Menywod a llyfrau cyntaf yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2019

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni yn dathlu llwyth o lyfrau cyntaf awduron, gan gynnwys wyth awdures ddeinamig a phedwar awdur newydd sydd wedi ennill canmoliaeth beirniaid.

Mae enillydd Gwobr Nofel Costa, Sally Rooney; cyn-nyrs a drodd at nofelau, Emma Glass; Guy Gunaratne, awdur sydd wedi ennill canmoliaeth beirniaid a chyrraedd Rhestr Hir Gwobr Man Booker â'i nofel gyntaf; a'r awdur straeon byrion ar ei gynnydd, Nana Kwame Adjei-Brenyah, ymhlith y deuddeg awdur ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas £30,000 Prifysgol Abertawe.

Dewiswyd y rhestr hir o ddeuddeg o weithiau gan banel beirniadu a gadeirir gan yr Athro Dai Smith CBE, gyda'r Athro Kurt Heinzelman, y darlledwr ar y BBC Di Speirs a'r nofelydd arobryn Kit de Waal.

Wedi'i chydnabod am ddathlu lleisiau ifanc arbrofol a heriol, mae rhestr hir eleni'n herio'r byd fwy nag erioed drwy ymdrin â phynciau anodd, gan gynnwys trais domestig, iechyd meddwl, trais rhywiol, hiliaeth, rhywedd a hunaniaeth.

Mae wyth nofel, dau gasgliad o straeon byr a dau gasgliad o gerddi ar y rhestr hir eleni:

  • Nana Kwame Adjei-Brenyah, Friday Black (Houghton Mifflin Harcourt (UDA) a Riverrun (y Deyrnas Gyfunol)
  • Michael Donkor, Hold (4th Estate)
  • Clare Fisher, How the Light Gets In (Gwasg Influx)
  • Zoe Gilbert, Folk (Cyhoeddwyr Bloomsbury)
  • Emma Glass, Peach (Cyhoeddwyr Bloomsbury)
  • Guy Gunaratne, In Our Mad and Furious City (Gwasg Tinder, Headline)
  • Louisa Hall, Trinity (Ecco)
  • Sarah Perry, Melmoth (Serpent’s Tail)
  • Sally Rooney, Normal People (Faber & Faber)
  • Richard Scott, Soho (Faber & Faber)
  • Novuyo Rosa Tshuma, House of Stone (Llyfrau Atlantic)
  • Jenny Xie, Eye Level (Gwasg Graywolf)

The Swansea University International Dylan Thomas Prize longlistDyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Fe'i henwyd ar ôl yr awdur o Abertawe, Dylan Thomas, ac mae'n dathlu 39 o flynyddoedd o greadigrwydd a chynhyrchedd ganddo.

 Ac yntau'n un o awduron mwyaf dylanwadol ac o fri rhyngwladol canol yr ugeinfed ganrif, mae'r Wobr yn ei gofio ac yn cefnogi ac yn meithrin doniau awduron heddiw ac yfory.

Dechreuodd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2006, a hi yw'r wobr lenyddol fwyaf yn y byd i awduron ifanc. Yn 2018, Prifysgol Abertawe fydd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig modiwl Saesneg sy'n canolbwyntio ar wobr lenyddol yn unig, lle bydd myfyrwyr yn astudio'r gweithiau ar restr hir y Wobr.

Cadeirydd y panel beirniadu yw'r Athro Dai Smith CBE, Cadeirydd Ymchwil Raymond Williams Emeritws Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, a hanesydd ac awdur ar gelfyddydau a diwylliant Cymru. Mae'r panel eleni hefyd yn cynnwys: y bardd, cyfieithydd ac ysgolhaig, yr Athro Kurt Heinzelman; golygydd llyfrau ar radio BBC, Di Spiers; a'r awdur arobryn ac un o aelodau sylfaenol Grŵp Awduron Leather Lane a Naratif Rhydychen, Kit de Waal.

Wrth siarad am restr hir 2019, meddai'r Athro Dai Smith o Brifysgol Abertawe, Cadeirydd y panel beirniadu: "Mae'r rhestr hir o ddeuddeg o weithiau ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2019 yn ffrwydrad o ddoniau llenyddol ifanc. Mae awduron o ledled y byd, o gymunedau a chefndiroedd amrywiol, yn ymdrin â phynciau mewn ffyrdd annisgwyl a bywiocaol, drwy straeon byrion, nofelau a barddoniaeth, ar ffurf chwedlau gwerin neu gotheg, gyda fflaim gyfoes neu ffenestr hanesyddol. Mae'r rhestr yn wledd! Ac, o'r rhestr fer yn y gwanwyn, bydd y panel beirniadu nodedig yn dewis enillydd wrth i'r haf ddechrau fis Mai."

Cyhoeddir y rhestr fer o chwe llyfr ddiwedd mis Ebrill.

Datgelir yr enillydd ar ddydd Iau, 16 Mai yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, yn fuan ar ôl Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai. 

Y llynedd, enillodd y bardd Prydeinig a anwyd yn Sambia, Kayo Chingonyi, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe am ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Kumukanda, gwaith mentrus yn archwilio gwrywdod du a defodau newid byd dynion du ifanc ym Mhrydain heddiw.

Dywedodd Kayo Chingonyi am ei fuddugoliaeth: “Rwy'n syfrdan. Mae'n hyfryd ennill gwobr yn enw Dylan Thomas. Ces i'm cyflwyno i'w waith gan athro ysbrydoledig o'r enw Rachel Baroni, a gyflwynodd fi i Under Milk Wood, ac mae ei waith wedi'm cyfareddu byth ers hynny."