Enw Polisi:Urddas wrth Weithio ac AstudioRhif y Polisi:P2021-884
Perchennog y Polisi: Pennaeth Cydraddoldeb Dyddiad dod i rym: Ionawr 2020
Dogfennau sy'n cael eu disodli: P1415- 1469 Diwygiwyd diwethaf: Ionawr 2020 
Deddfwriaeth: Deddf Cydraddoldeb 2010 Dyddiad yr Adolygiad:  Ionawr 2021

 

DATGANIAD POLISI

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu a fydd yn galluogi staff a myfyrwyr i wireddu eu potensial personol. Mae'r Brifysgol yn derbyn na fydd modd creu na chynnal amgylchedd o’r fath os yw unigolion neu grwpiau o staff a myfyrwyr yn dioddef aflonyddu o unrhyw fath. I gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gwerthoedd Prifysgol Abertawe, a pholisïau perthnasol eraill y Brifysgol, rhaid trin pawb â pharch ac urddas, yn y gweithle ac wrth astudio.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall diffyg urddas gael effaith ddifrifol wael ar amodau gwaith a dysgu ac amodau cymdeithasol. Gall hyn achosi i unigolyn golli cymhelliant, hunanhyder a hunan-barch. Gall achosi salwch sy'n gysylltiedig â straen ac effeithio ar iechyd a gwaith unigolyn. I'r Brifysgol, gall gynyddu cyfraddau absenoldeb a throsiant staff, gall effeithio'n niweidiol ar berthnasoedd gweithio, cynhyrchiant a chanlyniadau, a gall niweidio enw da'r Brifysgol.

 Mae gofyniad ar bob aelod o staff i beidio ag ymddwyn mewn modd a all fod yn sarhaus i eraill, ac ni oddefir unrhyw fath o aflonyddu. Tybir bod unrhyw aflonyddu'n fater difrifol iawn, a gall fod yn sail ar gyfer camau disgyblu, gan gynnwys diswyddo. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ymchwilio i honiadau mewn modd trylwyr, teg a chyfrinachol sy'n llawn empathi. Cynhelir ymchwiliadau mewn modd amserol, gan ddibynnu ar gymhlethdodau'r achos. Bydd y Brifysgol yn diogelu dymuniad achwynydd i ymdrin â'r mater yn gyfrinachol ond, lle bo cwyn yn nodi gweithred droseddol neu wahaniaethu anghyfreithlon, mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau priodol.

 Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod dyletswydd arni i amddiffyn ei gweithwyr a’i myfyrwyr rhag cwynion maleisus neu ddisylwedd. Felly, gellir cymryd camau disgyblu priodol pan fo modd profi bod cwyn ddisylwedd neu faleisus yn cael ei gwneud yn fwriadol. Mae'n cydnabod y gall y trallod fod yn anfwriadol yn achos rhai sydd wedi'u haflonyddu, a'i bod yn bosibl bod y sawl sy'n gyfrifol yn anymwybodol o effeithiau ei ymddygiad. Mewn achosion o’r fath, efallai na fydd disgyblu’r sawl sydd wedi tramgwyddo o reidrwydd yn briodol. Fodd bynnag, diogelir unrhyw achwynydd rhag erledigaeth neu ddialedd os yw wedi cyflwyno'r gŵyn yn ddidwyll.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i ymateb i unrhyw achos o aflonyddu, ac i sicrhau nad yw'r broblem yn codi eto.

Cyfrifoldebau dan y polisi hwn: Cyngor Prifysgol Abertawe sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y polisi hwn ei roi ar waith.

Cwmpas 

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob aelod o staff a myfyriwr sy'n gweithio neu'n astudio yn y Brifysgol. 

Egwyddorion Allweddol

  • Creu amgylchedd gwaith a dysgu lle nad oes gwahaniaethu nac aflonyddu, a lle gall unigolion gyflawni eu potensial llawn.
  • Nodi pwy sydd â pha gyfrifoldebau yn hyn o beth
  • Cynnig enghreifftiau o wahanol fathau o aflonyddu, e.e. aflonyddu rhywiol neu aflonyddu ar sail hil.
  • Hysbysu staff/myfyrwyr ac eraill am yr hyn mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i wneud cwyn am aflonyddu.

Diffiniadau o dermau Adnoddau Dynol a ddefnyddir yn y polisi hwn:

Aflonyddu – ymddygiad digroeso sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig berthnasol, a diben neu effaith yr ymddygiad hwnnw yw tramgwyddo yn erbyn urddas unigolyn neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus i'r unigolyn hwnnw.

Nodweddion Gwarchodedig – seiliau anghyfreithlon ar gyfer gwahaniaethu. Y nodweddion yw: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhywedd a thueddfryd rhywiol.

Gweithdrefnau cefnogol / dogfennau cyfarwyddwyd

Dignity at Work and Study Procedure

A list of Harassment Advisors, and a Reporting Form can be found our Dignity at Work Staff Intranet page