Llyfr newydd yn archwilio pymtheg canrif o lenyddiaeth yng Nghymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n ymddangos yng Ngŵyl y Gelli'r wythnos hon i lansio llyfr hanes newydd am Lenyddiaeth Cymru sy'n archwilio pymtheg canrif o greu llenyddiaeth, o Brydain ôl-Rufeinig i Gymru wedi datganoli.

The Cambridge History of Welsh Literature

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Geraint Evans, sy'n uwch-ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi golygu The Cambridge History of Welsh Literature gyda'r Athro Helen Fulton o Brifysgol Bryste. Mae'r llyfr yn rhan o gyfres fawreddog o lyfrau hanes cenedlaethol gan Wasg Prifysgol Caergrawnt a chaiff ei gyhoeddi'n swyddogol ddydd Gwener 24 Mai.

Ysgrifennwyd y llyfr gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes ac mae'n cynnig y gyfrol gynhwysfawr unigol gyntaf o hanes Llenyddiaeth Cymru a Llenyddiaeth Saesneg Cymru yn erbyn cefndir o ddigwyddiadau hanesyddol a gwleidyddol allweddol ym Mhrydain.

Llenyddiaeth Cymru yw un o'r traddodiadau llenyddol parhaus hynaf yn Ewrop - a hefyd mae'n un o'r traddodiadau mwyaf diddorol! Mae'r llyfr yn edrych ar y farddoniaeth Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi, a luniwyd ar faes y gad yn y Gymru ôl-Rufeinig a 'Hen Ogledd' Prydain, ac mae beirdd Cymraeg heddiw yn dal i ysgrifennu yn yr un traddodiad barddol.

Mae'n dilyn llenyddiaeth Gymraeg trwy'r cyfnod modern ac yn archwilio sut roedd mwy o ysgrifenwyr o Gymru ar ddechrau'r ugeinfed ganrif yn ysgrifennu yn Saesneg nag ysgrifenwyr Cymraeg am y tro cyntaf. Cynhyrchodd hyn ffyrdd newydd o ysgrifennu ac argyfwng o ran hunaniaeth genedlaethol a ddechreuodd gywiro ei hun ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif gyda’r datganoli gwleidyddol yng Nghymru.

Meddai Geraint Evans, sydd hefyd yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) yn y Brifysgol: "Mae nifer o academyddion Abertawe wedi cyfrannu penodau at y llyfr, gan gynnwys Tudur Hallam a Robert Rhys (Adran y Gymraeg), Geraint Evans ac M. Wynn Thomas (Adran Saesneg / CREW) a Kevin Williams (Adran Hanes).

"Mae nifer y cyfranwyr i'r prosiect hwn sydd â chysylltiadau â Phrifysgol Abertawe’n adlewyrchu cryfder Abertawe yn y maes hwn a'r newid arfaethedig i'r cwricwlwm llenyddiaeth uwchradd yng Nghymru, i gynnwys awduron o Gymru a Llenyddiaeth Saesneg Cymru, yn enghraifft ragorol o effaith Abertawe a CREW ar astudiaethau llenyddol yng Nghymru."

Bydd Geraint Evans a Helen Fulton yn trafod The Cambridge History of Welsh Literature â Gillian Clarke a Jon Gower yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai.