Oriel Science yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer Dydd Sul Gwyddonol Gwych

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sul 10 Mawrth i gynnal "Dydd Sul Gwyddonol Gwych" yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Rhwng 11am a 4pm, bydd ymwelwyr o bob oedran yn gallu mwynhau dros 20 o arddangosion gwyddonol rhyngweithiol yn ystod y digwyddiad hwn sydd am ddim.

Eleni, caiff ymwelwyr gyfle i ddysgu sut mae pryfed yn helpu i ddatrys troseddau, mentro i fyd rhyfeddol algâu a chael taith o gwch ymchwil y Brifysgol, 'Noctiluca'.

Bydd gwesteion iau yn gallu ymweld â'r Ysbyty Tedi Bêrs a bydd efelychydd car rasio Prifysgol Abertawe ar gael i bawb brofi eu sgiliau ar y trac rhithwir. Hefyd, bydd y teulu cyfan yn gallu helpu i ddod o hyd i'r 10 gofodwr sydd ar goll yn orielau'r amgueddfa a'u helpu i gyflawni eu nod o gyrraedd y blaned Mawrth yn ein llwybr "Ar Goll yn y Gofod".

Dyma rai o uchafbwyntiau'r arddangosfa:

  • Byd Algâu;
  • Dod â’r bydysawd i’r Ddaear!
  • Taith dywys o gwch Prifysgol Abertawe, y 'Noctiluca a fydd wrth angor yn noc y marina.
  • Ydy newid yn yr hinsawdd yn gwneud ein cefnforoedd yn sâl?
  • Robotiaid: Sut maent yn adeiladu'r byd o'n cwmpas!
  • Datrys troseddau gyda phryfed;
  • Efelychydd Car Rasio Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe.
  • Ysbyty Tedi Bêrs

Cynhelir sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y dydd, gan gynnwys sgyrsiau cyhoeddus sy'n trafod cydraddoldeb rhwng y rhywiau dan arweiniad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Caiff ymwelwyr gyfle i gwrdd â menywod eithriadol y mae gwyddoniaeth wedi llywio eu bywydau a'u gyrfaoedd, mewn trafodaeth panel dan gadeiryddiaeth Suzy Davies AC.  Yn ymuno â hi ar y panel bydd Wendy Sadler MBE (cyfarwyddwr sefydlu Science Made Simple), yr Athro Yamni Nigam (Darlithydd Gwyddor Fiofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe a sefydlydd Grŵp Ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe), Dr Justna Muhith (PhD mewn Niwrowyddoniaeth) a'r Athro Mary Gagen (daearyddwr a gwyddonydd yr hinsawdd ym Mhrifysgol Abertawe).

600 x 450

Gallwch hefyd ymuno yn yr helfa am yr Higgs mewn sioe gomedi ryngweithiol iawn lle byddwch chi’n gyfrifol am y Gwrthdarwr Hadron Mawr, yng nghwmni Bachgen Drwg Gwyddoniaeth, Sam Gregson. Wedyn, byddwch yn archwilio rhinweddau hanfodol archarwr ac yn ymchwilio i'r wyddoniaeth go iawn sy'n helpu i achub y blaned gyda’r cyfathrebwr gwyddoniaeth, Neil Monteiro.

Meddai'r Athro Chris Alton, Cyfarwyddwr Oriel Science:

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal Dydd Sul Gwyddonol Gwych unwaith eto eleni. Daeth 2,000 o ymwelwyr i'r digwyddiad y llynedd i gael cipolwg ar ymchwil arloesol Prifysgol Abertawe ac mae'r digwyddiad eleni'n addo pethau gwell byth."

“Mae gwyddoniaeth i bawb, waeth beth yw'ch rhyw neu'ch cefndir. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a bydd nifer o sgyrsiau cyhoeddus yn trafod cydraddoldeb rhwng y rhywiau.  Rydym yn awyddus i ledaenu ein brwdfrydedd am wyddoniaeth i'n holl ymwelwyr ac i annog y genhedlaeth nesaf i ddewis pynciau gwyddonol yn eu haddysg er mwyn eu helpu i sicrhau gyrfaoedd gwobrwyol.

Ewch i https://museum.wales/Swansea/whatson/ am ragor o fanylion am Ddydd Sul Gwyddonol Gwych, y sgyrsiau a'r gweithdai a nodir uchod, a sut i gadw lle.

Am ragor o wybodaeth am Oriel Science, ewch i: http://orielscience.co.uk/

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ewch i: https://museum.wales/swansea/

Oriel Science