Sky a Phrifysgol Abertawe yn lansio Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw, mae Sky a Phrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi rhaglen Ysgoloriaeth Hillary Rodham Clinton, sef y rhaglen ysgoloriaeth fyd-eang gyntaf o’i bath.

Bydd yr ysgoloriaethau’n cefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â heriau byd-eang brys, gan gynnwys hawliau ac amddiffyn plant ar-lein, yr argyfwng hinsawdd a seiberddiogelwch.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis dros yr haf ac yn derbyn ysgoloriaeth ôl-raddedig lawn am flwyddyn i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddechrau yn yr hydref.

Wrth lansio Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, meddai’r Ysgrifennydd Clinton: “Rydw i wrth fy modd y bydd y bartneriaeth hon rhwng Sky ac Ysgol y Gyfraith Abertawe yn gallu cyflawni rhywbeth gwirioneddol unigryw, mewn modd sy’n cyd-fynd â’r angen brys i fynd i’r afael â’r heriau yr ydym yn eu hwynebu heddiw.  Mae'r rhaglen yn ddull modern a hyblyg sy'n cyfuno trylwyredd rhagoriaeth academaidd ag effaith ymarferol, go iawn. Bydd yr ysgolheigion hyn yn ymgorffori ein gwerthoedd cyffredin o gydweithio ar draws disgyblaethau a ffiniau daearyddol i wella amodau a chyfleoedd i bawb, ac yn enwedig i fenywod, plant, y rhai sydd wedi'u hymyleiddio a'r difreintiedig.”

HRC scholarship launch

Meddai Jeremy Darroch, Prif Weithredwr Sky: “Mae'n fraint i ni fod yn bartner cyntaf ar gyfer Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ac rydym yn hynod falch o gefnogi rhaglen sydd wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol gwell.

“Fel cymdeithas rydym yn wynebu nifer o heriau byd-eang ac fel busnes cyfrifol rydym yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio’n cyrhaeddiad a'n llais i wneud gwahaniaeth wrth fynd i'r afael â'r rhain, gan gael effaith yn y byd ehangach, a chan helpu eraill i wneud yr un peth. Edrychaf ymlaen at groesawu'r ysgolheigion i'r teulu Sky ac archwilio'r pethau da y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd.”

Meddai’r Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe: “Mae hon yn fenter hynod gyffrous ac rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio â Sky. Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn cefnogi’r broses o gyflwyno rhaglen drawsnewidiol a gobeithiwn y bydd ein myfyrwyr yn mynd i'r afael â'r materion mawr. Os ydym am fynd i'r afael â'r heriau hyn, megis yr argyfwng hinsawdd, diogelwch, diogelu plant ar-lein, ac anghydraddoldeb, mae angen syniadau ac arweinyddiaeth arloesol, ac ymrwymiad parhaus i gydweithredu a chydweithio rhyngwladol.

“Mae'r rhaglen hon yn manteisio ar yr arbenigedd ymchwil sylweddol o fewn Ysgol y Gyfraith er mwyn rhoi cyfle anhygoel i fyfyrwyr astudio meysydd heriau byd-eang, a datblygu’r sgiliau i ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol ac i weithio fel eiriolwyr effeithiol dros newid trawsnewidiol i'r gyfraith, polisi ac ymarfer.”

Gwnewch gais am Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton