
Dihangodd Natalie Jarvis, sy'n 27 oed, ar ôl dioddef cam-drin domestig ac mae hi bellach wedi goresgyn canser y fron. Yr wythnos hon, bydd yn graddio o Brifysgol Abertawe. Dyma stori Natalie yn ei geiriau ei hun.
Mae man cychwyn i bob taith.
Roedd fy magwraeth yn drawmatig. Collais fy nhad pan oeddwn yn wyth oed ac roedd fy mam yn brwydro'n gyson yn erbyn ei hanhwylderau ei hun.
Rwy'n fwy na pharod i gyfaddef nad oeddwn yn mwynhau'r ysgol. Roedd fy ymddygiad yn wael a rhoddais gynnig ar alcohol a chyffuriau. Roeddwn yn ifanc ac yn ddiniwed, ac roeddwn yn meddwl fy mod yn gwybod popeth. Serch hynny, llwyddais i basio wyth cwrs TGAU, a fyddai'n fy ngalluogi i fynd i'r coleg.
Ond roeddwn eisoes mewn sefyllfa wael. Roedd y bobl anghywir o'm cwmpas ac roeddwn yn byw er mwyn y penwythnos.
Gwaetha'r modd, lladdodd un o'm ffrindiau ei hun ac roedd hynny'n sbardun i mi, gan fy neffro i ystyried y pethau a oedd yn bwysig mewn bywyd. Roeddwn yn gwybod bryd hynny fod angen i mi newid fy ffordd o fyw a chreu bywyd newydd i mi fy hun.
Penderfynais astudio am ddiploma estynedig mewn busnes yn y coleg a llwyddais i ennill anrhydedd. Arweiniodd hynny at gynnig gan Ysgol Fusnes Llundain, ond enillais ysgoloriaeth i astudio cwrs Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn ar ben fy nigon.
Ond roeddwn hefyd mewn perthynas ar yr adeg honno â phartner a oedd yn fy ngham-drin.
Dechreuais fy nghwrs ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2015, ond roedd fy iechyd meddwl a'm lles personol yn gwaethygu'n gyflym oherwydd yr hyn a oedd yn digwydd i mi gartref. Roedd yn anodd iawn i mi reoli fy astudiaethau ac roedd yn rhaid i mi wneud fy mlwyddyn gyntaf ddwywaith.
Yn ddigon buan, aeth fy myd ar chwâl.
Roeddwn yn aml wedi ceisio cuddio'r ffaith fy mod yn dioddef cam-drin domestig trawmatig a pharhaus, ond yn y pen draw collais bopeth.
Er i mi barhau â'm cwrs, roedd y cwbl yn ormod ac roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i'm hastudiaethau'n llwyr am flwyddyn. Clywais hefyd fy mod wedi bod yn feichiog ers 12 wythnos, ond yn anffodus collais fy maban.
Roeddwn yn teimlo'n isel iawn a gwnaeth golli fy maban effeithio arnaf yn feddyliol. Symudais i loches i fenywod am wyth mis lle gwnes i gyrsiau straen ôl-drawmatig, rhaglenni rhyddid a dosbarthiadau hunanbarch. Roedd pob un ohonynt o fudd mawr.
Penderfynais ddychwelyd i'm cwrs gradd ym mis Medi 2018 a dechrau'r ail flwyddyn. Tua'r adeg honno, gwnes i gwrdd â'm partner presennol, Starr.
Ond, ym mis Mawrth 2019, pan oeddwn yn edrych tua'r dyfodol, newidiodd fy holl fywyd dros nos pan wnes i deimlo lwmp ar fy mron dde.
Er i mi gael llawdriniaeth i dynnu'r rhan fwyaf o'r lwmp, cefais y newyddion torcalonnus bod y canser wedi cyrraedd y trydydd cyfnod, a adwaenir yn feddygol fel HERS2, sef y math mwyaf ymosodol o ganser. Roedd yr afiechyd yn agos iawn at gyrraedd y cyfnod angheuol.
Dechreuais feddwl am gant a mil o bethau bryd hynny, ac roedd llu o gwestiynau yn fy mhen. A fyddwn yn marw? Ai dyma'r diwedd?
Yna cefais gyfnodau llethol o gemotherapi a radiotherapi, ond yn fy meddwl nid oeddwn yn siŵr ynghylch y peth gorau i'w wneud. A fyddai'r brifysgol yn ormod i mi ymdopi â hi? Sut byddwn yn ymdrin â cholli fy ngwallt a'm hyder? A fyddai pobl yn gwybod fy mod yn gwisgo wig? A fyddent yn chwerthin am fy mhen?
Roedd y pryderon yn ddiddiwedd, ond roeddwn o'r farn na fyddai rhoi'r ffidil yn y to'n dderbyniol. Gwyddwn y gallwn farw cyn cwblhau fy ngradd ond roeddwn am wneud fy ngorau glas.
