Prifysgol Abertawe yn parhau i fod ar y brig yng Nghymru yn The Guardian University Guide 2020

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei safle fel prifysgol orau Cymru yng Nghanllaw Prifysgol Guardian eleni.

Mae'r tabl, a gyhoeddwyd heddiw (7 Mehefin) yn rhestru  Abertawe yn safle 31 - yr un safle ag y llynedd - allan o 121 o brifysgolion y DG trwy sgorio pob sefydliad ar ystod o agweddau, fel boddhad myfyrwyr, graddau gofynnol ymgeiswyr er mwyn cael lle, gwariant y brifysgol fesul myfyriwr, cymhareb staff/ myfyrwyr a rhagolygon gyrfa ar ôl graddio.

Students at the Bay Campus

Mae cyfran y myfyrwyr sy'n fodlon ar eu cwrs wedi cynyddu'n sylweddol, gydag Abertawe bellach yn 4ydd yn y DG o ran boddhad myfyrwyr, ac yn gydradd 5ed ochr yn ochr â Chaergrawnt ar gyfer rhagolygon graddedigion.

Mae safleoedd pwnc hefyd yn dod gyda thabl cynghrair cyffredinol The Guardian, yn dangos sut mae'r prifysgolion yn perfformio ar draws 54 o feysydd astudio.

Mae wyth o bynciau Prifysgol Abertawe ymhlith y 10 uchaf yn y DG:

• Meddygaeth

• Peirianneg: Cyffredinol

• Peirianneg: Deunyddiau

• Nyrsio a Bydwreigiaeth

• Ffiseg

• Polisi Cymdeithasol a Gweinyddu

• Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm

• Astudiaethau Americanaidd

Meddai Hilary Lappin-Scott, Uwch-ddirprwy Is-ganghellor: “Mae hwn yn gyflawniad gwych sy'n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad yr holl staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol. Yn ogystal â chyrraedd yr un safle ag y llynedd, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol mewn meysydd allweddol.

“Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn atgyfnerthu sefyllfa Abertawe fel prifysgol fyd-eang sy'n perfformio'n dda ac sy'n darparu addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf, a phrofiad myfyrwyr sydd heb ei ail. Nid unig yw Abertawe ar y brig yng Nghymru, ond mae ymhlith rhai o sefydliadau gorau’r DG am baratoi graddedigion sydd wedi’u harfogi â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y byd gwaith.”