Gradd Peirianneg Gemegol ddeuol newydd yn cynnig byd llawn cyfle i fyfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar ddysgu ar ddwy ochr yr Iwerydd wrth i bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Abertawe a chydweithwyr ym Mhrifysgol Trent, Canada, gael ei hymestyn.

Mae’r cydweithrediad diweddaraf rhwng y ddau sefydliad yn dilyn gradd ddeuol yn y Gyfraith – a fydd yn croesawu ei charfan gyntaf o fyfyrwyr ym mis Medi – ac a fydd yn agor cyfleoedd ym meysydd Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 

600 x 359

Bydd myfyrwyr yn treulio dwy flynedd o’u gradd gyntaf ym Mhrifysgol Ontario cyn dod i Gymru i astudio Peirianneg Gemegol ac yna byddant yn mynd ymlaen i raddio gyda gradd BSc o Trent a gradd BEng o Brifysgol Abertawe . 

Esboniodd arweinydd academaidd y Prosiect ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Chris Arnold, o’r Coleg Peirianneg, fod y cytundeb gradd ddeuol yn cynnig cyfleoedd cyffrous i fyfyrwyr.  

Meddai: “Hyd y gwyddwn, mae’r radd hon yn unigryw.  Nod y rhaglen hon yw creu peirianwyr cymwys sydd hefyd yn wyddonwyr gyda phrofiad rhyngwladol.  

“Yn ogystal â theithio, byw ac astudio am gyfnod sylweddol mewn gwlad arall, caiff y myfyrwyr gyfle i fwynhau lleoliadau gwaith a fydd yn cyfrannu at statws peiriannydd proffesiynol yng Nghanada.” 

Meddai’r Athro Arnold fod y BEng o Abertawe wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol ac y byddai hynny’n berthnasol i fyfyrwyr sy’n graddio o’r cynllun. 

Ychwanegodd: “Mae ein cydweithwyr ym Mhrifysgol Trent bellach yn awyddus i recriwtio 20 o fyfyrwyr a gwelwyd cryn ddiddordeb yn y cwrs eisoes.”

 A hithau wedi’i rhestru ymhlith y 3.4 y cant o brifysgolion gorau yn y byd, mae gan Brifysgol Trent 8,000 o fyfyrwyr ar hyn o bryd ac mae yn y safle uchaf yng Nghanada ar gyfer bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.  

Meddai Dr Leo Groarke, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Trent: “Mae’n gyffrous ein bod wrthi’n adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda Phrifysgol Abertawe ac rydym yn gweithio ar y cyd i greu cyfleoedd sy’n galluogi myfyrwyr â diddordeb mewn peirianneg i wneud gradd ddeuol wrth gyfoethogi eu haddysg gyda phrofiad byd-eang. 

“Mae’r rhaglen arloesol newydd hon yn enghraifft arall sy’n dangos ymrwymiad Trent i ddarparu profiadau addysgol arwyddocaol ac ystyrlon i fyfyrwyr. Mae’r profiadau hyn yn mynd y tu hwnt i brofiadau arferol ac yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant.”  

Sefydlwyd y cysylltiad rhwng y Brifysgol yng Nghanada ac Abertawe am y tro cyntaf ym 1988 gan yr Ysgol Fusnes fel cysylltiad ar gyfer cynlluniau cyfnewid myfyrwyr ac ers 2009 mae 12 o fyfyrwyr wedi manteisio ar y rhaglen gyfnewid.

Yn 2016 ehangodd Ysgol y Gyfraith Abertawe'r berthynas drwy ymuno â Phrifysgol Trent i gynnig gradd ddeuol BA/BBA LLB a chroesewir y garfan gyntaf o oddeutu 22 o fyfyrwyr i Abertawe ym mis Medi.  

Mae’r cydweithrediad â Phrifysgol Trent yn un o sawl cydweithrediad a sefydlwyd gan y Brifysgol gyda sefydliadau academaidd a busnesau ledled y byd. 

Meddai Bernadette Stratford, o’r Gyfarwyddiaeth Partneriaethau Academaidd sy’n goruchwylio’r perthnasoedd: “Ein nod yw dod â sefydliadau ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol, cydweithrediadau a phartneriaethau strategol gyda phrifysgolion o safon fyd-eang er budd ein myfyrwyr.”