Dosbarth newydd o wlychwr canghennog cadwyn sengl at ddiben echdynnu olew gan ddefnyddio technegau uwch (EOR).

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) Prifysgol Abertawe wedi datblygu gwlychwr gwyrdd newydd at ddiben echdynnu olew gan ddefnyddio technegau uwch (EOR - Enhanced Oil Recovery).

Ceir adroddiadau am fath newydd o wlychwr gwyrdd, ynni arwyneb isel, sy’n sefydlog o dan yr amodau llym sydd ynghlwm wrth echdynnu olew gan ddefnyddio technegau uwch. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe  wedi dangos bod y gwlychwr effeithlon hwn yn gwella cyfraddau echdynnu olew o 72% mewn hydoddiannau heli isel ac uchel. Dyma ganlyniad rhyfeddol ar gyfer defnyddio gwlychwr cadwyn sengl ar ei ben ei hun fel cyfrwng gwlychu, o'i gymharu â chyfradd echdynnu o 45% wrth ddefnyddio mathau eraill o wlychwyr ar eu pennau eu hunain.

Bu'r ymchwilwyr yn gweithio dan arweiniad Dr Shirin Alexander a'r Athro Andrew R  Barron a chyhoeddwyd eu canfyddiadau yng nghyfnodolyn y Gymdeithas Gemegol Americanaidd, Energy & Fuils.

Differences of the movement of oil

Llun: Brig: Gwahaniaethau rhwng symudiad olew drwy'r micro-sianelau ar ôl gwlychu gan ddefnyddio hydoddiannau o (a) heli pur, (b) gwlychwr pur a (c) gwlychwr-heli. Gwaelod: Model sgematig o wlychu effeithiol gan ddefnyddio hydoddiant gwlychwr-heli ar gyfer cymwysiadau EOR, yn ôl y gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe. (Cydnabyddiaeth: Sajad Kiani, Prifysgol Abertawe).

Sajad Kiani (myfyriwr PhD yn ESRI ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe) a fu’n gyfrifol am gynhyrchu micro-fodel gwydr a phrofi’r deunyddiau hyn.

Dyluniodd Sajad batrwm micro-hylifegol gwydr lled-ddau ddimensiwn â ffurf heterogenaidd er mwyn gwerthuso addasrwydd y gwlychwr i ddadleoli olew wrth echdynnu olew gan ddefnyddio technegau uwch. Cafodd y patrwm heterogenaidd ei ail-greu gan ddefnyddio trawstoriad o dywodfaen ac fe'i defnyddiwyd i ymchwilio i fecanwaith gweledol llif yr hylif ar ddeunyddiau mandyllog.

Meddai Dr Alexander, "Mae'n syndod mawr bod gwlychwr cadwyn sengl yn gallu adennill cymaint o olew ar ei ben ei hun, heb ychwanegu nano-ronyn, polymer neu alcalin. Mae effeithiolrwydd y gwlychwr hwn wrth echdynnu olew drwy dechnegau uwch oherwydd ei allu rhyfeddol i leihau'r tyndra arwyneb a'r tyndra rhyngwynebol rhwng dŵr ac olew, o'i gymharu â gwlychwyr cadwyn sengl eraill. Mae hyn hefyd oherwydd ei allu i newid natur wlychadwy ac i gynnal strwythur y cydgrynhoad o dan amodau gwres a halltedd eithafol."

Meddai'r Athro Barron, "Er gwaethaf yr awydd i newid i ynni adnewyddadwy, nid yw'r galw byd-eang am olew yn gostwng, ac mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wella technegau echdynnu adnoddau gan ddefnyddio dulliau sy'n cael effaith isel ar yr amgylchedd. Un o'r meysydd mae ESRI yn canolbwyntio arnynt yw'r hyn a elwir yn dechnoleg hydrocarbon gwyrdd, ynghyd â CCUS a ffynonellau ynni cynaliadwy amgen, er mwyn creu ymagwedd amlochrog at leihau allyriadau a'r effaith ar yr amgylchedd o gynhyrchu ynni ac adnoddau”.

Mae canlyniadau'r gwaith hwn yn taflu  goleuni newydd ar y rôl a allai fod gan y gwlychwr ynni arwyneb isel hwn yn y dyfodol wrth echdynnu olew gan ddefnyddio technegau uwch.

Cyd-awduron y papurau yw Dr Masanobu Sagisaka, athro cysylltiol yn Adran Cemeg Deunyddiau Ffiniol ym Mhrifysgol Hirosaki, Japan, a Dr Sarah Rogers gwyddonydd offerynnau ar gyfer SANS2D yn ISIS-STFC yn Labordy Rutherford Appleton, y DU. Andrew Barron yw Sefydlwr a Chyfarwyddwr ESRI a dyfarnwyd Cadair Sêr Cymru mewn Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn Abertawe iddo. Mae Alexander yn  Gymrawd Ymchwil Sêr Cymru.

Cefnogwyd yr ymchwil hwn gan Sefydliad Robert A Welch, Rhaglen Cymrodoriaeth Sêr Cymru II Llywodraeth Cymru a FLEXIS, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.

Gellir darllen yr erthygl sydd newydd.

ERDF and ESRI logo