Yr Athro Sue Black OBE i roi darlith ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r cyfrifiadurwr arobryn, meddyliwr radical ac entrepreneur cymdeithasol yr Athro Sue Black OBE yn cyflwyno darlith arbennig yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe.

Cynhelir y ddarlith, sy'n agored i bawb, yn Awditoriwm Syr Stanley Clarke yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae am 1pm ar ddydd Mercher, 27 Mawrth.

Bydd Sue Black yn adrodd ei stori ysgogol ac sy'n ysbrydoli am sut yr aeth o fod yn rhiant sengl â thri o blant bach yn byw ar ystâd tai cyngor yn Brixton i fod yn un o'r 50 o fenywod pwysicaf mewn technoleg yn Ewrop, gan dderbyn OBE a chael ei phenodi i Fwrdd Ymgynghorol y Llywodraeth ar lunio gwasanaethau digidol.

Yn ogystal â chael ei henwi'n ddiweddar yn rhestr y 50 o fenywod pwysicaf ym maes technoleg yn Ewrop, ac ennill Gwobr Cyflawniad Oes yn Lovie Awards 2018, mae Sue yn adnabyddus am sefydlu'r ymgyrch proffil uchel i achub Bletchley Park, gan fanteisio ar gyfryngau cymdeithasol fel parhad teilwng i etifeddiaeth dechnolegol Bletchley.

300 x 200

Mae Sue hefyd yn llysgennad angerddol dros fenywod mewn technoleg, ac mae wedi treulio'r ugain mlynedd diwethaf yn ymgyrchu dros ragor o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i fenywod mewn cyfrifiadura. Arweiniodd hyn at sefydlu #techmums, sef menter gymdeithasol sy'n grymuso mamau a'u teulu drwy dechnoleg.

Yn 2017 enillodd Wobr Effaith Gymdeithasol ABIE yn Nathliad Grace Hopper, fe'i gwnaethpwyd yn OBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2016 ac mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol newydd y Llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau digidol.

Yn ddiweddar cafodd Sue gyfweliad â Kirsty Young ar Desert Island Discs, gan drafod popeth yn ymwneud â thechnoleg a sut i "fod eich hun ar eich gorau ar gyfryngau cymdeithasol".

Dywedodd yr Athro Sue Black OBE:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siarad ym Mhrifysgol Abertawe am fy mywyd a'm hangerdd am dechnoleg. Mae technoleg ac addysg wedi newid fy mywyd i a bywyd fy nheulu yn aruthrol er gwell. Rwyf eisiau ysbrydoli pawb i fynd mas a byw eu bywyd gorau, i fanteisio ar gyfleoedd ac i fynd am yr hyn maent ei eisiau. Technoleg yw'r dyfodol."