Yr Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe wedi’i henwi ymhlith Cenedl o Achubwyr Bywyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw derbyniodd yr Athro Amy Brown gydnabyddiaeth am ei chyfraniad eithriadol at gadw’r genedl yn iach.

MadeAtUni Cymraeg

Mae’r Athro Brown o’r Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol yn un o Genedl o Achubwyr Bywyd – sef y 100 o unigolion neu grwpiau gorau a leolir mewn prifysgolion y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i’n hiechyd a’n llesiant sy’n newid bywydau.

Maent wedi’u henwi am y tro cyntaf heddiw fel rhan o ymgyrch MadeAtUni Universities UK sy’n dod ag effaith prifysgolion ar fywydau bob dydd yn fyw.

Arbenigedd yr Athro Brown yw deall y rhesymau pam bod y Deyrnas Unedig yn meddu ar y graddfeydd bwydo ar y fron isaf yn y byd, er bod nifer o fenywod yn dymuno bwydo ar y fron. Yn hytrach na chanolbwyntio ar annog mamau i fwydo ar y fron, mae’r Athro Brown yn archwilio rhwystrau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol rhag bwydo ar y fron ac mae’n gweithio gyda’r rhai hynny ym maes iechyd cyhoeddus i greu amgylchedd sy’n cefnogi bwydo ar y fron.

Dangosodd ei hymchwil fod bwydo ar y fron ar ei orau pan gaiff gofynion babi o ran bwydo’n rheolaidd, gofal yn ystod y nos a chael ei ddal eu bodloni. Canfu fod nifer o bobl yn dweud wrth famau bod ymateb i’w babi yn anghywir a bod yr ymddygiad arferol hwn yn golygu nad yw bwydo ar y fron yn gweithio.

Er mwyn herio hyn, mae’r Athro Brown wedi gweithio gyda thros 30,000 o famau, gan gasglu data ar ffurf ymddygiad arferol babi, na fydd llaeth fformiwla’n newid hyn, a’r niwed y gall amserlenni gofal babi llym ei gael, o safbwynt bwydo ar y fron a llesiant mamol.  

Mae hi wedi lansio ymgyrch ymgysylltu cyhoeddus ‘Datgelu Bwydo ar y Fron’ gan ddefnyddio animeiddiadau digidol, blogio, cyfryngau cymdeithasol, llyfrau a sgyrsiau i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n arferol a’r ffordd orau o gefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron. Bu’r ymgyrch yn targedu nid mamau yn unig ond y sawl sy’n helpu neu sy’n rhwystro ei llwyddiant: partneriaid, teulu, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi.

Gan gyrraedd dros 250 miliwn o unigolion caiff ei gydnabod yn fyd-eang fel ffordd o roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i famau fwydo ar y fron. Defnyddir ei gwaith yn fyd-eang gan Sefydliad Iechyd y Byd, byrddau iechyd, a sefydliadau bwydo ar y fron i gefnogi’r gwaith o addysgu rheini, ymarferwyr a’r cyhoedd. Yn bwysicaf oll, mae mamau’n cymeradwyo’r ymgyrch gan ddweud ei bod yn eu grymuso trwy roi’r hyder iddynt barhau i fwydo ar y fron.

Mae Cenedl o Achubwyr Bywyd yn ymladd heintiau, yn helpu rhieni newydd a phlant i fwynhau’r cychwyn gorau i fywyd, yn cefnogi pobl hŷn ac yn gwella ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Mae’r detholiad yn datgelu’r defnydd anhygoel o dechnoleg, megis dronau i ymladd malaria, maneg glyfar ar gyfer cyfathrebu iaith arwyddion a robotiaid sy’n helpu pobl hŷn.  

Gwahoddwyd Prifysgolion o ledled y wlad i enwebu unigolyn neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a llesiant y genedl. Cyflwynodd dros 100 o brifysgolion o Plymouth i Dundee enwebiad.

Meddai’r Athro Brown:

“Mae cael fy nghynnwys fel un o Genedl o Achubwyr Bywyd am fy ngwaith i helpu i greu amgylchedd sy’n cefnogi bwydo ar y fron yn anrhydedd wych. Mae ymgyrch MadeAtUni yn gyfle gwych i ddathlu’r ffyrdd niferus y mae prifysgolion yn cael effaith sylweddol ar ein bywydau bob dydd.”

Meddai’r Athro Fonesig Janet Beer, Llywydd Universities UK:

 “Pan fydd pobl yn meddwl am achubwyr bywyd maent yn tueddu i ganolbwyntio ar ymroddiad a chymhwysedd ein meddygon, ein nyrsys, ein gofalwyr, a’n parafeddygon – a chaiff nifer ohonynt eu haddysgu mewn prifysgolion. Bob dydd, ar hyd a lled y wlad, mae prifysgolion hefyd yn gweithio ar ffyrdd arloesol i weddnewid bywydau ac achub bywydau. Mae ymchwil a gynhelir mewn prifysgolion yn dod o hyd i atebion ar gyfer cynifer o’r materion iechyd a llesiant sydd o bwys i ni.

“Trwy gydweithio’n falch ag elusennau, y GIG a sefydliadau gofal iechyd, mae prifysgolion yn gyfrifol am rai o’n darganfyddiadau mwyaf ym maes iechyd a’r chwyldro yn y ffordd y caiff gofal ei roi.

“Mae’r ymgyrch hon yn gyfle i ddod â’r gwaith rhagorol ac, yn aml, annisgwyl sy’n cael ei gyflawni bob dydd yn ein prifysgolion yn fyw ac i ddathlu rhai o’r bobl sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth i’r genedl sy’n newid bywydau.”

Mae ymchwil yn dangos bod y cyhoedd yn falch o brifysgolion y Deyrnas Unedig[1] ond nid oes ganddynt lawer o ddealltwriaeth o’r buddion y maent yn eu cynnig, ac nid yw’r mwyafrif yn ymwybodol bod academyddion y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am nifer o’r darganfyddiadau sy’n achub bywydau ac yn ein cadw ni’n iach. Mae’r ymgyrch MadeAtUni yn rhoi mewnwelediad i’r cyhoedd ynghylch rhywfaint o’r gwaith hwn ac mae’n dathlu’r rhai hynny y maent yn ei wireddu. Ceir gwybodaeth bellach am yr ymgyrch ar y wefan: www.madeatuni.org.uk