Gwyddoniaeth wych Gymreig yn helpu datrys pos peillio

Mae gwyddonwyr Cymreig sy’n ceisio datrys y cawr o bos jig-so o beilliad planhigyn gam yn nes i wybod sut mae i gyd yn dod ynghyd diolch i bapur newydd gan yr ymchwilydd PhD Andrew Lucas.

Mae e wedi treulio’r saith mlynedd ddiwethaf yn astudio chwaraewr na werthfawrogir yn fawr ac sydd yn cael ei gam-adnabod yn rheolaidd yn y byd cymhleth o beilliau: y pryfyn hofran.

Caiff ymddygiadau hanfodol eu datgelu yn ei astudiaeth, sy’n ffurfio rhan o raglen ‘Achub Peilliau’ sy’n cael ei rhedeg gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae papur Andrew wedi ei gyhoeddi yn y Journal of Animal Ecology gan y British Ecological Society. 

Meddai Dr Natasha de Vere, Pennaeth Gwyddoniaeth yn yr Ardd Fotaneg ac ymchwilydd arweiniol o ‘Achub Peilliau’: “Mae hyn yn esiampl arbennig o wyddoniaeth Gymreig. Mae’n cynnwys cydweithrediad mewn ymchwil rhwng Abertawe a phrifysgolion Aberystwyth, gydag elfen ryngwladol gan Emory University, Atlanta, yn UD. Ac mae’r cyfan oll wedi ei arwain o Sir Gâr gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.”

Mae gan yr Ardd Fotaneg enw da yn fyd-eang am ei thechnegau codio-bar DNA, wnaeth weld Dr de Vere yn arwain y prosiect wnaeth wneud Cymru'r cyntaf ymhlith cenhedloedd i godio-bar DNA ei holl blanhigion blodeuol cynhenid.

Hoverfly Eristalis pertinax Kevin Bandage

Andrew Lucas sy’n adrodd yr hanes: “Er mwyn deall eu rôl botensial ym mheilliad mae angen i ni wybod pa blanhigion y mae pryfed hofran yn ymweld â nhw, ond mae’n anodd dweud yn aml beth mae pryfyn hofran yn ei wneud ond drwy wylio hwy yn y cae yn unig. Y ffordd orau o ddarganfod beth mae pryfed hofran unigol yn eu gwneud ydy drwy ddadansoddi'r paill a gludwyd ar eu cyrff. Gallwn adnabod pa blanhigion y mae’r paill yn eiddo iddo drwy ddefnyddio technegau codio-bar DNA yn yr hyn y mae tîm gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg wedi dod yn arbenigwyr ar wneud.”

 

Mae rhaglen Achub Peilliau yn ffocysu ar beilliau gwyllt a mêl-gwenyn ac, mae Dr de Vere yn awyddus i nodi, nid yw’r cyfan am wenyn: “Mae yna fyddin eang o bryfed peilliau allan yno ac mae 75 y cant o’n holl gnydau yn dibynnu arnynt hwy i weithio eu swyn a rhoi afalau, siocled a choffi i ni i enwi ond y rhai. Mae’r fyddin yma’n cynnwys pryfed hofran, chwilod, pili-palaod, gwyfynod a chacwn yn ogystal â gwenyn unig, cacwn a mêl-gwenyn. Bwriad ein gwaith yw darganfod pa blanhigion maent yn ymweld â nhw er mwyn darparu’r amodau cywir fel y gallant gael y cyfle gorau o oroesiad.”

Hoverfly Eristalis Tenax 2 Kevin Bandage

Astudiodd Andrew bryfed hofran yn y grŵp (neu ‘genws’) Eristalis- hefyd adnabyddir fel ‘ffugwenyn’. Ffocysodd ar adnabod pa blanhigion yr oedd pryfed hofran yn cludo paill oddi wrthynt yn gynnar yn yr haf (Mehefin) a hwyr yn yr haf (Awst) mewn porfeydd Rhos Gymreig sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau o blanhigion, sef cynefin mewn perygl o gadwraeth bwysig drwy gydol Ewrop. Fe wnaeth ddarganfod bod, tra eu bod yn ymweld fwyaf â’r un 65 gwahanol fathau o blanhigion, roedd gan bryfed hofran unigol eu ffefrynnau neilltuol - a mieri yn ymddangos fel y planhigyn allweddol.

 

Meddai Andrew: “Mae pryfed hofran yn ddiniwed ond weithiau’n edrych tamaid bach fel gwenyn fel ffordd o godi ofn ar ysglyfaethwyr. Mewn gwirionedd, os yr ydych yn gweld gwenynen (ac nid yw’n gacwn) yn eich gardd, fe allai’n wir fod yn bryfyn hofran - y mwyaf o bryfed a gam-adnabyddir.”

Ychwanegodd:“Fe wnaethom ddefnyddio codio-bar DNA i weld pa blanhigion y mae pryfed hofran yn ymweld â nhw. Fe wnaethom edrych ar y paill ar eu cyrff ac yna defnyddio hynny fel cofnod o’r hyn yr oeddent wedi bod yn eu gwneud.”

Caiff y paill ei symud gan y pryfyn hofran yna caiff DNA ei dynnu o’r paill, ei ddadansoddi a’i gymharu i fas-data cyfeirnod mawr codio-bar DNA Cymru.

“Mae sut yn hollol mae planhigion yn cael eu peillio, pan fod peillwyr yn debygol o ymweld â gwahanol fathau o blanhigion, wedi drysu gwyddonwyr ers peth amser. Mae ein hymchwil yn dangos bod rhywogaethau Eristalis yn gyffredinolwyr cyflawn ac yn ymweld ag ystod o blanhigion ond maent yn unigolion ffwdanus. Mae hyn yn sicrhau bod paill yn mynd i’r lle cywir.” 

Bydd ymchwil Andrew yn helpu i ddarparu’r cyngor i dirfeddianwyr a ffermwyr bod glaswelltiroedd sy’n gyfoethog â rhywogaethau yn bwysig ac felly mae ymylon mieri hefyd.

Mae Andrew yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe ac yn awdur arweiniol ar y papur. Mae Dr Natasha de Vere yn uwch awdur ar y papur ac yn ymchwilydd arweiniol ar gyfer rhaglen ‘Achub Peilliau’ yn yr Ardd Fotaneg.

Am fwy o wybodaeth am raglen ‘Achub Peilliau’ gan yr Ardd Fotaneg, ewch i <https://botanicgarden.wales/science/saving-pollinators/>

Biosciences Department in the College of Science, Swansea University http://www.swansea.ac.uk/biosci/undergraduate/

1: Eristalis pertinax hoverfly. (Image: Kevin Bandage).

2: Eristalis tenax hoverfly. (Image: Kevin Bandage)