Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae tîm bydwragedd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dyfarniad cenedlaethol blaenllaw o ganlyniad i ymroddiad hirsefydlog Sarah Norris i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fydwragedd.
Mae Sarah wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rhagoriaeth mewn Addysg Bydwreigiaeth yn nyfarniadau blynyddol y Coleg Bydwragedd Brenhinol eleni.
Mae Sarah, sy'n bennaeth Addysg Bydwreigiaeth ac yn Brif Fydwraig Addysg yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yn gyffrous ac wrth ei bodd ei bod hi ar y rhestr fer.
"Dyma gydnabyddiaeth ar gyfer y tîm bydwreigiaeth cyfan a'r myfyrwyr bydwreigiaeth yn Abertawe," dywedodd.
Mae Sarah, sydd wedi bod yn fydwraig am 25 mlynedd wedi bod yn rhan o'r byd addysg am y 15 mlynedd diwethaf.
Mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol am ansawdd y rhaglenni bydwreigiaeth ac am gefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau addysgu arloesol a chyffrous, gan gynnwys y rhai hynny a gynigir gan y Ganolfan Bydwreigiaeth a Magu Plant yn Academi Iechyd a Lles y Coleg.
Dywedodd: "Mae pob diwrnod yn her newydd. "Rwy'n ffodus iawn o weithio gyda thîm o fydwragedd ymroddedig ac angerddol, y mae rhoi gofal o'r safon uchaf i rieni a babanod o bwys iddynt, drwy gynnig rhaglen addysgu ardderchog i fyfyrwyr bydwreigiaeth.
"Mae'r cyfleoedd dysgu yn y Ganolfan Bydwreigiaeth a Magu Plant wedi bod o fudd mawr i'r myfyrwyr sydd wedi ennill profiad gwerthfawr mewn dosbarthiadau addysgu cyn geni a chefnogi rhieni newydd gyda bwydo ar y fron.”
Mae seremoni wobrwyo'r Coleg Bydwragedd Brenhinol,a fydd yn cael ei chynnal yn Llundain ym mis Mawrth, yn dathlu cyflawniadau rhagorol ym maes bydwreigiaeth ar draws y DU, a'r nod yw gwobrwyo'r rhai hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i fenywod, i deuluoedd a babanod newydd eu geni.
- Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019 15.50 GMT
- Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019 15.51 GMT
- Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792604290