Y Ffatri Clyfar: gydweithio i sbarduno effeithiolrwydd drwy dechnoleg ddigidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r genhedlaeth nesaf o ffatrïoedd “clyfar”, a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol flaengar, yn ffocws cydweithiad newydd rhwng y cynhyrchwr pecynnu arweiniol, Crown Holdings, Inc., a Phrifysgol Abertawe.

Bydd Dr Cinzia Giannetti, o Goleg Peirianneg y Brifysgol yn gweithio gyda chanolfan Crown’s R&D yn y DU, gan ddefnyddio technegau dadansoddi data newydd a thechnolegau digidol i wella effeithiolrwydd cynhyrchu. 

Un enghraifft o Dechnolegau Digidol Diwydiannol yw Cyber Manfacturing, sy’n cysylltu data o wahanol beiriannau, gan greu llinellau cynhyrchu clyfar sy’n gallu addasu i newid ac adfer ar ôl methiant yn gyflymach.

Mae Crown yn wneuthurwyr pacio blaenllaw ac mae ganddo weithrediadau byd-eang. Mae ei bortffolio’n cynnwys caniau a phennau i ddiodydd ysgafn, cwrw a diodydd eraill, caniau a phennau bwyd a deunydd pacio metel a gwydr eraill ar gyfer cynnyrch i gwsmeriaid. Mae’n gweithredu mewn marchnadoedd hynod gystadleuol lle mae rhagoriaeth o ran cynhyrchu yn allweddol i lwyddiant.

Gan dynnu ar arbenigedd Crown wrth waithgynhyrchu pacio metel ar gyflymder, bydd yr astudiaeth tair blynedd o hyd yn canolbwyntio ar wella galluoedd penderfynu cyflym peiriannau i fwyafu’r prosesau cynhyrchu. Gyda mynediad unigryw i ddata ffatri Crown, bydd y prosiect yn datblygu modelau cyfrifiadurol cadarn y gellir eu defnyddio yn ffatrïoedd clyfar y cwmni i ragweld methiannau peirianyddol a mwyafu effeithiolrwydd gweithredu, a’r nod yn y pen draw yw lleihau gwastraff a lleihau amser anweithredol o ganlyniad i fethiannau. 

600 x 375

Mae Dr Giannetti yn ymchwilydd i weithgynhyrchu clyfar â chefndir mewn peirianneg meddalwedd.  Bu’n un o dri ymgeisydd llwyddiannus o’r Coleg Peirianneg i ennill cyllid gan Gymrodoriaeth Arloesedd EPSRC-UKRI, gan gynrychioli bwriad Prifysgol Abertawe i ymgymryd ag ymchwil sy’n cael effeithiau mawr mewn diwydiant.

Mae’r gymrodoriaeth i Dr Giannetti yn rhan o weithrediad IMPACT (Deunyddiau Arloesol, Prosesu a Thechnolegau Rhifol Uwch), sy’n sefydliad ymchwil lled-annibynnol gwerth £35 miliwn a fydd yn cynnig labordai hynod arbenigol sy’n addas i’r dyfodol gydag amgylchedd dynamig ar gyfer cydweithrediad rhwng diwydiant ac academia. 

Mae wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe, a nod y prosiect unigryw hwn yw denu arbenigedd byd-arweiniol a chyllid ymchwil sylweddol. Disgwylir i’r adeilad Newydd agor yn haf 2019.

Meddai Dr Cinzia Giannetti o Brifysgol Abertawe:

“Mantais allweddol o’r ymchwil yw’r potensial i gynyddu effeithiolrwydd a chynhyrchiant prosesau gweithgynhyrchu.

Mae lefelau cynhyrchu cyfredol cynhyrchwyr a darparwyr y DU ar ei hôl hi o’u cymharu â chystadleuwyr rhyngwladol, sy’n atal y DU rhag cystadlu’n llwyddiannus â gwledydd eraill ym maes gweithgynhyrchu, sy’n hanfodol i gadw busnesau a swyddi yn y DU yn hytrach nag ad-leoli cynhyrchiant dramor.

Ffordd allweddol o roi hwb i’r sector gweithgynhyrchu yw defnyddio Technolegau Digidol Diwydiannol ar raddfa eang, gan gynnwys cymhwyso Systemau Cynhyrchu Seibr.

Gan ddefnyddio systemau cynhyrchu wedi’u digidaleiddio a data byd real o ffatri Crown, wedi’u cyfuno â gwybodaeth peirianneg helaeth, fy nhod i yw datblygu a defnyddio modelau cyfrifiadurol cadarn wedi’u seilio ar ddata i ragweld digwyddiadau o fethiant, er mwyn gwneud addasiadau prydlon i’r broses i leihau amser anweithredol o ganlyniad i fethiant a chynyddu effeithiolrwydd gweithrediadau prosesau.

Un o ganlyniadau pwysig y prosiect fydd, yn y pen draw, ein dealltwriaeth well o fanteision mabwysiadu Technolegau Digidol Diwydiannol a’u gwerth a bydd hefyd yn magu hyder er mwyn i gynhyrchwyr a darparwyr fuddsoddi yn y maes hwn, a fydd yn helpu’r DU i ddod yn arweinydd ym maes cynhyrchu digidol.”

Ychwanegodd Is-arlywydd Technolegau Digidol Crown, Nigel Wakely:

“Rydym ni wrth ein boddau i gael y cyfle hwn i gydweithio â Phrifysgol Abertawe a chefnogi Dr Giannetti yn ei hymchwil.

Bydd datblygu systemau i fwyafu ein prosesau cynhyrchu cyflymder uchel a dwysedd uchel yn heriol, ond credwn ei fod yn nod gwerthfawr iawn. Mae’r potensial i gymhwyso'i ddysg i ddiwydiannu eraill yn gwneud y prosiect hwn hyd yn oed yn fwy buddiol.”

Crown Packaging logo