Arbenigwr yn galw am weithredu i helpu i wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch i ffoaduriaid

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei chael hi'n anodd cyrchu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd.

Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu bod pobl sy'n chwilio am loches yn teimlo nad oedd eu hangen yn cael ei gydnabod a'u bod yn profi anawsterau iaith a diffyg cyfieithu priodol wrth gyrchu gwasanaethau. 

600 x 360

Dywedodd rhai o'r ymatebwyr fod y straen o fod yn geiswyr lloches neu ffoadur yn cyfrannu at eu hiechyd corfforol a meddwl gwael. 

Mewn arolwg a gynhaliwyd fel rhan o'r astudiaeth, dim ond 36% o'r ymatebwyr a ddywedodd ei bod hi'n hawdd neu'n hawdd iawn gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu.

Fodd bynnag, dywedodd 94% o'r ymatebwyr eu bod wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu ar hyn o bryd. 

Arweiniwyd yr astudiaeth, The Health Experiences of Asylum Seekers and Refugees in Wales, gan Dr Ashra Khanom, sy'n gymrawd ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe

Fe'i cynhaliwyd i ymchwilio i iechyd, lles a phrofiadau gofal iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n oedolion yng Nghymru, gan gynnwys barn a phrofiadau'r rhai sy'n derbyn gofal iechyd a'r rhai sy'n ei ddarparu. 

Dywedodd gweithwyr iechyd proffesiynol o feysydd gofal sylfaenol ac eilradd prif ffrwd fod ganddynt yn aml ddiffyg adnoddau i ddiwallu anghenion pobl sy'n ceisio lloches yn effeithiol. 

Mae'r problemau'n cynnwys diffyg amser staff, diffyg gwybodaeth benodol am bobl sy'n ceisio lloches, a diffyg gwybodaeth mewn ieithoedd priodol. 

Meddai Dr Khanom: “Er bod arfer da yng Nghymru, dylid gwella profiad unigolyn sy'n aml yn ddiamddiffyn o'r system iechyd a lles yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sy'n ymwneud â mynediad i ofal.  

“Mae'r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion allweddol i helpu llunwyr polisi ac ymarferwyr i wella profiad pobl sy'n chwilio am loches wrth gyrchu gwasanaethau iechyd a lles."   

Mae'n argymell:

  • Gwella mynediad at wasanaethau, gyda gwybodaeth ragarweiniol ysgrifenedig wedi'i chyfieithu ynghylch hawliau a chymhwysedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches;
  • Gwella hyfforddiant gweithwyr iechyd ar faterion cymdeithasol a chyfreithiol; a,
  • Gweithio i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd drwy ddefnyddio ymagwedd aml-asiantaeth, i gynnwys gweithio'n agos gyda'r sector gwirfoddol i fwyafu cymorth i bobl sy'n chwilio am loches, gan gynnwys ceiswyr lloches y mae eu ceisiadau wedi'u gwrthod. 

Roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad o'r dystiolaeth bresennol, ynghyd ag arolwg a gweithgaredd grŵp ffocws, a chynnal cyfweliadau â gweithwyr iechyd proffesiynol, i gadarnhau'r hyn sy'n helpu neu'n rhwystro mynediad at ofal iechyd a phrofiadau'r rhai hynny sy'n chwilio am loches. 

Meddai Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud cyfraniad enfawr at y gymdeithas  yng Nghymru.  Fodd bynnag, gall y profiad o chwilio am loches drawmateiddio, gan ychwanegu at brofedigaeth, colled a straen pontio sy'n bodoli eisoes. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pawb yn ein cymunedau a sicrhau na chaiff neb ei adael ar ei ôl.  

“Mae'r adroddiad hwn yn dod i'r casgliad bod yn rhaid i Gymru fynd gam ymhellach na'r camau presennol os yw'n mynd i gyflawni ei huchelgais o fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, yn dilyn cyhoeddi cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru."