Astudiaeth data graddfa fawr yn datgelu rhybuddion cynnar o anhwylder bwyta

Datgelwyd rhybuddion cynnar y gallai fod gan rywun anhwylder bwyta mewn astudiaeth data graddfa fawr a gynhaliwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe.

Dangosodd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn British Journal of Psychiatry gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, fod gan bobl â diagnosis o anhwylder gyfraddau uwch o gyflyrau eraill ac o bresgripsiynau yn ystod y blynyddoedd cyn y diagnosis. Gallai'r canfyddiadau roi cyfle gwell i feddygon teulu adnabod anhwylderau bwyta yn gynt.

Amcangyfrifir fod anhwylderau bwyta – megis anorecsia nerfol, newynglwyf nerfol ac anhwylder gorfwyta – yn effeithio ar 1.6 miliwn o bobl yn y Deyrnas Gyfunol, ond gallai'r nifer fod yn uwch am fod nifer o bobl yn peidio â cheisio cymorth.

Maent yn effeithio ar fenywod yn bennaf, ond dynion hefyd; caiff y rhan fwyaf o bobl ddiagnosis yn ystod glasoed neu oedolaeth gynnar. Anhwylderau bwyta yw'r salwch meddwl sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau, o achosion corfforol ac o ganlyniad i hunanladdiad.

600 x 400

Er gwaethaf maint y broblem, mae adnoddau i drin anhwylderau bwyta yn brin. Ychydig iawn o ganolfannau triniaeth arbenigol sy'n bodoli. Mae'r bobl yr effeithir arnynt fel arfer yn ifanc ac yn agored i niwed, a gallent osgoi diagnosis. Po gynharaf y gwneir diagnosis, fodd bynnag, y gorau y bydd y canlyniad posib i'r claf.

Dyma pam y gall ymchwil newydd wneud gwahaniaeth mawr. Gall helpu meddygon teulu i ddeall beth allai fod yn rhybuddion cynnar o anhwylder bwyta posib.

Archwiliodd y tîm ymchwil, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gofnodion iechyd electronig dienw o feddygon teulu a derbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru. Cafodd 15,558 o bobl yng Nghymru ddiagnosis o anhwylderau bwyta rhwng 1990 a 2017.

Yn ystod y ddwy flynedd cyn eu diagnosis, dangosodd y data fod gan y 15,558 o bobl hyn: 

  • Lefelau uwch o anhwylderau meddwl eraill, megis anhwylderau personoliaeth neu alcohol ac iselder
  • Lefelau uwch o ddamweiniau, anafiadau a hunan-niwed
  • Cyfradd uwch o bresgripsiwn ar gyfer cyffuriau'r system nerfol ganolog, megis gwrthseicotig a gwrthiselder
  • Cyfradd uwch o bresgripsiynau ar gyfer cyffuriau gastro-berfeddol (e.e. ar gyfer rhwymedd a stumog dost) ac ar gyfer atchwanegiadau dietegol (e.e. lluosfitaminau, haearn)

Gall chwilio am fwy nag un cyfuniad o'r ffactorau hyn, felly, helpu meddygon teulu i adnabod anhwylderau bwyta yn gynnar.

Mae Dr Jacinta Tan, a arweiniodd yr ymchwil, yn Athro Cysylltiol Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n cynrychioli Cymru yng Nghyfleuster Anhwylderau Bwyta Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Meddai Dr Tan, seiciatrydd plant a phobl ifanc ymgynghorol:

"Ni allaf orbwysleisio pwysigrwydd datgelu ac ymyrraeth gynnar ar gyfer anhwylderau bwyta. Yn anffodus, mae oedi cyn cael diagnosis a thriniaeth yn gyffredin, a hefyd yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth a mwy o ddioddef. 

Mae'r ymchwil hwn yn cyfrannu at y dystiolaeth am fynychder anhwylderau bwyta ac mae'n dechrau meintoli maint y broblem yng Nghymru gyfan. Nid yw'r mwyafrif o'r cleifion hyn a adnabuom yn hysbys i'r gwasanaethau anhwylder bwyta arbenigol.

Mae'r cynnydd mewn presgripsiynau gan feddygon teulu cyn ac ar ôl diagnosis yn dangos bod y cleifion hyn, hyd yn oed os nad ydynt yn hysbys i wasanaethau arbenigol, yn profi llawer mwy o anawsterau. Tanlinella hyn yr angen clinigol am ymyrraeth gynharach ar y cleifion hyn, a'r angen am gefnogaeth i feddygon teulu yn eu rôl bwysig yn hyn o beth."

600 x 465

Meddai Dr Joanne Demmler, uwch ddadansoddwr data yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) ym Mhrifysgol Abertawe:

“Mae hwn wedi bod yn brosiect hynod ddiddorol i weithio arno. Defnyddiom ddata clinigol dienw ar boblogaeth gyfan Cymru a'u datrys, gyda chodau ac ystadegau, i adrodd stori am anhwylderau bwyta.

Mae'r broses 'adrodd stori' hon wedi bod yn rhan gymhleth o'n dealltwriaeth o'r data hynod gymhleth hyn, ac roedd yn bosib drwy gydweithio'n agos rhwng dadansoddwyr data a chlinigwr hynod ymroddedig a brwdfrydig.”

Meddai'r Athro Keith Lloyd, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru:

“Gall anhwylderau bwyta gael effaith ddinistriol ar unigolion a'u teuluoedd, felly mae'r astudiaeth hon yn amserol iawn.

Rydym yn ymrwymedig i roi'r ddadl dros wasanaethau a chymorth digonol i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru, wedi'u darparu yn agos at eu cartref."