Cyrsiau iaith Saesneg am ddim ym Mhrifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig gwersi am ddim i helpu pobl i wella eu sgiliau iaith Saesneg.

Mae'r dosbarthiadau a gynhelir ddwywaith yr wythnos ac a gynhelir gan Wasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg y Brifysgol, yn dechrau ddydd Mercher, 6 Chwefror tan ddydd Gwener 12 Ebrill.  

Cânt eu cynnal yn Adeilad Keir Hardie ar Gampws Parc Singleton o 1pm tan 3pm. 

Mae’r cyrsiau ar gyfer oedolion nad ydynt yn siaradwr brodorol, a bydd y cwrs iaith Saesneg gyffredinol yn eu helpu i gyfathrebu'n fwy effeithiol ac mae'n cynnwys gwaith ar siarad, gwrando, darllen, gramadeg ac ynganu. 

Mae'r Brifysgol yn ymrwymo'n gryf i'r gymuned leol, a gobeithir y bydd y cyfle hwn yn ehangu ei chysylltiadau â’r bobl sy'n byw yn lleol. 

Ni chodir tâl am y gwersi oherwydd cânt eu haddysgu gan athrawon ar y Cwrs CELTA Caergrawnt a gyflenwir gan dîm o hyfforddwyr athrawon y Brifysgol. 

Am wybodaeth bellach am y cwrs a sut i gofrestru, cysylltwch â'r tîm hyfforddi athrawon ELTS ar Abertawe 01792 295391 neu e-bostiwch p.l.neville@abertawe.ac.uk