Ffowndri Gyfrifiadurol newydd ei hagor i bweru'r economi ddigidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn agor drysau'r Ffowndri Gyfrifiadurol ar Gampws y Bae yn swyddogol heddiw (Dydd Llun 4 Chwefror).

Computational Foundry, Bay Campus

Mae'r cyfleuster newydd yn argoeli i fod yn ganolbwynt ar gyfer meddwl yn gyfrifiadurol ac yn fathemategol. Bydd yn tynnu ymchwilwyr a chydweithredwyr dawnus ynghyd â'r diwydiant a defnyddwyr ymchwil i greu incwm ymchwil sylweddol, ac yn helpu i greu swyddi a chyfleoedd economaidd yn y rhanbarth.

Gweledigaeth y Brifysgol yw meithrin a thyfu cymuned ymroddedig o wyddonwyr cyfrifiadurol a mathemategol sy'n cynnal ymchwil drawsffurfiol ac sy'n credu bod gwyddor gyfrifiadurol well yn hanfodol wrth adeiladu byd blaengar: yn gymdeithasol, yn economaidd, yn ddiwylliannol, yn athronyddol ac yn ddeallusol.

Bydd y Ffowndri, a gefnogir gan £17m o'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ysgogi ymchwil wyddonol gyfrifiadurol a mathemategol, i helpu i wneud Cymru'n gyrchfan byd-eang i wyddonwyr cyfrifiadurol.

Bydd y Ffowndri hefyd yn ceisio cysylltu ymchwilwyr â phartneriaid cydweithredol i ddatblygu a phrofi syniadau, i lunio cynigion ymchwil ar raddfa fawr a ariennir gan gyllidwyr preifat a chyhoeddus. Wrth i ganlyniadau godi o brosiectau o'r fath, caiff y gwaith ymchwil ei droi'n effaith ar y gymdeithas a'r economi.

I ddechrau, dyma'r tair thema ymchwil graidd:-

  • Sicrhau bywyd sy'n edrych ar seiberddiogelwch
  • Cynnal bywyd sy'n archwilio technolegau iechyd
  • Gwella bywyd sy'n edrych ar gyffredinrwydd cynyddol y maes digidol mewn bywyd bob dydd

Computational Foundry atrium

Fodd bynnag, bydd dull y Ffowndri'n hyblyg wrth iddi ymateb i anghenion y diwydiant a blaenoriaethau ymchwil a ddaw ar draws y maes gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Dywedodd yr Athro Alan Dix, Cyfarwyddwr y Ffowndri Gyfrifiadurol:"Ein huchelgais yw y bydd y Ffowndri'n rhywle y gall partneriaid yn y diwydiant weithio gyda'r Brifysgol i roi syniadau newydd ar brawf, yn rhywle y gall pobl o bob disgyblaeth gysylltu â’i gilydd a gwneud gwaith ymchwil, ac yn rhywle y mae arloeswyr digidol y dyfodol yn cwblhau eu hastudiaethau.

"Bydd yn trawsnewid yr economi ddigidol ranbarthol a chenedlaethol, ac yn denu buddsoddiad, diwydiant, swyddi a chyfleoedd i'r rhanbarth.

"Diben y Ffowndri yw adeiladu cymuned – pobl a lle – fel bod modd i ecosystem sy'n cynnwys myfyrwyr, ymchwilwyr a diwydiant ffynnu i fod o fudd i'r gymdeithas gyfan."

Bydd yr adeilad newydd yn cynnig cyfleusterau modern o'r radd flaenaf ar gyfer cymuned wyddonol gyfrifiadurol – a staff o adrannau Cyfrifiadureg a Mathemateg sy'n ffurfio ei dîm craidd.

Mae'r cyfleusterau yn y Ffowndri Gyfrifiadurol yn cynnwys:

  • Man addysgu ar gyfer cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ym maes Cyfrifiadureg a Mathemateg
  • Labordai pwrpasol sydd wedi'u creu i gefnogi ymchwil ac arloesedd
  • Mannau a rennir ar gyfer gwaith ar y cyd rhwng partneriaid yn y diwydiant, ymchwil a myfyrwyr

Dywedodd yr Athro Dix: "Mae'r Ffowndri Gyfrifiadurol yn gyfle go iawn i bawb o unrhyw un cefndir sydd eisiau newid y byd. Rydym eisiau cynnig cymaint o safbwyntiau ag sy'n bosibl yn yr hyn rydym yn ei wneud - nid technolegwyr neu wyddonwyr cyfrifiadurol yn unig, ond pobl o'r celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol, ac yn bwysicach, pobl o'n cymuned oherwydd ein bod ni'n adeiladu dyfodol sy'n cynnwys pawb ac sydd ar gyfer pawb."