid strategol ar draws sefydliad cymhleth, ethos gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog a'r gallu i gyfathrebu ag amrywiaeth o randdeiliaid ar lefelau gwahanol. Bydd sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol yn allweddol.

Mae Saxton Bampfylde Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe ar y penodiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion ynghylch sut i gyflwyno cais, ewch i www.saxbam.com/appointments, gan ddefnyddio'r cyfeirnod WASYR. Neu gallwch ffonio +44 (0)20 7227 0880 (yn ystod oriau gwaith). 

Mae cydweithwyr ogefndiroedd BAME wedi’u tangynrychioli ym Mhrifysgol Abertawe mewn swyddi arweinyddiaeth uwch.Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd BAME.

Dyddiad cau 5pm ddydd Gwener, 31 Mawrth 2023