Y brifysgol yn dathlu perthnasau agosach â phartneriaid o Decsas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei chysylltiadau hirhoedlog â Thecsas gydag ymweliad proffil uchel i'r dalaith gan yr Is-ganghellor, Paul Boyle.

Nid yn unig y cafodd yr Athro Boyle gyfle i edrych yn agosach ar brosiectau trawsatlantig y mae staff a myfyrwyr yn rhan ohonynt ond hefyd i ddatblygu perthynas Abertawe â Phrifysgol Houston drwy ymrwymo i gytundeb newydd a fydd yn sicrhau cydweithio yn y dyfodol. 

600 x 264

Yr Athro Paul Boyle a'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams gyda myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr cyfnewid ym Mhrifysgol Houston.

Fel rhan o'r ymweliad, aeth grŵp o gynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe gyda Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, wrth iddi dderbyn croeso yng Ngholeg Meddygaeth Baylor a Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston yn ogystal â Phrifysgol Houston.  

Ymysg uchafbwyntiau'r daith oedd arddangosiad gan yr Athro Ian Pallister o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe o foledau efelychu arloesol y mae ef wedi'u datblygu i helpu i addysgu myfyrwyr i drin trawma. 

Ian Pallister Texas

Yr Athro Ian Pallister yn dangos y modelau efelychu arloesol y mae wedi'u datblygu i helpu i ddysgu myfyrwyr sut i drin trawma i’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

Yn ogystal, bu'r grŵp yn cwrdd â myfyrwyr o Abertawe sy'n dilyn rhaglen PhD gydweithredol yn Nhecsas ar hyn o bryd, gan dderbyn taith dywys o amgylch y cyfleusterau nanofeddygaeth a meddygaeth fanwl o'r radd flaenaf yng Nghanolfan Feddygol Tecsas a dysgu am waith cydweithredol ymchwil gydag Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, y Sefydliad Gwyddorau Bywyd a'r Coleg Peirianneg. ‌

Meddai'r Athro Boyle: "Mae ein partneriaethau yn Nhecsas yn ein galluogi ni i weithio gyda phrifysgol flaenllaw i ymgymryd ag ymchwil gwbl arloesol a chreu cyfleoedd sy'n newid bywydau i fyfyrwyr. 

"Gyda'i gilydd, mae ymchwilwyr yn helpu i fynd i'r afael â rhai o bryderon mwyaf pwysig y byd, megis canser a newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhaglenni astudio dramor yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ehangi eu golwg ar y byd a datblygu sgiliau newydd. 

"Mae gallu gweld y gwaith cydweithredol hynny  wedi dangos pam mae'r partneriaethau hyn mor bwysig a pham maent yn ffynnu." 

Memorandum Texas

Is-ganghellor Prifysgol Abertawe Paul Boyle yn arwyddo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Paula Myrick Short o Brifysgol Houston.

Yn ogystal, cafwyd cyhoeddiad o hwb cyllido pwysig yn ystod yr ymweliad gan y prosiect Erasmus + - rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg sy'n cefnogi myfyrwyr sy'n dymuno treulio amser dramor. 

Ychwanegodd yr Athro Boyle: “Ein nod yw i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe allu cyflawni cyfnod o astudio neu weithio dramor, os ydynt am wneud hynny. Rydym wrth ein boddau i dderbyn dyfarniad o swm sylweddol at ddibenion symudedd myfyrwyr mewn perthynas â Phrifysgol Houston ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21." 

Fodd bynnag, rhybuddiodd fod ansicrwydd ynghylch argaeledd y cyllid hwnnw os na cheir cytundeb ar gyfer Brexit, a fyddai'n cael effaith niweidiol ar fyfyrwyr ac ymchwilwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd. 

Esboniodd Dr Caroline Coleman-Davies, sy'n Bennaeth Partneriaethau Strategol Rhyngwladol, a oedd yn rhan o'r grŵp Gweinidogaethol, fod bron 250 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglenni astudio dramor ers 2013 rhwng Abertawe a Thecsas. 

Meddai: "Rwy'n clywed o lygad y ffynnon gan fyfyrwyr yr effaith y mae astudio dramor wedi'i chael arnynt, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac rwy'n falch iawn bod y Gweinidog a'r Is-ganghellor wedi gallu ymweld â Houston a gweld ein gwaith cydweithredol llwyddiannus." 

Wrth bwysleisio arwyddocâd y daith, meddai'r Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams: “Mae Llywodraeth Cymru bob amser yn chwilio am ffyrdd o hyrwyddo cysylltiadau addysgol ag UDA a chreodd yr ymweliad hwn gyfleoedd inni symud ymlaen mewn meysydd busnes allweddol yn y sector addysg uwch. 

“Drwy gynyddu partneriaethau rhyngwladol ein prifysgolion, gallwn ddenu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol yn ogystal ag annog mwy o fyfyrwyr o Gymru i dreulio amser yn astudio dramor, gwirfoddoli neu ymgymryd â phrofiad gwaith dramor." 

Anogodd unigolion i ymgeisio am y math o gyfleoedd a gynigir gan Gomisiwn Fullbright, sy'n cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr o Gymru i astudio yn yr UD a myfyrwyr Americanaidd i ddod i Gymru, yn ogystal â rhaglen Ysgoloriaeth Ryngwladol Benjamin A Gilman sy'n cynnig cyllid cyfyngedig i fyfyrwyr Americanaidd  astudio mewn prifysgolion yng Nghymru. 

“Roedd yr ymweliad diweddar yn gyfle inni ddatblygu'r llwyddiannau hyn yn ogystal â gwreiddio partneriaethau allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r rhai rhwng prifysgolion unigol yng Nghymru ac America," meddai.