Nofelau cyntaf a lleisiau amrywiol yn ennill lle blaenllaw yn y wobr fwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Eleni, mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn dathlu ei rhestr fer fwyaf amrywiol erioed.

Mae awduron newydd ar y rhestr, gan gynnwys yr awdur Americanaidd-Ghanaidd, Nana Kwame Adjei-Brenyah; y Prydeiniwr Sri-Lancaidd, Guy Gunaratne; a Novuyo Rosa Tshuma, a anwyd yn Simbabwe, yn  cael eu dewis am eu gweithiau heriol sy’n mynd i’r afael â hil, mewnfudo a hanes ôl-wladychol. Yn ymuno â nhw ar y rhestr mae Louisa Hall, â’i nofel caleidosgopaidd am Robert Oppenheimer, tad y bom atomig; Zoe Gilbert, a’i hanes gwerin syfrdanol am bentref ffuglennol Neverness; a gwerthwr gorau diweddaraf Sarah Perry, Melmoth.

Yn dilyn ystyriaeth fanwl, dewiswyd y rhestr fer gan banel wedi’i gadeirio gan yr Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe; gyda’r Athro Kurt Heinzelman; golygydd llyfrau’r BBC, Di Spiers; a’r nofelydd arobryn, Kit de Waal.

Meddai’r Athro Dai Smith am y rhestr fer: “Unwaith eto, mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wedi darganfod toreth o ddoniau newydd, yn cynrychioli grŵp o leisiau cyfoes ac amrywiol o bedwar ban byd. Maent wedi cysylltu drwy angerdd am werthfawrogiad unigol yn erbyn cefnlen hanes; weithiau’n dreisgar, bob amser yn newid bywydau. Does dim amheuaeth y bydd y chwe awdur hyn yn mynd ymlaen i sicrhau y caiff eu lleisiau nodweddiadol eu clywed, gan gyfrannu at y canon tragwyddol o lenyddiaeth sy’n swyno, yn herio ac yn pryfocio.”

Dylan Thomas Prize shortlist 2019

Mae’r chwe llyfr ar y rhestr fer yn cynnwys pum nofel ac un casgliad o straeon byrion.

  • Yn awdur Americanaidd-Ghanaidd, Nana Kwame Adjei-Brenyah (27 oed), am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, Friday Black (Houghton Mifflin Harcourt (UDA)) a Riverrun (y Deyrnas Gyfunol), sy’n archwilio sut beth yw tyfu i fyny yn ddyn du yn Unol Daliaethau America - ac mae ei arddull pwerus wedi’i gymharu â George Saunders.
  • Zoe Gilbert (39 oed) am ein nofel gyntaf, Folk (Bloomsbury Publishing), a ddatblygodd o’i ddiddordeb mewn llên gwerin hynafol ac atgyfodiad ysgrifennu natur. Enillodd wobr Costa Short Story Award yn 2014.
  • In Our Mad and Furious City (Tinder Press, Headline) nofel gyntaf yr awdur Prydeinig Sri-Lancaiss, Guy Gunaratne (34 oed). Cyhoeddodd restr hir The Man Booker Prize a rhestr fer The Goldsmiths Prize, The Gordon Burn Prize a’r Writers Guild Award.
  • Louisa Hall (36 oed) am ei thrydedd nofel Trinity (Ecco), sy’n mynd i’r afael â bywyd cymhleth Tad y Bom Atomig J. Robert Oppenheimer, dwy saith cymeriad ffuglennol.
  • Mae Sarah Perry (39 oed) wedi cyrraedd y rhestr fer am yr ail dro, y tro hwn am Melmoth (Serpent’s Tail), un o lyfrau ffuglen orau 2018 The Observer, yn gampwaith cymhlethdod moesol sy’n gofyn cwestiynau dwfn i ni am drugaredd, gwaredigaeth a sut i wneud y gorau o’n byd gwrthdrawiadol.
  • Nofel gyntaf yr awdur Simbabweaidd, Novuyo Rosa Tshuma (30 oed) â’i stori hynod ddyfeisgar o hiwmor tywyll, House of Stone (Atlantic Books), sy’n datgleu marwolaeth wallgof a godidog Rhodesia a genedigaeth waedlyd Simbabwe fodern.

Datgelir yr enillydd ar ddydd Iau 16 Mai yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, yn fuan ar ôl Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai.