Prifysgol Abertawe i gymryd rhan mewn astudiaeth i wella triniaeth trawiadau ar y galon

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn mynd i weithio gyda chriw ambiwlansys yng Nghymru mewn astudiaeth newydd i gadarnhau’r ffordd orau o roi diagnosis i bobl yr amheuir iddynt gael trawiad ar y galon.

Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio gydag ymchwilwyr o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac academyddion ym Mhrifysgol Kingston a St George’s, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Leeds i nodi pryd dylai criwiau ambiwlansys gynnal prawf ECG syml. Ariennir y prosiect gan grant £197,000 gan Sefydliad y Galon Prydain (BHF).

Ambulance study

Ar hyn o bryd, pan amheuir bod rhywun yn cael trawiad ar y galon, gall criwiau ambiwlans gynnal ECG cyn cyrraedd yr ysbyty. Yna, gall staff ambiwlans ddefnyddio’r canlyniadau i benderfynu sut y dylid trin y claf, a ddylid mynd ag ef i ganolfan y galon arbenigol a galluogi’r driniaeth briodol i fod yn barod pan fydd y claf yn cyrraedd. 

Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod pobl sy’n cael y prawf yn fwy tebygol o oroesi, ond nad oedd tua thraean o gleifion a oedd yn dioddef o drawiad ar y galon yn cael y prawf, a bod menywod a phobl hŷn yn llai tebygol o gael ECG. Fodd bynnag, ers i’r gwaith hwnnw gael ei wnaed, mae’r ffordd a ffefrir o drin trawiad ar y galon wedi newid.

Bydd y gwyddonwyr yn astudio data o ledled y DU ar drin cleifion trawiadau ar y galon i nodi a yw’r defnydd o ECG cyn cyrraedd yr ysbyty wedi’i gysylltu o hyd â chyfraddau goroesi gwell i gleifion sy’n cael trawiad ar y galon.

Pan wnaed y gwaith gwreiddiol, cyffuriau chwalu tolchenni oedd y brif driniaeth ar gyfer trawiad ar y galon. Er hynny, erbyn heddiw, angioplasti brys – lle ehangir prif rwydweli caeëdig drwy ddefnyddio stent – yw’r driniaeth a ffefrir.

Byddant hefyd yn cynnal adolygiadau siart a grwpiau ffocws gyda staff ambiwlans o dri gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru, i ddeall pryd maent yn defnyddio ECG cyn cyrraedd yr ysbyty a’r broses benderfynu sy’n llywio hynny.

Drwy ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n dylanwadu ar y defnydd o ECG gan griwiau ambiwlans, y gobaith yw y bydd yr ymchwilwyr yn gallu gwella canllawiau ar bryd y gellir ei ddefnyddio’n fwy effeithiol.

Meddai Dr Alan Watkins o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae staff ambiwlans yn chwarae rôl ganolog wrth ddarparu'r gofal cywir yn brydlon i gleifion sy’n cael trawiad ar y galon. Mae ymchwil flaenorol yn awgrymu bod y cleifion hynny sy’n cael trawiad ar y galon ac sy’n cael eu hasesu gan staff ambiwlans yn fwy tebygol o oroesi os gwneir prawf ECG cyn cyrraedd yr ysbyty. Rydym yn gobeithio datblygu’r ymchwil hon ymhellach drwy siarad â chriwiau ambiwlans er mwyn deall prosesau penderfynu ymhlith staff ambiwlans i gynnal ECG cyn cyrraedd yr ysbyty. “

“Bydd craffu ar wasanaethau ambiwlans a data ysbytai o ledled y DU yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o ran yr hyn a fyddai’n sbarduno staff ambiwlans i wneud ECG, ac mae hyn yn enwedig o ddiddorol i’r bobl honno sydd wedi cael trawiad ar y galon ond nad ydynt yn dioddef o symptomau cyffredin megis poen yn y frest a phoen yn yr ên.”

Gorffennodd drwy ddweud: “Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i lywio ymarfer yn y dyfodol a gwella canlyniadau i gleifion.”

Meddai Pennaeth Ymchwil ac Arloesi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Nigel Rees: “Rwyf wedi rin cleifion sy'n sôn am symptomau megis pendro, blinder, teimlo’n sâl yn gyffredinol neu sydd hyd yn oed yn cwympo, ac mewn ambell achos prin, rydym wedi darganfod mai trawiad ar y galon oedd hi.  Fel Parafeddygon, rydym ni wedi ein hyfforddi i ganolbwyntio ar yr hyn mae’r claf yn ei ddweud wrthym er mwyn i ni allu gwneud diagnosis da. Fodd bynnag, gallai’r astudiaeth hon amlygu meysydd newydd i ni dalu sylw agos iddynt.

“Os yw’r data’n dangos meysydd newydd o bryder, rydym yn fwy tebygol o wneud mwy o ECG, gan roi diagnosis o drawiad ar y galon yn gynt, a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad y claf yn y tymor hir.” 

Meddai Adam Fletcher, Pennaeth BHF Cymru: “Nod y prosiect hwn yw ateb cwestiynau pwysig ynghylch y ffordd orau o drin pobl yr amheuir eu bod yn cael trawiad ar y galon. Gallai’r canlyniadau helpu i lywio’r ffordd y mae criwiau ambiwlans yn gweithio.

“Ni fyddai ymchwil fel hon yn bosib oni bai am roddion hael gan y cyhoedd. Heb eu cefnogaeth barhaus, ni fyddem yn gallu ariannu’r gwaith a allai ein helpu i wella triniaeth a gofal cleifion â phroblemau'r galon.”

  • ECG cyn cyrraedd yr ysbyty yw prawf y gall parafeddygon ei wneud ar rywun sy’n dioddef o boen acíwt yn y frest. Mae’r ddyfais yn mesur gweithgarwch trydanol yn y galon drwy gyfres o wifrau sydd wedi’u hatodi i frest y claf. Gall y prawf, sy’n cymryd tua 10 munud i’w wneud, roi diagnosis o drawiad ar y galon.
  • Yn y DU, mae bron 200,000 o ymweliadau â’r ysbyty bob blwyddyn o ganlyniad i drawiadau ar y galon, sy’n cyfateb i un bob tri munud. Yn y 1960au, roedd mwy na 7 o bob 10 trawiad ar y galon yn y DU yn farwol. Fodd bynnag, golyga datblygiadau o ran triniaeth fod o leiaf 7 o bob 10 o bobl heddiw yn goroesi.
  • Mae trawiad ar y galon yn digwydd pan fydd colled gwaed sydyn i ran o gyhyr y galon. Gall symptomau trawiad ar y galon amrywio o un unigolyn i unigolyn arall. Yr arwyddion mwyaf cyffredin o drawiad ar y galon yw poen neu anghysur yn y frest. Er hyn, gall symptomau eraill gynnwys poen yn y fraich, y gwddf a'r ên neu deimladau o salwch, pendro neu ddiffyg anadl.