Y Brifysgol yn dathlu ei bod yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus gydag amgueddfeydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei gwaith ar y cyd ag un o'i phartneriaid mwyaf gwerthfawr sef Amgueddfa Cymru.

Yn ddiweddar, mae'r sefydliadau wedi llofnodi cytundeb newydd, gan addo i weithio'n agosach fyth gyda'i gilydd yn y dyfodol ar brosiectau parhaus llwyddiannus megis Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.

MoU PairCroesawyd Prif Gyfarwyddwr Amgueddfeydd Cymru, David Anderson, i'r Brifysgol gan y Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Martin Stringer, i gadarnhau'r cytundeb. 

Prif Gyfarwyddwr Amgueddfa Cymru David Anderson (chwith) yn arwyddo'r cytundeb gyda'r Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Martin Stringer.

Mae Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru yn cynnwys saith amgueddfa ar draws Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Dyma brif leoliad yr Ŵyl Wyddoniaeth, sef un o brosiectau allgymorth pwysicaf y Brifysgol, ac mae'r amgueddfa'n rhan o grŵp llywio'r ŵyl. Mae hefyd yn cynnal Caffi Oriel Science, sef cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus rhad ac am ddim bob mis ar ystod eang o bynciau gwyddonol a gyflwynir gan siaradwyr gwadd.

Mae sioeau teithiol ymchwil llwyddiannus a gynhaliwyd yn y Brifysgol, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan wedi deillio o'r bartneriaeth, lle'r oedd ymchwilwyr o'r ddau sefydliad yn rhannu canfyddiadau ac yn datblygu cyfleoedd i gydweithio.

Mae'r digwyddiadau hyn wedi arwain at fwy na 60 o gydweithrediadau hyd yn hyn – mae rhai ohonynt wedi mynd ymlaen i ennill cyllid, gan gynnwys cymorth ar gyfer PhD ar y cyd ag Amgueddfa Caerdydd dan arweiniad yr Athro Richard Johnston o'r Coleg Peirianneg.

Dywedodd yr Athro Stringer, "Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a ddiweddarwyd yn adlewyrchu'r ffordd y mae ein partneriaeth wedi tyfu – ni allem fod wedi rhagweld cynifer o brosiectau cyffrous y byddem yn cydweithio arnynt yn y pendraw."

"Mae'r cytundeb newydd hwn yn nodi parhad ein perthynas gynhyrchiol yn ogystal ag yn cydnabod y cyfleoedd yr ydym yn gobeithio eu cael i adeiladu ar y llwyddiannau hynny."

Yn ôl pob tebyg bydd y rhain yn cynnwys gwaith cyffrous ar y cyd yn y dyfodol i greu arddangosfa bwrpasol i Richard Burton.

Ychwanegodd David Anderson, "Mae ein partneriaeth â'r Brifysgol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn parhau i ddatblygu.

"Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn fwy na chytundeb ar bapur. Mae'n dwyn ffrwyth. Rwy'n hyderus y bydd y ddwy flynedd nesaf yr un mor bwysig, gyda Phrifysgol Abertawe’n cyfrannu at arddangosfa Burton sydd ar y gweill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd."

600 x 473

Yn y llun (o'r chwith) wrth lofnodi gyda Mr Anderson a'r Athro Stringer, y mae'r Athro David Turner (Hanes a'r Clasuron); Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfeydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe; Rhian Melita Morris, Swyddog Effaith ac Ymgysylltu (Gwyddoniaeth); Yr Athro Geoff Proffit, Cyfarwyddwr yr Economi Wybodaeth a Dr Richard Bevins, Ceidwad y Gwyddorau Naturiol yn Amgueddfa Cymru