Datgelu byd hynafol drwy brosiect ffilm yn y Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Adran Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg Prifysgol Abertawe wedi lansio menter newydd a fydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gydweithio ag aelodau'r gymuned leol a gwneuthurwyr ffilm proffesiynol i greu cyfres o ffilmiau byr ar yr henfyd.

Dangoswyd y ffilmiau yn Theatr Taliesin ar Gampws Singleton nos Lun, 13 Mai.

Nod y prosiect newydd hwn o'r enw Yr Henfyd mewn Ffilm, a ariennir drwy grant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), fydd cyflwyno ymchwil academyddion yr adran i gynulleidfaoedd newydd.

Bydd tîm o fyfyrwyr, gwneuthurwyr ffilm a'r gymuned leol yn cynhyrchu ffilmiau byr sy'n archwilio amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys yr Hen Aifft, Alecsander Fawr, Pompeii a Darnau Arian.

Bydd y ffilmiau hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r materion mawr, arwyddocaol sy'n ysgogi ymchwil staff academaidd yr adran, megis sut y gallwn ni ddefnyddio offer gwyddonol modern i ddeall gwrthrychau hynafol.

Bydd y bartneriaeth hon yn galluogi myfyrwyr i feithrin perthynas agos â staff a datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys rheoli cyllideb fawr a datblygu perthnasoedd proffesiynol ag amrywiaeth o unigolion a sefydliadau.

Meddai Dr Stephen Harrison, cyd-arweinydd y prosiect:

“Yn rhy aml, gofynnir i haneswyr adrodd stori'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld sut mae'n myfyrwyr yn gweithio gyda'r gwneuthurwyr ffilm i ddod o hyd i ffyrdd arloesol i fynd y tu hwnt i hyn ac ystyried syniadau a phroblemau yn hytrach na ffeithiau.”

Meddai Emily Williams, myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf a gwneuthurwraig ffilmiau frwd:

"Bydd y prosiect yn fy ngalluogi i wireddu breuddwyd gydol oes o greu rhaglen ddogfennol fer arloesol sy'n ysgogi meddwl a fydd yn addysgu ac yn cyfareddu meddyliau pobl ifanc a'u hannog i ddilyn gyrfaoedd a diddordebau sy'n berthnasol i'r henfyd."

600 x 338