Annhebygol y bydd canser cythraul Tasmania yn achosi tranc yn ôl arbenigwyr

Mae astudiaeth newydd o gythreuliaid Tasmania wedi datgelu bod canser trosglwyddadwy sydd wedi difetha poblogaethau cythreuliaid mewn blynyddoedd diweddar yn annhebygol o achosi tranc y rhywogaeth eiconig.

Mae ymchwil newydd wedi'i arwain gan Dr Konstans Wells o Brifysgol Abertawe wedi datgelu ei bod yn fwy tebygol y bydd y clefyd yn diflannu neu y bydd y cythreuliaid yn cydfodoli â Chlefyd Tiwmor Wyneb Cythraul Tasmania (DFTD) yn y dyfodol.

Yn nodweddiadol mae DFTD yn lladd y mwyafrif o gythreuliaid mae'n eu heintio, gan ladd oddeutu 80% o gythreuliaid gwyllt ac arwain at ostyngiad parhaus poblogaethau presennol ers y darganfuwyd y clefyd gyntaf.

Parodd tîm rhyngwladol o wyddonwyr o'r Deyrnas Gyfunol, Awstralia ac Unol Daleithiau America dystiolaeth epidemiolegol maes o boblogaethau gwyllt a gasglwyd dros gyfnod o ddeng mlynedd yng ngogledd-orllewin Tasmania mewn astudiaethau efelychu, gan ddatgelu bod DFTD yn annhebygol o barhau i achosi gostyngiad parhaus poblogaethau cythreuliaid Tasmania yn y dyfodol.

Dywedant fod canfyddiadau eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Ecology, yn cynnig gobaith y mae ei mawr angen na fydd y rhywogaeth, y cigysydd bolgodog mwyaf yn y byd, o reidrwydd yn marw o ganlyniad i DFTD.

Darganfuwyd DFTD yng ngogledd-ddwyrain Tasmania ym 1996, ac mae'n achosi i diwmorau ffurfio ar wyneb a gwddf yr anifail. Mae'r canser yn lledaenu pan fo'r cythreuliaid yn cnoi wynebau ei gilydd, a thrwy hynny'n lladd yr anifeiliaid o fewn chwe mis i ddwy flynedd.

A Tasmanian devil with a cancerous tumour. ‌Tiwmor ar wyneb cythraul Tasmania 

Meddai Dr Konstans Wells, prif awdur yr astudiaeth: "Awgryma ein darganfyddiadau ei fod yn annhebygol bod angen ymyriadau ar unwaith i sicrhau goroesiad poblogaethau cythraul Tasmania. Mae hyn oherwydd nad yw gostyngiad sylweddol ymhlith poblogaeth cythreuliaid ar ôl i glefyd ymddangos o reidrwydd yn arwain at ostyngiad hirdymor."

Er mwyn archwilio canlyniadau hirdymor DFTD a phoblogaethau cythreuliaid, cynhaliodd yr ymchwilwyr nifer o efelychiadau lledaeniad posib clefyd ymhlith cythreuliaid. Ar sail tystiolaeth megis cyfraddau heintio presennol yn y gwyllt, dewiswyd y senarios mwyaf tebygol i archwilio sut y byddai DFTD yn effeithio ar boblogaethau cythreuliaid dros y ganrif nesaf. Ymhlith y senarios mwyaf tebygol oedd y rhai lle diflannodd DFTD (57% o'r holl senarios) neu lle'r oedd yn cydfodoli â'r cythreuliaid (22% o'r holl senarios).

"Gyda thystiolaeth gynyddol bod cythreuliaid yn dangos arwyddion o addasu i DFTD, a hyd yma nad yw'r clefyd wedi achosi tranc lleol, dylid ystyried camau rheoli yn targedu deall strategaethau addasu'r cythreuliaid i ymdopi â DFTD," meddai'r cyd-awdur, Dr Rodrigo Hamede o Brifysgol Tasmania.

"Nid yw gwaredu DFTD yn llwyr yn ddichonol, felly bydd astudio'r rhyngweithiadau hirdymor rhwng cythreuliaid a thiwmorau yn rhoi prognosis realistig i'r rhywogaeth, ac ar yr un pryd bydd yn ein helpu ni i ddeall prosesau esblygiadol pwysig. Mae hyn yn hynod berthnasol o ystyried yr achos diweddar o ganser trosglwyddadwy newydd - tiwmor wyneb cythraul 2 - sy'n effeithio ar boblogaethau yn ne-ddwyrain Tasmania. Ymddengys fod cythreuliaid yn agored i ganserau trosglwyddadwy, felly dylai astudio deinameg epidemig ac ymatebion esblygiadol i'r mathau hyn o glefydau fod yn flaenoriaeth," meddai Dr Hamede.

Awgryma'r ymchwil y dylid arwain ymdrechion rheoli i gynnal poblogaethau cythreuliaid gan y ddealltwriaeth newidiol o ganlyniadau hirdymor effaith y clefyd ar gythreuliaid.

Esbonia Dr Wells: "Gallai ymdrechion rheoli poblogaethau gwyllt, y'u hunig nod yw brwydro effaith DFTD, fod yn wrthgynhyrchiol os ydynt yn amharu ar rymoedd hirdymor a allai arwain at boblogaethau cythreuliaid sefydlog sy'n gallu goroesi â'r canser.

"Ni ddylid cuddio clefydau bywyd gwyllt megis DFTD y tu ôl i'r ffaith bod amgylchoedd naturiol mawr heb eu tarfu yn hanfodol i fywyd gwyllt oroesi, ac yn y pendraw ymdopi â rhwystrau megis clefydau heintus heb ymyrraeth pobl."


Cyhoeddir yr astudiaeth, Individual and temporal variation in pathogen load predicts long-term impacts of an emerging infectious disease, yn Ecology.