Dell EMC a Circle IT i noddi Prifysgol Abertawe yn Varsity Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dell EMC a Circle IT fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru eleni.

Bydd y ddau noddwr ar grysau rygbi'r dynion a'r menywod ar gyfer eu gemau yn erbyn Prifysgol Caerdydd.

Bydd eu nawdd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr yn cyflwyno crysau'r Varsity i sgwadiau'r dynion a'r menywod cyn y prif ddigwyddiad, yn ogystal â hysbysebu ar sgriniau digidol ar y ddau gampws.

Mae Varsity Cymru yn ŵyl chwaraeon wythnos o hyd sy'n gweld myfyrwyr yn cystadlu mewn dros deugain o gampau, gan gynnwys nofio, golff, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci a chleddyfaeth.

Cynhelir y mwyafrif o'r digwyddiadau yng nghyfleusterau Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia ar ddydd Mercher 10 Ebrill, a'r uchafbwynt fydd gêm rygbi'r dynion yn Stadiwm Principality y noson honno.

Caiff gêm rygbi'r dynion ei darlledu'n fyw ar S4C, gyda'r gic gyntaf am 7:05pm, ac ar-lein ar S4C Clic, Rygbi Pawb Facebook Live a sianel YouTube S4C; a chaiff gêm rygbi'r menywod ei darlledu'n fyw ar S4C Clic, Rygbi Pawb Facebook Live a sianel YouTube S4C am 4:30pm.

200 x 36

 

 

200 x 89

 

Mae Dell EMC, sy'n rhan o Dell Technologies, yn galluogi sefydliadau i foderneiddio, awtomeiddio a thrawsffurfio eu canolfan data gan ddefnyddio isadeiledd, serfwyr, storio a datrysiadau diogelu data cydgyfeiriol sy'n arwain y ffordd yn y diwydiant.

Circle IT yw arbenigwyr technoleg y Deyrnas Gyfunol ym maes addysg, ac mae'n ddarparwr cymorth a datrysiadau TG i sefydliadau corfforaethol a sector cyhoeddus ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Mae Dell EMC hefyd yn cynnig gostyngiadau i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar gynnyrch Dell. 

Yn ogystal â Dell EMC a Circle IT, bydd gan Brifysgol Abertawe hefyd noddwyr partner, sef Icon Creative Design a Westdale, a bydd eu logos ar grysau timau lacrós y dynion a'r menywod.

Dywedodd Claire Vyvyan, Uwch Is-lywydd Dell EMC:

"Fel cyn-chwaraewr a chefnogwr, rwy'n hynod falch bod Dell Technologies wedi cael y cyfle i gefnogi rygbi Varsity Cymru 2019.

"Heb unrhyw amheuaeth, rygbi yw'r chwaraeon sy'n dibynnu fwyaf ar weithio fel tîm, ymrwymiad, angerdd ac arweinyddiaeth, ac mae Dell yn falch ein bod yn gallu buddsoddi mewn helpu pobl ifanc ym Mhrifysgol Abertawe i feithrin y sgiliau hyn, a fydd yn werthfawr iddynt drwy gydol eu bywyd.

"Mae Dell Technologies hefyd yn ymrwymedig i fuddsoddi yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at wneud cyhoeddiadau cyffrous yn y misoedd i ddod."

Dywedodd Roger Harry, Prif Swyddog Gweithredol Circle IT:

"Rydym yn falch o fod yn brif noddwyr Prifysgol Abertawe yn Varsity Cymru. Mae'r cytundeb noddi yn dangos ein hymrwymiad i gysylltu â chymuned de Cymru a'n hymrwymiad i roi profiad, cyfarpar a sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddynt lwyddo."

Meddai Delyth Thomas, Rheolwr Digwyddiadau Corfforaethol ac Ymgysylltu Prifysgol Abertawe:

"Mae Varsity Cymru wedi tyfu'n ddigwyddiad y mae pawb yn edrych ymlaen ato yng nghalendr y Brifysgol, yn uchafbwynt i'r athletwyr a'r cefnogwyr fel ei gilydd. Mae'n amser gwych o'r flwyddyn i'r myfyrwyr, am eu bod yn treulio diwrnod llawn digwydd yn dathlu eu balchder yn eu prifysgol.

"Rydym yn hynod falch o gael cefnogaeth Dell EMC a Circle IT, a fydd yn helpu i sicrhau bod Varsity Cymru eleni'n achlysur gwirioneddol gofiadwy i bawb a fydd yn rhan ohono."

600 x 251