Adran Nyrsio'r Brifysgol ar Restr Fer Gwobrau o Fri

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae safon uchel addysg nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod drwy gyrraedd rhestr fer pedwar categori mewn gwobrau cenedlaethol o fri.

Pan gynhelir Gwobrau’r Student Nursing Times y mis nesaf, bydd Adran Nyrsio'r Brifysgol ar restr fer y categori Darparwr Addysg Nyrsio'r Flwyddyn (Cyn-gofrestru) - er mawr lawenydd i Catherine Williams, Cyfarwyddwr y rhaglen Nyrsio Israddedig. 

600 x 171

Meddai:  "Ein nod yw trin myfyrwyr fel partneriaid a'u cynnwys wrth gynllunio a dilysu rhaglenni a hyd yn oed wrth ddewis ymgeiswyr drwy eu cynnwys ar baneli cyfweld â darpar nyrsys. 

"Mae ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn ac rydym yn falch iawn o gael ein cynnwys ar y rhestr fer eleni." 

Paige Connet White Mae ymroddiad un myfyriwr i fynd i'r afael â bwlio, wedi cael ei gydnabod gan restr fer Gwobr Mary Seacole am Gyfraniad Eithriadol at Amrywiaeth a Chynhwysiant.

‌Mae'r ymgyrch Stand Against Bullying yn cael ei harwain gan Paige Connet White, sy'n aelod o grŵp llywio a sefydlwyd i gynghori Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar brosiectau, yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r cyflwyniad yn amlygu ymrwymiad y Brifysgol i greu amgylchedd gweithio a dysgu lle nad oes lle i aflonyddu ac mae'n cydnabod y gwaith ardderchog a wneir gan fyfyrwyr Abertawe ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Meddai Paige: "Rwy'n gweithio i gefnogi pobl ifanc a'm gobaith yw gwneud gwahaniaeth er mwyn lleihau ymddygiad bwlio, gan addysgu eraill bod bwlio'n gallu cael canlyniadau ofnadwy. Mae'n fraint fawr bod ar y rhestr fer, a gobeithio y bydd hyn yn codi proffil y prosiect ac yn annog eraill i wneud gwahaniaeth." 

Myfyriwr arall a dynnodd sylw panel llunio'r rhestr fer oedd Mitchell Richards sy'n gobeithio ennill y teitl Myfyriwr Nyrsio Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn. 

Mitchell Richards 3Ers dechrau ar y rhaglen yn 2016, mae wedi ymroddi i sicrhau bod ei gyd-fyfyrwyr yn deall sut i ofalu am gleifion ag anableddau dysgu'n well. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio i gasglu 5,000 o lofnodion ar gyfer deiseb i wneud hyfforddiant ym maes anabledd dysgu'n orfodol i bob gweithiwr gofal iechyd. 

Meddai Mitchell, a gafodd ei enwebu gan Catherine Williams: "Rwy'n teimlo'n angerddol iawn am newid byd anabledd dysgu a byddaf yn parhau i ymgyrchu nes bod newidiadau hanfodol yn cael eu gwneud er lles cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid yn unig ym maes gofal iechyd ond mewn cymdeithas ei hun. 

"Doeddwn i wir ddim yn disgwyl unrhyw gydnabyddiaeth. Mae cyrraedd mor bell â hyn a chael fy nghynnwys ar y rhestr fer yn gyflawniad enfawr a thrwy hyn, rwy'n gobeithio y bydd ymwybyddiaeth yn cynyddu.”

Ychwanegodd Catherine: "Rydym bellach yn cynnig sesiynau addysgu a gweithdai i wella dealltwriaeth myfyrwyr o'r heriau sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu. Ein haddewid yw hyfforddi myfyrwyr ym mhob maes nyrsio i fod yn eiriolwyr dros anabledd dysgu a helpu i newid agweddau."

Mae'r Brifysgol hefyd yn gobeithio ennill y wobr am Bartneriaeth y Flwyddyn am ei chydweithrediad â Bwrdd Iechyd PABM yng ngwasanaeth diogelwch canolig Clinig Caswell yn Ysbyty Glanrhyd. Mae'r bartneriaeth hon wedi arwain at sefydlu a datblygu modiwl Materion Cyfoes mewn Gofal Iechyd Fforensig.

Gall staff yn y clinig 61 gwely - gan gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd - elwa o'r hyfforddiant a ddarperir gan y modiwl. Mae'r clinig, sy'n cael ei reoli ar y cyd gan staff yr ysbyty a'r Brifysgol, yn caniatáu darparu dysgu mewn amgylchedd clinigol go iawn, yn ogystal ag ar y campws lle gellir cynnig cymorth academaidd. 

Cynhelir Gwobrau Student Nursing Times eleni ar 26 Ebrill yng Ngwesty'r Grosvenor House, a'u nod yw dathlu a chefnogi cyflawniadau myfyrwyr nyrsio ledled y DU.