Arbenigwyr diabetes yn y Brifysgol yn rhannu ymchwil arloesol ynglŷn â thîm beicio elît

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mewn cynhadledd ryngwladol, mae arbenigwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Abertawe wedi rhannu eu hymchwil flaenllaw i sut mae beicwyr elît yn ymgodymu â diabetes.

600 x 400

Cyflwynodd yr ymchwilwyr eu canfyddiadau yn Sesiynau Gwyddonol Cymdeithas Diabetes America, a gynhaliwyd yn San Francisco. Dyma sesiynau o fri y mae’r academyddion a gweithwyr iechyd mwyaf blaenllaw yn mynd iddynt. 

Olivia at conference Treuliodd y tîm, dan arweiniad yr Athro Cyswllt Richard Bracken, 10 niwrnod ar ddechrau’r flwyddyn yn astudio beicwyr o Dîm Novo Nordisk yn ystod gwersyll hyfforddiant dwys yn Sbaen. 

Olivia McCarthy yn trafod canfyddiadau’r tîm yng nghynhadledd Cymdeithas Diabetes America. 

Cafodd y tîm beicio, sef yr unig dîm beicio proffesiynol o feicwyr â diabetes math 1, ei fonitro’n ofalus i ddysgu mwy am sut roedd eu cyrff yn ymdopi â threulio hyd at chwe awr ar gefn beic. 

Roedd Dr Bracken, Dr Othmar Moser, Max Eckstein ac Olivia McCarthy, o’r Coleg Peirianneg, yn rhan o dîm byd-eang o arbenigwyr o’r DU, UD, Canada, Awstria, yr Eidal a’r Swistir a gyflwynodd ymchwil yn seiliedig ar eu hastudiaethau yn y gynhadledd yn America.

Dyma’u pynciau: 

  • Perfformiad melys: Cysylltiadau rhwng perfformiad ffisiolegol uchaf â diabetes mewn grŵp o feicwyr ffordd o'r radd flaenaf sydd â diabetes math 1 (Max Eckstein)
  • Amser a dreuliwyd mewn amrediadau glycaemic a chymeriant carbohydradau wrth feicio mewn beicwyr proffesiynol â diabetes math 1 (Olivia McCarthy)
  • Treulio mwy o amser mewn hypoglycemia yn ystod y nos nag yn ystod y dydd yn ystod hyfforddiant dwys mewn beicwyr proffesiynol â diabetes math 1 – darpar astudiaeth arsylwadol   (Othmar Moser)

Dywedodd Dr Bracken: “Roedd gallu astudio’r beicwyr yn ystod eu hyfforddiant yn gyfle gwych i ni. 

"Roeddem eisiau cael rhagor o wybodaeth am ffisioleg unigryw'r athletwyr elît hyn, er mwyn deall yn well eu hymatebion i ymarfer corff eithafol a'r strategaethau y maen nhw'n eu defnyddio – pethau megis eu cymeriant bwyd, eu cwsg ac addasiadau i'w meddyginiaeth. 

“Yn sgil hyn, cawsom wybodaeth bwysig yr oedd modd i ni ei rhannu â chynulleidfa ryngwladol mewn cynhadledd yn ogystal ag mewn cyfnodolion gwyddonol.” 

Richard bracken teamMae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran ymchwilio i ddiabetes, ac mae'n gartref i'r Uned Ymchwil Diabetes Cymru enwog .  Erbyn hyn mae disgwyl i berthynas barhaus yr ymchwilwyr â Thîm Novo Nordisk barhau er mwyn cael dealltwriaeth well o’r cyflwr. 

Dr Othmar Moser, Dr Richard Bracken, Olivia McCarthy a Max Eckstein yn Slofenia.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Tîm Novo Nordisk, Phil Southerland: “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o ymchwil mor arloesol. Cenhadaeth ein tîm yw ysbrydoli, addysgu a grymuso pawb y mae diabetes yn effeithio arnynt. 

”Rydym yn ymrwymedig i ddangos sut mae ein hathletwyr â diabetes yn rasio ar y lefel uchaf bob dydd, ac rydym yn falch y gellir rhannu’r technegau hyn gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bedwar ban byd a helpu i rymuso ac addysgu pobl sydd â diabetes ar sut i drin ymarfer corff.” 

Mae Dr Bracken, ei dîm a chydweithwyr ymchwil o Awstria wedi dychwelyd o Daith Slofenia’n ddiweddar, lle roeddent yn dilyn y beicwyr dros bum niwrnod o’r ras sydd ag achrediad UCI. 

Roedd modd i’r ymchwilwyr fesur lefelau glwcos y beicwyr yn barhaus drwy gydol y ras yn ogystal â rhoi dyfais newydd ar brawf i recordio inswlinau wedi'u chwistrellu, cyfansoddiad prydau bwyd a maeth yn ystod y ras yn awtomatig. 

Ychwanegodd: Mae’r ymchwil hon wir yn ein helpu i roi’r math o wybodaeth y mae ei hangen ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i annog y gymdeithas â diabetes math 1 ehangach i ymgymryd â gweithgarwch corfforol."