Bionema Ltd a Phrifysgol Abertawe i gynnal yr Uwchgynhadledd gyntaf ar Fioblaladdwyr yn 2019

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe a'r cwmni Bionema Ltd sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnal yr Uwchgynhadledd gyntaf ar Fioblaladdwyr y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael รข'r angen dybryd i ddatblygu opsiynau gwahanol i blaladdwyr cemegol.

Minshad and VCAr ôl i'r Undeb Ewropeaidd (UE) ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd (EPA) wahardd plaladdwyr cemegol yn ddiweddar, awgrymir bod risgiau sylweddol i ddiogelwch bwyd, iechyd dynol a'r amgylchedd.

Bydd yr Uwchgynhadledd ar Fioblaladdwyr yn 2019 yn canolbwyntio ar ddatblygu a chyflwyno atebion arloesol ac amgen i fioreoli a fydd yn helpu i ddiogelu ein cadwyn fwyd mewn modd penodol ond amserol.

Bioblaladdwyr yw'r dewis naturiol arall i gemegolion gwenwynig – planhigion, bacteria, ffwng a mwynau ar gyfer rheoli plâu pryfed sy'n ymosod ar fwydydd a chnydau eraill.

Roedd y farchnad bioblaladdwyr fyd-eang yn werth oddeutu $3.36 biliwn yn 2016, a rhagamcanir y bydd yn cyrraedd $8.82 biliwn erbyn 2022, ar Gyfradd Twf Cyfansawdd Flynyddol o 17.4% o 2016 hyd at 2022. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol yn y diwydiant bioblaladdwyr, trafodir y cyfyngiadau mawr sy'n gysylltiedig â'r atebion cyfredol i bioblaladdwyr. Mae angen dybryd i ddatblygu cynnyrch newydd a thechnolegau cymhwyso i "lenwi'r bylchau" yn y farchnad o ganlyniad i gael gwared ar blaladdwyr, yn ogystal â rhagweld y gofynion yn y dyfodol wrth i bryfed ddatblygu ymwrthedd i'r pryfleiddiaid a ddefnyddir ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae galw cynyddol gan ddefnyddwyr am dyfwyr sy'n mân-werthu i leihau eu defnydd o blaladdwyr cemegol wrth gynhyrchu cnydau, ac i dyfu llysiau a phlanhigion sydd â llai o weddillion y mae modd eu canfod.

Bydd yr Uwchgynhadledd ar Fioblaladdwyr yn 2019 yn dod â gwyddonwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant, sefydliadau yn y llywodraeth, buddsoddwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr rheoli plâu integredig ynghyd i drafod yr heriau a wynebir a'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Uwchgynhadledd hefyd yn cynnig mewnwelediadau gan farchnadoedd defnydd terfynol, a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad cynnyrch mewn sectorau gwahanol.

Bydd yr Uwchgynhadledd yn:

•           Tynnu sylw at yr heriau byd-eang y mae tyfwyr a rheoleiddwyr heddiw yn eu hwynebu ac yn mynd i'w hwynebu yn y dyfodol

•           Dod â'r byd academaidd, y diwydiant a buddsoddwyr ynghyd i fasnacheiddio datblygiadau newydd 

•           Edrych ar gyfarpar a dulliau newydd a ddefnyddir i gyflymu'r broses o ddarganfod bioblaladdwyr newydd.

•           Cyfle i glywed am dechnolegau arloesol a strategaethau cymhwyso fformwleiddiad.

Dywedodd Dr Minshad A Ansari, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bionema:

"Mae Prifysgol Abertawe, cydweithredwr blaenllaw yn y biowyddorau ac un o’r 30 o brifysgolion gorau yn y Deyrnas Gyfunol, yn falch o gynnal y cyfarfod hwn, a fydd yn creu cyfleoedd i gydweithwyr ddatblygu cydweithrediadau strategol, i gyflymu masnacheiddio cynnyrch bioreoli newydd ac i gefnogi gweithredu strategaethau difa pla newydd a fydd yn cyfrannu at wella iechyd dynol a chreu amgylchedd mwy diogel.

Diben yr Uwchgynhadledd hon, y digwyddiad cyntaf o'i fath, yw pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd, y diwydiant a rheoleiddwyr mewn ymgais i gyflwyno arloesedd a chynnyrch newydd i fodloni'r galw cynyddol am gnydau diogel heb weddillion. Mae Bionema, datblygwr technoleg blaenllaw, yn falch o noddi'r Uwchgynhadledd."

Mynegwch eich diddordeb drwy anfon e-bost.