Ymchwilwyr yn amlygu angen i ragamcanu patrymau byd-eang o ran trosglwyddo clefydau o anifeiliaid i bobl

Mae tîm o ymchwilwyr, o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Queensland, yn ceisio gwella dealltwriaeth o'r ffordd orau o ymladd firysau niweidiol sy'n symud o fywyd gwyllt i bobl ac yn ymledu i achosi epidemigion byd-eang.

Mae nifer y rhywogaethau anifeiliaid y gall pathogen (bacteriwm neu firws sy'n achosi clefyd) eu heintio yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn ddangosydd o'r risg y bydd yn newid i rywogaeth letyol newydd. Dylai pathogenau sy'n heintio mwy nag un rhywogaeth anifail fod yn fwy tebygol o neidio i rywogaeth letyol newydd. Ond mae'r cysylltiadau rhwng anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n bwysig hefyd. Os yw pathogen yn heintio sawl rhywogaeth mwnci ac epa, mae'n debygol y bydd ei gyfle i heintio pobl yn well nag un sy'n heintio adar neu bysgod yn unig.

Ond, mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Trends in Parasitology, mae'r tîm ymchwil yn dangos nad yw lledaeniad clefydau milheintiol (clefydau sy'n gallu cael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl) mor syml â hynny. Nododd y tîm nifer cynyddol o astudiaethau ymchwil sy'n dangos bod cysylltiad diymwad rhwng newid rhywogaethau lletyol a'r amgylchedd. Mewn termau syml, mae amgylcheddau gwahanol yn darparu cyfleoedd gwahanol i bathogenau ryngweithio â rhywogaeth letyol a'i heintio.

Humans interacting with a dog

Yn ôl Dr Nicholas Clarke, o Ysgol Gwyddor Filfeddygaeth Prifysgol Queensland, mae hyn yn ffordd newydd o feddwl yn y maes hwn, gan newid ein dealltwriaeth o glefydau milheintiol datblygol a'n dulliau o'u hymladd: "Yn y gorffennol, rydym wedi edrych ar nifer y mathau gwahanol o rywogaeth mae pathogen yn ei heintio'n bennaf.  Dyna'r data a oedd yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn ddangosydd o'r risg y byddai'n gallu symud i rywogaeth letyol newydd. Un ffactor yn unig yw hwn, ac rydym wedi dysgu bod y cysylltiadau rhwng anifeiliaid sydd wedi’u heintio'n bwysig hefyd. Mae ein hymchwil yn dangos bod amgylcheddau gwahanol yn darparu cyfleoedd newydd i bathogenau ryngweithio â rhywogaeth letyol newydd a'i heintio."

Mae Dr Konstans Wells o Brifysgol Abertawe'n esbonio sut mae’n hanfodol datblygu model i ragamcanu'r clefydau heintus nesaf yn nhermau newid byd-eang yn yr amgylchedd. "Yn ôl canfyddiadau astudiaeth ymchwil ddiweddar, gall newid yn yr hinsawdd, rwystro neu hwyluso lledaeniad clefydau megis ffliw adar. Mae gwir angen mwy o wybodaeth arnom i'n helpu i adeiladu fframwaith modelu newydd a allai ein helpu i ragamcanu lledaeniad clefydau.

"Gall offer mathemategol - a ddatblygwyd wrth astudio rhwydweithiau synwyryddion, prosesu delweddau ac adnabod patrymau - a ffiseg gyfrifiadol ein helpu i ragamcanu pryd a ble y bydd cysylltiad rhwng pathogenau ac anifeiliaid. Bydd yn bwysig addasu'r technegau hyn i ymchwil ym maes iechyd dynol a bywyd gwyllt i'n galluogi i ragamcanu epidemigion clefydau heintus neu bandemig yn y dyfodol.

"Mae llawer o ffactorau yn gyfrifol am ledaeniad clefydau heintus, sy'n golygu ei bod yn her rhagweld pryd a ble byddant yn dod i'r amlwg nesaf. Fodd bynnag, drwy fwydo ein dealltwriaeth gynyddol o batrymau clefydau i mewn i fodelau, y gobaith yw y byddwn mewn sefyllfa well i ragamcanu patrymau lledaenu clefyd yn y dyfodol, a fydd yn ein helpu i baratoi ar gyfer yr achosion newydd cyn iddynt gyrraedd hyd yn oed.

Cyhoeddwyd yr ymchwil yn Trends in Parasitology