Prifysgol Abertawe yn arwain adroddiad i Lywodraeth y DU sy'n amlygu'r potensial ar gyfer twf a arweinir gan arloesedd yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Crwsibl De Cymru, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi ei adroddiad Gwyddoniaeth ac Arloesedd i Lywodraeth y DU sy'n amlinellu sut y gall y consortiwm gymryd camau cadarnhaol a hirhoedlog i helpu i ddatgloi potensial y rhanbarth am dwf a arweinir gan arloesedd.

Mae'r consortiwm yn dod â phrifysgolion Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth, canolfannau rhagoriaeth ymchwil a chwmnïoedd byd-eang o bwys ynghyd, ac mae wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad, a gomisiynwyd gan yr Adran dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), yn cadarnhau bod gan dde Cymru alluoedd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â phortffolio cryf o asedau gwyddonol ac arloesi sy'n gystadleuol yn rhyngwladol ac sy'n datblygu arloesedd dur, gweithgynhyrchu clyfar, arloesedd ym maes iechyd a thechnoleg amaethyddiaeth a bwyd.

At hynny, mae'r broses Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesedd (SIA) wedi datblygu ac atgyfnerthu rhwydweithiau rhwng prifysgolion, sefydliadau ymchwil ac arloesi, busnesau a diwydiant.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates,

“Yng Nghymru, mae angen dealltwriaeth well arnom ni o sut y mae ymchwil ac arloesedd yn ysgogi cynhyrchiant a thwf er mwyn i ni allu cefnogi'r meysydd hynny sy'n cynnig y cyfle gorau i dyfu ein heconomi, creu swyddi a datblygu sgiliau.

“Rwyf yn ystyried yr archwiliad hwn fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth o asedau yng Nghymru, y gellir manteisio arnynt er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.

“Mae economi de Cymru yn dod yn fwyfwy soffistigedig ac mae'r Archwiliad hwn yn ddull defnyddiol o'n helpu i ddeall y sefyllfa bresennol a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn symud ymlaen. Rwyf yn croesawu'r Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd oherwydd ei fod yn ein helpu i ddeall economi Cymru ac yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.”

Meddai James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru,

“Mae'r cyfle a roddir i ni gan yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd (SIA) yn amserol iawn. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n cymryd camau ymlaen ar y cyd ac yn hyderus i greu datrysiadau a fydd yn gwella ein cymdeithas er budd pawb.

“Bydd y bartneriaeth Crwsibl De Cymru yn neilltuo ymdrech ac adnoddau i'n meysydd arbenigol o ragoriaeth ac unigrywedd lle gallwn arwain agendâu gwyddoniaeth ac arloesedd mewn modd hyderus a chadarn, er budd Cymru a'r DU yn ehangach."

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott OBE, Cadeirydd Grŵp Noddi Gweithredol Crwsibl De Cymru ac Uwch Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe,

"Mae prifysgolion sy'n aelodau craidd o'n consortiwm Crwsibl De Cymru a arweiniodd yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd (SIA), sef Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, yn cydnabod bod gennym rôl hanfodol wrth weithio ar y cyd â sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i drawsnewid cynhyrchiant ein rhanbarth. Mae'r adroddiad yn amlygu detholiad o'r gwaith ymchwil cydweithredol neilltuol sy'n cael ei gyflawni, a'r effaith gadarnhaol mae hyn yn ei chael ar lefelau lleol, cenedlaethol a ledled y DU.

"Wedi gweithio ar y cyd yn effeithiol dros flynyddoedd lawer, rydym yn rhannu gweledigaeth gyffredin o drawsnewid economi Cymru drwy wyddoniaeth ac arloesedd o'r radd flaenaf sy'n denu cyllid gan UKRI i gefnogi twf rhanbarthol yng Nghymru yr ydym ni oll yn angerddol iawn dros ei gyflawni."

Meddai'r Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, Chris Skidmore:

"Rydym yn arwain y ffordd yn fyd-eang mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddonol ac ymchwil, ac mae'r Archwiliadau Gwyddoniaeth ac Arloesi a gyhoeddir heddiw yn dangos bod y genedl gyfan yn cyfrannu at y llwyddiant hwnnw.

"O hybu ein cryfderau ym maes seiberddiogelwch yn Sir Gaerwrangon i wella cynaliadwyedd meysydd awyr dan arweiniad Prifysgol Brunel, mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar y cryfderau hyn, a rhai eraill yn ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern drwy'r cynnydd mwyaf mewn cyllid ar gyfer gwyddoniaeth mewn cenhedlaeth.”

600 x 359