Astudiaeth yn datgelu bod poblogaethau anifeiliaid yn lleihau oherwydd eu strategaethau risg uchel wrth chwilio am fwyd

Mae astudiaeth a ddefnyddiodd dechnoleg wedi'i gosod ar anifeiliaid i fesur faint o fwyd a fwytawyd gan bedair fertebriad wyllt wahanol iawn wedi datgelu bod anifeiliaid sy'n defnyddio strategaeth risg uchel i ddod o hyd i fwyd mwy prin yn agored iawn i farw, am na allant gasglu bwyd i'w hepil cyn iddynt farw o newyn.

Yn yr astudiaeth gyntaf o'i math, defnyddiodd tîm o ymchwilwyr wedi'i arwain gan Brifysgol Abertawe dagiau electronig maint ewin bawd i gofnodi symudiad condoriaid, llewpartiaid hela, pengwiniaid a defaid unigol yn yr Ariannin, De Affrica a Gogledd Iwerddon dros gyfnod o chwe blynedd.

Mae'r tagiau (a lysenwyd yn "Daily Diary") yn cofnodi llu o ddata - popeth o symudiadau lleiaf yr anifail drwy ofod ac amser i dymheredd ei amgylchedd a lefel y golau.

Defnyddiwyd y canlyniadau o'r tagiau i fesur:

  • Y tebygolrwydd bod pob anifail yn dod o hyd i fwyd;
  • Maint y bwyd;
  • Yr ymdrech i ddod o hyd i'r bwyd;
  • Yr ymdrech ar gyfer gweithgareddau eraill, megis gorffwys, chwarae etc.

Dywedodd yr Athro Rory Wilson o Brifysgol Abertawe, arbenigwr rhyngwladol ar symudiadau anifeiliaid a phrif awdur yr astudiaeth, "Gwyddwn fod poblogaethau anifeiliaid ledled y byd yn lleihau rhywfaint, gyda'r effaith fwyaf ar anifeiliaid carismatig megis llewod a llewpartiaid hela, ond nid oedd y rheswm am hyn yn amlwg.

"Mae ein hastudiaeth wedi datgelu bod anifeiliaid sy'n defnyddio strategaeth gamblo risg uchel er mwyn dod o hyd i fwyd, megis llewod a theigrod, sy'n chwilio am gyfnod hir cyn cael lwc a dod o hyd i ysglyfaethau, yn fwy tebygol o fethu cronni'r egni y mae ei angen arnynt i fridio o'u cymharu ag anifeiliaid sy'n mabwysiadu strategaeth gamblo risg isel, megis llysysyddion fel sebras."

Prof Rory Wilson with a Magellanic penguin‌Yr Athro Rory Wilson yn gafael mewn pengwin Magelanaidd

Mae'r amser cyfartalog y gall pob rhywogaeth oroesi heb fwyd yn dibynnu ar ei maint (gall epil mwy oroesi'n hirach), ond ni all epil sydd newydd ddeor neu newydd-anedig unrhyw rywogaeth a astudiwyd oroesi heb fwyd am fwy nag ychydig ddiwrnodau.

Amlygir y canlyniadau i'r anifeiliaid hyn sy'n defnyddio strategaeth risg uchel i ddod o hyd i fwyd yn yr astudiaeth drwy gymharu dwy rywogaeth pengwin. Gall pengwiniaid Magelanaidd, sy'n byw yn yr Ariannin, ddod o hyd i bysgod yn hawdd, sy'n golygu eu bod yn debygol o lwyddo, ond mae pengwiniaid Affricanaidd, y mae'r boblogaeth wedi bod yn gostwng ers degawdau, yn annhebygol iawn o ddod o hyd i fwyd.

"Ymddengys fod pysgota masnachol wedi newid y rheolau er gwaeth i'r pengwiniaid Affricanaidd. Pan fo anifeiliaid yn cymryd ysglyfaeth brin ta beth, gall hyd yn oed newidiadau bach yn yr ecosystem o ganlyniad i weithgarwch dynol fod yn ddiwedd ar lwyddiant bridio, ac ymddengys mai dyma'r achos o ran pengwiniaid Affricanaidd, y mae'r boblogaeth bellach yn 1% yn unig o'r boblogaeth ganrif yn ôl," meddai'r Athro Wilson.

Mae'r ymchwilwyr nawr yn gobeithio y gellir defnyddio'r model i ragweld tynged rhywogaethau ledled y byd, a allai fod yn ganolig i helpu i lunio cynlluniau cadwraeth.

Cyhoeddir y papur, Luck in Food-finding Affects Individual Performance and Population Trajectories, yn Current Biology.