Prifysgol Abertawe yn 10 uchaf y Deyrnas Gyfunol am foddhad myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal eu safle ymhlith 10 uchaf holl brifysgolion y Deyrnas Gyfunol am foddhad myfyrwyr yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl y ffigyrau, mae 88% o fyfyrwyr Abertawe yn fodlon â’u cwrs yn gyffredinol. Mae’r canlyniad yn gosod Abertawe yn y 10fed safle mewn rhestr o 132 o brifysgolion y DG a welir yn y Times Good University Guide 2018.

Mae'r NSS yn arolwg cynhwysfawr o farn myfyrwyr a gynhelir ar draws y Deyrnas Gyfunol yn annibynnol ac yn ddienw gan Ipsos-MORI. Gofynnir i fyfyrwyr am eu sylwadau mewn meysydd megis addysgu, asesu ac adborth, cymorth academaidd, y ffordd y mae eu cwrs wedi'i drefnu a'i reoli, adnoddau dysgu, datblygiad personol a'u Hundeb Myfyrwyr.

Student in the library

Roedd myfyrwyr o 442 o sefydliadau yn gymwys i fod yn rhan o’r arolwg. Cwblhaodd 2,949 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe’r arolwg, gan gynrychioli 79% o’r rheiny oll sy’n gymwys.

  • Ar lefel pynciau penodol, mae'r Brifysgol yn y 10 uchaf am foddhad cyffredinol mewn 15 o’r 45 o bynciau lle mae wedi'i chynrychioli.
  • Cyflawnwyd sgorau yn y 10 uchaf, yn benodol, gan: Astudiaethau Almaeneg (1af); Eifftoleg (1af); Ffiseg (2il); Meddygaeth (4ydd); Y Clasuron (5ed); Technoleg Deunyddiau a Mwynau (5ed); Astudiaethau'r Cyfryngau (6ed); Sŵoleg (6ed); Astudiaethau Iberaidd (7fed); Geneteg (7fed); Peirianneg Electronig a Thrydanol (8fed); Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd (8fed); Cyfrifiadureg (9fed); Peirianneg Fecanyddol, Gynhyrchu a Gweithgynhyrchu (9fed); Hyfforddiant Athrawon (9fed); Cymdeithaseg (10fed); Osteopatheg (10fed).

Meddai’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, felly rwy'n falch iawn o weld ein bod wedi cynnal ein lefelau uchel o foddhad myfyrwyr yn gyffredinol unwaith eto eleni.

“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n myfyrwyr, sy'n chwarae rhan allweddol yn ein gwelliant parhaus, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos ymdrechion y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o weld adran ‘llais myfyrwyr’ yr arolwg wedi gwella i 79%, sy’n ein yn ein gosod yn safle 12 yn y DG.

“Mae'r newyddion gwych hyn yn adeiladu ar ein llwyddiant diweddar yn y Guardian University Guide 2020, lle cawsom ein rhestru ar y brig yng Nghymru am yr ail flwyddyn, ac ar ennill teitl Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni.

“Mae'n amlwg bod Prifysgol Abertawe yn brifysgol fyd-eang sy'n perfformio'n dda ac sy'n darparu addysgu o'r radd flaenaf, ymchwil o safon fyd-eang, a phrofiad gwych i fyfyrwyr.”