Dechreuodd y cemotherapi bob tair wythnos ac nid oedd yn hir cyn i mi ddechrau colli fy ngwallt. Erbyn fy nhrydedd sesiwn, roedd yn amhosib cuddio hynny a gwnes i fuddsoddi mewn nifer o wigiau – roedd rhai ohonynt yn lliwgar iawn!
Roedd cemotherapi'n wahanol i unrhyw beth roeddwn wedi ei wynebu o'r blaen. Roeddwn mor wan y byddwn yn crïo, ond roedd fy meddwl yn effro. Roeddwn wedi fy nghaethiwo mewn corff a oedd fel pe bai'n fy mradychu.
Fy aseiniadau oedd fy achubiaeth. Efallai fy mod wedi fy nghaethiwo'n gorfforol ond roedd fy ymennydd yn gweithio'n iawn. Es i â'm gliniadur i apwyntiadau yn yr ysbyty, gyda bwced wrth fy ochr rhag ofn i mi chwydu, a gwnes i fwrw ymlaen. Ni fyddai dim byd yn fy atal rhag gorffen fy ngradd.
Roedd y canser yn ymwneud â'm hormonau ac wrth i mi gymryd y feddyginiaeth angenrheidiol, yn dilyn prawf ceg y groth ym mis Chwefror eleni, dywedodd y meddygon wrthyf eu bod wedi canfod polypau canseraidd ar fy ofarïau. Dyma ergyd arall, ond roeddwn yn dal yn benderfynol o beidio â chael fy nhrechu. Roeddwn wedi dod yn rhy bell.
Diolch byth, tynnwyd y polypau ac ar ôl rhagor o gemotherapi cefais newyddion da o'r diwedd. Rwyf bellach wedi gwella.
Am bum mlynedd, byddaf yn cael mamogram blynyddol a phrawf ceg y groth ddwywaith y flwyddyn. Byddaf yn parhau i gael meddyginiaeth ddyddiol am y 10 mlynedd nesaf, ond am y tro rwyf wedi ennill.
Roedd adegau pan oeddwn yn meddwl na fyddwn byth yn cyrraedd diwedd fy ngradd, fel y byddai rhywbeth bob amser yn fy atal rhag cyflawni fy nod. Roedd fy ngorfoledd pan ddychwelais fy narn olaf o waith yn gyffelyb i glywed fy mod yn rhydd o ganser. Dyma rwystr arall roeddwn wedi'i oresgyn.
Yn groes i bob disgwyl, rwyf wedi llwyddo. Ac yr wythnos hon byddaf yn graddio gyda 2:1. Mae ysgrifennu'r geiriau hynny'n ddigon i godi gwên ar fy wyneb.
Byddwn yn canmol y staff ym Mhrifysgol Abertawe i'r cymylau. Rwyf wedi cael cefnogaeth anhygoel.
Pan ddechreuais gael cemotherapi, roeddwn yn anghofio pethau'n aml iawn, ac roedd y meddygon wedi fy rhybuddio am hyn. Roedd arnaf ofn ynghylch y ffordd y gallai hyn effeithio ar fy mherfformiad mewn arholiadau.
Tynnais sylw Amy Genders, swyddog profiad myfyrwyr yn yr Ysgol Reolaeth, at hyn a'i hateb oedd i mi gael asesiadau amgen, a fyddai'n fy ngalluogi i gwblhau aseiniadau i'w profi yn hytrach nag arholiadau. Yn ogystal, gwnaeth llawer o apwyntiadau yn yr ysbyty arwain at golli darlithoedd, ac roeddwn yn brwydro i reoli fy amser. Eto, lliniarodd Amy'r pwysau hyn drwy fy helpu i wneud cais am amgylchiadau esgusodol a chafodd fy nherfynau amser eu hymestyn er mwyn rhoi cyfle i mi orffen fy ngwaith yn brydlon.
Heb y gefnogaeth hon, byddwn wedi cael llawer mwy o drafferthion, a byddai fy mrwydr yn erbyn canser wedi bod yn llawer anos. Mae'r darlithwyr a'r staff gweinyddol ehangach yn yr Ysgol Reolaeth wedi mynd gam ymhellach ac rwyf mor ddiolchgar iddynt am fy helpu a'm cefnogi.
Hoffwn hefyd ganmol fy mhartner, Starr, sydd wedi bod yn gefn i mi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hi wedi bod yn ffrind gorau, yn nyrs, yn bartner ac yn gwnselydd i mi – i gyd ar yr un pryd. Hi oedd fy nghorff ar y dyddiau gwael pan na allwn symud, a hi oedd fy nghoesau pan na allwn gerdded. Rwy'n ysu i weld yr hyn a ddaw yn y dyfodol i'r ddwy ohonom.
Rwyf wedi cyflwyno cais i astudio am radd meistr yn Abertawe oherwydd fy mod am gael mwy o addysg a sicrhau dyfodol disglair. Er bod cyfnod y cyfyngiadau symud diweddar wedi bod yn rhyfedd, mae hefyd wedi bod yn fendith treulio amser o safon ag anwyliaid a chreu atgofion a fydd yn para am oes.
Rwyf yng nghanol fy nhaith, ond mae pennod newydd wedi dechrau.