Hyfforddwr o Brifysgol Abertawe i arwain Tîm Nofio PF yn Ngemau'r Haf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Hayley Baker o Brifysgol Abertawe'n hyfforddi tîm nofio Prydain Fawr yng Ngemau Haf Prifysgolion y Byd eleni yn Naples.

Dewiswyd y fenyw 39 oed o blith nifer o hyfforddwyr dawnus mewn prifysgolion ledled Prydain am y digwyddiad hwn a gynhelir rhwng 3 a 14 Gorffennaf.

A hithau'n wreiddiol o ogledd-orllewin Lloegr, daeth Baker i Abertawe yn 2007 ar ôl cyfnod fel prif hyfforddwr Bolton Metro i ddechrau swydd hyfforddwr yn Swansea Aquatics cyn ei phenodi'n brif hyfforddwr rhaglen nofio Prifysgol Abertawe'r llynedd.

Mae Baker wedi cynrychioli Prydain Fawr yn y pwll a bu'n llwyddiannus iawn cyn dechrau ei gyrfa hyfforddi ym 1995.

Yn ystod ei chyfnod gyda Bolton Metro, helpodd i oruchwylio datblygiad Rob Bale, a aeth ymlaen i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.  Hefyd, helpodd i hyfforddi Lewis Fraser, a enillodd y rasys dull broga 100m a 200m ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol ASA, yn ogystal â chael ei ddewis am Gemau Iau Ewrop a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad.

"Mae'n anrhydedd fawr cael fy newis i gynrychioli Prifysgol Abertawe a hefyd holl brifysgolion Prydain mewn cystadleuaeth ar lefel mor uchel," meddai Baker.

"Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm cyffrous a siarad â hyfforddwyr eraill o brifysgolion ledled y byd."

Mae Gemau Haf Prifysgolion y Byd - sy'n cael eu hadnabod fel The Universiade - yn ddigwyddiad aml-gamp rhyngwladol a drefnir ar gyfer athletwyr prifysgolion gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgolion Rhyngwladol (FISU).

Mae'r digwyddiad, a gynhelir bob dwy flynedd, yn denu 10,000 o gystadleuwyr o dros 150 o wledydd a hwn yw'r digwyddiad aml-gamp mwyaf yn y byd ar wahân i'r Gemau Olympaidd.

600 x 400