Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae staff Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe yn dathlu wedi iddynt ennill prif wobr genedlaethol am ansawdd eu haddysgu.
Fe wnaeth Adran Nyrsio’r Brifysgol gipio teitl Nurse Education Provider of the Year (Cyn-cofrestru) yng Ngwobrau Student Nursing Times Awards eleni.
Fe wnaeth y beirniaid ganmol y tîm o fyfyrwyr ynghlwm â chyflwyniad y Brifysgol ac fe wnaethant yn enwedig amlygu eu brwdfrydedd a’u hangerdd yn ogystal â dangos gwir ymroddiad a gwerthfawrogiad o’r broses addysg.
Tîm Adran Nyrsio Prifysgol Abertawe'n dathlu Gwobrau Student Nursing Times Awards
Meddai’r Athro Ceri Phillips, pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: “Rydym yn hynod falch o’n Hadran nyrsio, ond mae’n werth chweil derbyn cydnabyddiaeth allanol am ei henw da – yn enwedig pan ei fod wedi ei seilio ar ganfyddiad ac enwebiad y myfyriwr.
“Rydym yn hynod bles o dderbyn gwobr o'r fath, sydd yn ddiweddar yn sefyll ochr yn ochr ag anrhydeddau eraill, ac yn atgyfnerthu Abertawe fel un o brif ddarparwyr addysg nyrsio yng Nghymru, y DU ac ymhellach dros y ffin."
Roedd gan yr Adran hefyd dri ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn y gwobrau, a gynhelir yn flynyddol i ddathlu llwyddiannau'r gymuned nyrsio myfyrwyr ledled y DU.
Mae aelodau o dîm gwobrwyedig Abertawe bellach yn edrych ymlaen at rannu manylion eu cyrsiau israddedig yn ystod y diwrnodau agored sydd ar ddod.
Cynhelir y digwyddiad nesaf, a fydd yn amlygu nyrsio, bydwreigiaeth a chyrsiau gofal mamolaeth, ar gampws lloeren y Brifysgol ym Mharc Ty Ddewi yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mercher, Mai 15 o 4pm i 7pm.
Mae arweinwyr cyrsiau’n arbennig o awyddus i dynnu sylw at safon yr hyfforddiant a'r gefnogaeth broffesiynol y gallai darpar fyfyrwyr o Orllewin Cymru eu mwynhau yn nes at eu cartref.
Bydd y rhai sy'n mynychu yn cael cyfle i gwrdd â staff yn ogystal â chlywed gan fyfyrwyr cyfredol am eu profiadau.
I Hanna Davies, o Gapel Dewi Aberystwyth, roedd mynychu darlithoedd yng Nghaerfyrddin yn golygu ei bod yn gallu rhannu lifftiau, gan ei helpu i dorri costau wrth iddi gyflawni ei breuddwyd plentyndod.
“Pan yr oeddwn yn ferch fach roedd gan fy nhadcu canser ac roedd bob amser yn dweud wrth fy mam y byddwn un diwrnod yn gwneud nyrs dda a hynny wnaeth fy ysbrydoli i astudio gradd nyrsio,” dywedodd.
Roedd brwdfrydedd dros helpu pobl a'r cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu mai nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Abertawe oedd y dewis perffaith i Elen Martin.
A hithau’n dod o Gaerfyrddin, roedd Elen wrth ei bodd y byddai’r cwrs nid yn unig yn ei galluogi i hyfforddi ar garreg ei drws yng nghampws Parc Ty Ddewi ond hefyd ar wardiau Ysbyty Glangwili.
Meddai: “Ar y diwrnod agored a fynychais, roedd modd gweld y byddai’n brifysgol berffaith ar fy nghyfer – ymddangosodd yn gyfeillgar ac yn groesawgar.
“Ni wnes erioed feddwl y byddwn yn astudio ar lefel gradd! Fy hoff ran yn wir yw’r amrywiaeth o theori ac ymarferol.”
Ychwanegodd Elen: “Fel siaradwraig Cymraeg ni allem fod wedi gofyn am well cefnogaeth o’r brifysgol ynglyn ag astudio yn fy iaith gyntaf. Mae fy nhiwtor personol bob amser wedi cefnogi fy anghenion ac wedi fy narparu gydag adnoddau.”
Bydd hefyd diwrnod agored israddedig arall ym Mhrifysgol Abertawe ar Fehefin 15. Archebwch eich lle nawr.
- Dydd Mercher 8 Mai 2019 17.25 BST
- Dydd Mercher 8 Mai 2019 16.57 BST
- Swyddfa Materion Cyhoeddus, Ffôn: 01792604290