Mae’r datganiad hwn yn egluro sut y bydd yr adran Marchnata Busnes o fewn adran Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn trin ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn ystod ac ar ôl i’r berthynas gwblhau.

Bydd casglu eich data personol yn ein galluogi i gael gwell dealltwriaeth o’ch diddordebau a bydd yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gweithgareddau, cyfleoedd a’n datblygiadau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth ac i fod yn dryloyw ynglŷn â’r wybodaeth sydd gennym. Fodd bynnag, os hoffech ddarllen mwy am ymrwymiad y Brifysgol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw yn gyffredinol, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data’r Brifysgol.

Defnyddio eich Gwybodaeth Bersonol

Prifysgol Abertawe yw'r rheolwr data ac mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau cleientiaid a phartneriaid yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) newydd. Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol gan unigolion a sefydliadau sy'n dymuno derbyn cyfathrebiadau marchnata sy'n canolbwyntio ar fusnes gan Brifysgol Abertawe:

  • Enw’r unigolyn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Teitl Swydd
  • Enw’r sefydliad
  • Math o sefydliad
  • Lleoliad y sefydliad

Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i roi gwybod i chi am ein gwasanaethau, ein digwyddiadau ac unrhyw ddatblygiadau a fyddai’n berthnasol i chi neu i'ch sefydliad.

Mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu ag adrannau eraill o fewn y Brifysgol sy'n darparu gwasanaethau tebyg a allai fod o ddiddordeb i chi neu i'ch sefydliad.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu?

Mae cyfraith diogelu data yn disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data fel un sy'n seiliedig ar gydsyniad neu at ddibenion y buddiannau cyfreithlon* a ddilynir gan y Brifysgol neu gan drydydd parti, ac eithrio pan fo buddiannau o'r fath yn cael eu diystyru gan fuddiannau neu hawliau sylfaenol a rhyddid gwrthrych y data sy'n gofyn am ddiogelu data personol.

*(Mae datganiad 47 o'r GDPR yn cydnabod y gellir ystyried bod prosesu data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol yn cael ei wneud er budd cyfreithlon. Dim ond pan fydd asesiad buddiannau cyfreithlon wedi'i gynnal i sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac mewn ffyrdd y byddech yn rhesymol ddisgwyl ac sy'n cael cyn lleied o effaith breifatrwydd â phosibl y bydd prosesu o'r fath yn cael ei wneud, neu lle mae cyfiawnhad cymhellol dros y prosesu).

Pwy fydd yn derbyn eich gwybodaeth?

Prifysgol Abertawe fydd yn cadw gwybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni.

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio ar ein systemau a'n cronfeydd data electronig diogel a gall cydweithwyr o fewn y Brifysgol sydd â chaniatâd priodol i gael mynediad atynt. Caiff gwybodaeth bersonol ei diogelu gan y Brifysgol ac ni chaiff ei datgelu i sefydliadau trydydd parti heb ganiatâd penodol.

Mae’r wybodaeth ar gael i bersonél y mae angen mynediad arnynt mewn amgylchiadau cyfyngedig am y rhesymau a amlinellir uchod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Staff gweinyddol a marchnata'r Brifysgol

Sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei storio?

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, a bydd yr holl fesurau priodol yn cael eu cymryd i atal mynediad a datgeliad heb awdurdod.

Dim ond aelodau o staff y mae angen mynediad arnynt i rannau perthnasol o’ch gwybodaeth neu'ch holl wybodaeth, fydd wedi'u hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch ar ffurf electronig wedi’i diogelu gan gyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, ac yn cael ei chadw ar rwydweithiau diogel y brifysgol tra bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel gyda mynediad rheoledig.

Bydd y Brifysgol yn defnyddio systemau rheoli cynnwys trydydd parti sy'n defnyddio gwasanaethau cwmwl i brosesu data personol i anfon marchnata electronig uniongyrchol yn unol â chytundebau prosesu data'r UE/AEE.

Mae’n bosib y bydd adegau pan fydd eich data personol yn bodoli ar weinyddion y tu allan i'r UE. Lle ceir prosesu y tu allan i'r UE, bydd Prifysgol Abertawe yn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiadau yn gyfreithlon ac yn gyfiawn yn unol â'r GDPR.

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Cedwir eich  data personol nes i chi ddewis dad-danysgrifio o Gyfathrebiadau Marchnata Busnes neu lle rydym yn nodi yn ystod ymarferion glanhau data blynyddol nad ydych bellach yn ymgysylltu â ni e.e. os byddwn yn sefydlu o ddadansoddiadau e-bost nad ydych yn agor yr e-gylchlythyr busnes.

Eich cyfrifoldebau

Rhowch wybod i'r tîm Marchnata Busnes drwy e-bost neu drwy ffonio 01792 606096 am unrhyw newidiadau i'ch enw, cyfeiriad, manylion cyswllt cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl fel y gallwn ddiwygio ein cofnodion yn unol â hynny.

Tynnu caniatâd yn ôl i dderbyn marchnata electronig

Os byddwch yn derbyn unrhyw negeseuon diangen, byddwch yn gallu dad-danysgrifio ar unrhyw adeg o unrhyw un o'n negeseuon e-bost.

Os ydych wedi rhoi caniatâd i Brifysgol Abertawe brosesu unrhyw ran o'ch data, yna mae gennych hawl hefyd i dynnu'r caniatâd hwnnw'n ôl a gofyn i'ch data gael ei ddileu pan nad ydych am dderbyn gwybodaeth farchnata mwyach.

Yn unol a’r ddeddfwriaeth, byddwn bob amser yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio derbyn cyfathrebiadau marchnata perthnasol gan Marchnata Busnes yn y dyfodol.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu a symud eich gwybodaeth bersonol (sylwer, fodd bynnag, fod hyn yn debygol o effeithio ar ein gallu i roi cymorth i chi yn y ffordd fwyaf effeithiol, os o gwbl).

Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:-

Bev Buckley
Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (FOI/DP), 
Swyddfa’r Is-Ganghellor, 
Prifysgol Abertawe, 
Parc Singleton, 
Abertawe, 
SA2 8PP

dataprotection@swansea.ac.uk 

Os ydych yn anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi'i phrosesu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn y lle cyntaf gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, yna mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, 
Wycliffe House, 
Water Lane, 
Wilmslow, 
Cheshire, 
SK9 5AF 

www.ico.org.uk

Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu rhoi ar y dudalen ho