Academydd yn Abertawe i drafod effaith cyfryngau digidol ar bobl ag ASD fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd yr Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe'n esbonio sut y gall defnyddio technoleg ddigidol wella lles pobl ag awtistiaeth, yn ogystal ag amlinellu'r niwed posib, mewn cynhadledd arbennig ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd.

Cynhelir y gynhadledd Hyrwyddo Lles Awtistiaeth yn Stadiwm Liberty ar ddydd Mercher 3 Ebrill, a chaiff ei hwyluso gan Dîm Datblygu'r Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) Cenedlaethol.Mae am ddim i bobl awtistig sy'n 16 oed neu'n hŷn, a'u rhieni a'u gwestai.

300 x 225

Bydd yr Athro Phil Reed, o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe, yn trafod apiau cyffredin y mae pobl ag awtistiaeth yn eu defnyddio i'w helpu â thasgau pob dydd ac i leihau straen, ond bydd hefyd yn amlinellu rhai o faglau posib technoleg o'r fath.

Yn y cyfamser, bydd Sara Hounsell o Brifysgol Abertawe'n siarad am y math o gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag awtistiaeth yn y Brifysgol.

Thema'r gynhadledd yw Lles, sy'n cynnwys lles emosiynol, lles corfforol a lles cymdeithasol, a bydd nifer o siaradwyr eraill a gweithdai.

Caiff y gynhadledd ei hwyluso mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Sefydliad y Gweilch.

Meddai'r Athro Phil Reed:

"Mae llawer o bobl ag awtistiaeth yn dibynnu ar dechnoleg ddigidol ar gyfer cyfathrebu, ac mae wedi bod yn hanfodol i lawer. Nid yw'r ffaith bod gan berson ASD, fodd bynnag, yn golygu ei fod yn imiwn i niweidiau posib y dechnoleg hon.

"Mae'r rhain yn cynnwys defnyddwyr eraill, sy'n bwriadu achosi niwed, yn ogystal â'r niwed sy'n dod o orddefnyddio'r dechnoleg ei hun."