Prifysgol Abertawe fydd y brifysgol gyntaf i gynnig modiwl Saesneg ar wobr lenyddol, gyda Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ym mis Chwefror 2019, Prifysgol Abertawe fydd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig modiwl Saesneg sy'n canolbwyntio ar wobr lenyddol yn unig, lle bydd myfyrwyr yn astudio'r gweithiau cyfoes ffuglennol, barddoniaeth, drama a straeon byrion ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe.

Ar y modiwl eleni, bydd y myfyrwyr yn astudio'r gweithiau ar restr hir 2018, gan gynnwys antholeg y bardd Prydeinig a anwyd yn Sambia, Kayo Chingonyi, Kumukanda; Conversations with Friends gan yr awdur Sally Rooney; casgliad o straeon byrion Carmen Maria Machado, Her Body and Other Parties; a llyfr cyntaf y nofelydd o Nigeria, Ayobami Adebayo, Stay with Me. Nid oes un ohonynt wedi cael eu hastudio fel rhan o radd llenyddiaeth mewn prifysgol ym Mhrydain o'r blaen.

Bydd y modiwl yn cynnwys mynediad at nifer o awduron a fu'n ymwneud â Gwobr 2018, y byddant yn mynychu tiwtorialau gyda'r myfyrwyr i drafod eu gwaith. Bydd aelodau o'r diwydiant cyhoeddi hefyd yn cynnal tiwtorialau ar bynciau yn amrywio o gyhoeddusrwydd a marchnata llyfr i logisteg a gwerthu mewn cyhoeddi i helpu myfyrwyr i archwilio sut y mae gwobrau llenyddol yn helpu i greu, hyrwyddo a dathlu ysgrifennu cyfoes.

Dylan Thomas Prize logoBydd y modiwl yn rhan o raglen DylanED Prifysgol Abertawe, y mae'n rhedeg mentrau creadigol lleol a rhyngwladol y'u nod yw annog a meithrin ysgrifennu creadigol o oedran ifanc. Mae prosiectau eleni'n cynnwys: gweithdai ysgrifennu i blant 8-11 oed yn Calcutta yn India, partneriaeth ag Achub y Plant Abertawe a chyfres o brosiectau ysgol a ariennir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies yng Nghwm Rhondda.

Meddai prif ddarlithydd y modiwl, Dr Nicholas Taylor-Collins: “Mae hwn yn fodiwl pwysig mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae'r modiwl Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn cynnig cyfle unigryw i ddarllen llenyddiaeth ardderchog a hynod gyfoes sy'n archwilio themâu megis rhywedd, hil a gwleidyddiaeth, gan hefyd archwilio sut mae gwobrau llenyddol yn helpu i greu, hyrwyddo a dathlu'r ysgrifennu. Yn ogystal ag interniaethau a chyfweliadau podlediad â'r awduron, bydd y myfyrwyr yn gallu datblygu eu hunain fel gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant cyhoeddi, yn ogystal â darllenwyr ysgrifennu newydd sbon. Nid oes unrhyw brifysgol arall a all integreiddio gwobr lenyddol i'w chyrsiau fel y gall Prifysgol Abertawe, ac rydym ni – myfi, fy nghydweithwyr a'n myfyrwyr – yn gwneud y mwyaf ohoni.”

Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas gwerth £30,000 Prifysgol Abertawe yw un o'r gwobrau mwyaf i awduron ifanc. Mae'n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol, ac mae ar flaen y gad yn rhoi llwyfan rhyngwladol i ysgrifennu newydd arbrofol, heriol a deinamig, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Fe'i henwyd ar ôl yr awdur o Abertawe, Dylan Thomas, ac mae'n dathlu 39 o flynyddoedd o greadigrwydd a chynhyrchedd ganddo.