Arbenigedd y Brifysgol i helpu gwella deilliannau cyfreithiol i blant a theuluoedd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd prosiect mawr newydd yn manteisio ar arbenigedd a seilwaith Banc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) Prifysgol Abertawe er mwyn darparu gwybodaeth hanfodol am y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru a Lloegr, i helpu cefnogi’r deilliannau gorau posibl i blant a theuluoedd.

Mae prosiect ar y cyd rhwng Banc Data SAIL Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Caerhirfryn, wedi ennill grant o £2.2 miliwn gan Sefydliad Nuffield i greu’r bartneriaeth ddata sy’n ganolog i Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (Nuffield FJO).

Bydd y prosiect pedair blynedd a hanner yn cyfuno seilwaith ac arbenigedd technegol Banc Data SAIL â’r doniau ymchwil blaenllaw i gyfiawnder teuluoedd ym Mhrifysgol Caerhirfryn er mwyn darparu ffynhonnell enfawr o ddata i wella’r ddealltwriaeth o sut mae’r system cyfiawnder teuluol yn perfformio a sut y gallai gael ei gwella.

Bydd y bartneriaeth ddata yn elfen hanfodol o waith Nuffield FJO, gan alluogi i setiau data presennol gael eu cysylltu â’i gilydd a’u dadansoddi, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymchwilwyr a dadansoddwyr.

Meddai Rob Street, Cyfarwyddwr Cyfiawnder yn Sefydliad Nuffield:

“Bydd y bartneriaeth ddata newydd gyda Banc Data SAIL a Phrifysgol Caerhirfryn yn ganolog i genhadaeth Nuffield FJO, sef gwella bywyd plant a theuluoedd trwy ddefnyddio data a thystiolaeth ymchwil yn well. Bydd yn gwella’r ddealltwriaeth o’r modd y mae’r system cyfiawnder teuluol yn gweithio ac yn ein galluogi ni i rannu’r ddealltwriaeth honno gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch plant agored i niwed.”

 Nuffield Foundation

Mae Banc Data SAIL, a ddatblygwyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn cadw biliynau o gofnodion dienw am unigolion, ac mae’n storfa ddata ag enw da iddi’n rhyngwladol sy’n darparu modd diogel a dibynadwy o ddefnyddio data ar raddfa’r boblogaeth i gynyddu ansawdd ymchwil a faint o ymchwil a wneir, a helpu i lunio polisïau’n well, arfer yn well a sicrhau llesiant gwell i ddinasyddion.

Gyda chymorth Canolfan Ymchwil i Ddata Gweinyddol Cymru (ADRC Wales), bydd Banc Data SAIL, fel rhan o’r prosiect mawr newydd hwn, yn cadw’r data gweinyddol gwerthfawr a gedwir gan Cafcass (Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd) yn Lloegr a Cafcass Cymru yng Nghymru, a galluogi’r holl ddata i fod ar gael i ymchwilwyr y Deyrnas Unedig.

Bydd set ddata Cafcass Cymru yn cael ei chysylltu â setiau data iechyd ac addysg, a setiau data eraill  cymdeithasol a llywodraethol sy’n cael eu casglu fel mater o drefn yn gysylltiedig ag unigolion sy’n byw yng Nghymru, sydd eisoes ar gael ym Manc Data SAIL.

Yn ogystal, bydd set ddata Cafcass yn Lloegr yn cael ei chyfuno â data arall o Loegr. Bydd y data hyn yn rhoi cyfle i ymchwilwyr archwilio nodweddion a llwybrau plant a theuluoedd drwy wasanaethau, a deall eu deilliannau’n gliriach.

Meddai Teresa Williams, Cyfarwyddwr Strategaeth yn Cafcass Lloegr:

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Blaenoriaeth allweddol yn strategaeth Cafcass at y dyfodol yw sicrhau ein bod yn datgloi’r mewnwelediadau cyfoethog yn ein data ynghylch y plant a’r teuluoedd sy’n ddigon anffodus i ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder teuluol. Yn rhy aml, ‘diffyg cysylltiad am amser rhy hir, yna gormod, yn rhy hwyr’, yw profiad plant a theuluoedd yn y system. Mae potensial enfawr i ddata cysylltiedig wella dealltwriaeth o’r cyfleoedd i ymyrryd yn gynt trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus ledled Cymru a Lloegr.”

Meddai Nigel Brown, Prif Weithredwr Cafcass Cymru:

“Mae’r bartneriaeth unigryw rhwng Banc Data SAIL, Prifysgol Caerhirfryn ac Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield yn cynnig cyfle gwirioneddol gyffrous, trwy gysylltu data dienw ac ymchwil, i gael dealltwriaeth well, ar lefel sylfaenol, o brofiadau a deilliannau’r plant a’r teuluoedd niferus sy’n dod ar draws y system Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru a Lloegr. Y gobaith wedyn yw y bydd y dysgu a ddaw o’r bartneriaeth hon yn annog gwelliannau ar draws y system gyfan er budd plant a theuluoedd yn y dyfodol.”

Bydd yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a’r Athro Karen Broadhurst o Brifysgol Caerhirfryn, yn cyd-arwain y prosiect hwn, gan arwain tîm rhyngddisgyblaethol hynod fedrus o wyddonwyr data, ystadegwyr ac ymchwilwyr i bolisi cymdeithasol a chyfiawnder teuluol.

400 x 300

Meddai’r Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr partneriaeth ddata Nuffield FJO a Chyfarwyddwr Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe:

“Bydd y seilwaith a’r arbenigedd ym mhartneriaeth ddata newydd Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, o’r diwedd, yn gwireddu’r posibilrwydd o ddatblygu dealltwriaeth wirioneddol hanfodol o sut mae’r system gyfiawnder yn cefnogi plant a ph’un a all y system gael ei gwella.

“Am y tro cyntaf, fwy neu lai, bydd cysylltu data o bob rhan o’r system cyfiawnder a thu hwnt yn galluogi ymchwilwyr i fwrw goleuni ar bynciau sydd wedi bod yn anweladwy, i raddau helaeth, i ymarferwyr a llunwyr polisi hyd yn hyn. 

“Yn ogystal ag ymgymryd â rhaglen o ddadansoddi data yn soffistigedig, bydd partneriaeth ddata Nuffield FJO yn cynorthwyo cymuned ymchwil ehangach y DU i gael at y data y mae’n ei gadw’n ddiogel ym Manc Data SAIL,  er mwyn cynyddu graddfa’r ymchwil yn sylweddol a, gobeithio, gweld gwelliannau arwyddocaol yn y deilliannau i blant.”

Nod tîm Prifysgolion Abertawe a Chaerhirfryn hefyd yw newid y berthynas sydd gan ymarferwyr a llunwyr polisi â data, trwy sicrhau bod allbynnau’r ymchwil yn mynd i’r afael â phryderon y sector ac o fewn cyrraedd yr ymarferwyr sydd angen yr allbynnau hyn.